Ynglŷn â’r wefan hon

Cefndir

Mae Iechyd yng Nghymru yn ganlyniad prosiect Grymuso Cleifion a Gofalwyr (PCE) a gomisiynwyd gan Hysbysu Gofal Iechyd ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru i alluogi pobl yng Nghymru i gyfranogi llawer mwy o ran eu hiechyd. Un ffordd yw darparu gwybodaeth ddibynadwy am faterion iechyd hanfodol.
Cafodd prosiect PCE ei lywio gan Strategaeth Porth tra phwysig gan GIG Cymru a argymhellodd ddatblygu dwy wefan yn targedu grwpiau gwahanol o ddefnyddwyr. Porth yw Galw Iechyd Cymru wedi ei anelu at y cyhoedd gan ganolbwyntio ar unigolion ac anghenion iechyd a gwasanaeth iechyd y rheiny sy’n ddibynnol arnynt. Iechyd yng Nghymru yw porth sefydliadol GIG Cymru, a gynhelir gan Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru a bydd yn disodli safle rhyngrwyd Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Cymru (HOWIS) ar ddiwedd y Gwanwyn 2010.


Amcan

Nod Iechyd yng Nghymru yw rhoi mynediad i bobl Cymru, yn cynnwys staff y GIG, y byd academaidd, y cyfryngau a sefydliadau partner, i ddolenni gwybodaeth o’r GIG yng Nghymru a’i sefydliadau partner, am iechyd poblogaeth Cymru, a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a ddarperir gan GIG Cymru. Dyma’r pwynt mynediad ar gyfer gwybodaeth ynglŷn â’r hyn yr ydym ni, y GIG yng Nghymru, yn ei wneud, pa mor dda yr ydym yn ei wneud, ac â phwy i gysylltu a sut, swyddi sydd ar gael a’r gyrfaoedd yr ydym yn eu cynnig.


Defnyddio’r wefan

Mae’r wefan yn seiliedig ar thema gyda ffocws ar destunau fel cyflyrau iechyd difrifol, ffordd o fyw a grwpiau poblogaeth. Ar y tudalennau hyn gallwch ddod o hyd i ddolenni testun benodol i bolisïau perthnasol, gwasanaethau, rhaglenni cenedlaethol, mentrau lleol, cyhoeddiadau ac ystadegau. Mae’r dolenni mewn codau lliw i’ch helpu i wahaniaethu rhwng ffynonellau gwybodaeth:

  • Adnoddau sefydliadau GIG Cymru a rhai chwaer-wasanaethau’r GIG yn y DU
  • Galw Iechyd Cymru – gwybodaeth o safbwynt claf am iechyd cyffredinol a’r gwasanaethau iechyd sydd ar gael
  • Dolenni Llywodraeth Cynulliad Cymru a dolenni i bartneriaid sydd yn darparu gwasanaethau i ac ar ran GIG Cymru


Chwiliadau

Mae’r Hafan yn cynnig chwiliad côd post cyflym i wasanaethau lleol meddygon teulu, deintyddion, ysbytai a fferyllwyr o dan bennawd "Dod o Hyd i Wasanaethau Lleol ".

Mae’r Cyfeirlyfr yn gadael i chi bori gwasanaethau yn ôl lleoliad Bwrdd Iechyd Lleol neu fath o wasanaeth:

Mae Chwiliad Safle cyffredinol ar gael o bob tudalen ac mae’n defnyddio technolegau chwilio Google i adfer dolenni a thestun cymorth disgrifiadol i ffynonellau perthnasol.

Mae Chwiliad uwch yn cael ei gynnig hefyd ar y tudalennau canlyniadau chwilio cyffredinol. Mae hyn yn eich galluogi i roi termau chwilio manylach a hidlo eich chwiliad am ganlyniadau gwell os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano i ddechrau.

Mae’r swyddogaeth Chwilio Dogfen yn cynnig chwiliad cronfa ddata ar gyfer nifer o feysydd yn cynnwys teitl dogfen, awdur, testun, geiriau allweddol a disgrifiad meta. Gellir hidlo’r chwiliadau hefyd yn ôl math, fformat ffeil, a llyfrgell. Efallai y bydd yn ddefnyddiol dewis y blwch gwirio Union Chwiliad i gael canlyniadau manylach a gofyn am ganlyniadau chwilio trwy glicio ar ddolenni penawdau colofn e.e. Dyddiad y cyhoeddwyd.


Adborth

Bydd llwyddiant Iechyd yng Nghymru yn dibynnu yn y pen draw ar ei ddefnyddioldeb yn cyfeirio dolenni cynhwysfawr, diweddar a dibynadwy i adnoddau a gwaith holl sefydliadau a phartneriaid gwasanaeth GIG Cymru.
Am y rheswm yma rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau sydd gennych ar gyfer gwella’r wefan ac rydym yn gofyn i chi gysylltu â ni gydag unrhyw ddolenni yr ydych yn dymuno i ni eu cynnwys ar Iechyd yng Nghymru. Defnyddiwch y ffurflen isod: