Ymgyrch 1000 o Fywydau
Nod yr ‘Ymgyrch 1000 o Fywydau’ yw lleihau risgiau i ddiogelwch cleifion drwy roi ymyriadau sy’n achub bywydau ar waith, sydd wedi cael eu datblygu gan glinigwyr yng Nghymru. Mae’r ymyriadau’n cynnwys gwell rheolaeth o feddyginiaethau, lleihau heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd a chymhlethdodau llawfeddygol a gwella gofal meddygol a llawfeddygol cyffredinol.
Drwy gymryd y camau hyn, dywed trefnwyr yr Ymgyrch y gallant atal, 1,000 o farwolaethau y gellir eu hosgoi a hyd at 50,000 o achosion o niwed ledled Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.
