Ymchwil ac adnoddau
Cefndir a Chyd-destun Polisi
Mae Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR), drwy ymgynghori â phartneriaid, yn datblygu polisi ar ymchwil a datblygu er mwyn adlewyrchu blaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Nododd Fframwaith Strategol Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Gymru (Chwefror 2002) feysydd allweddol i fynd i’r afael â hwy: ac mae’n cyflwyno gweledigaeth o’r ffordd y gellir datblygu YaD mewn iechyd i fynd i’r afael â hwy. Mae hefyd yn dangos sut y gellir cyflawni dull yn seiliedig ar dystiolaeth o ddatblygu polisi ac ymarfer.
Mae mwy o wybodaeth yn ymwneud ag ymchwil ar gael isod:
Adnoddau GIG Cymru
Map Meddygaeth
Mae’r Map Meddygaeth yn adnodd clinigol ar-lein yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer proffesiynolion iechyd ar Ddamweiniau ac Achosion Brys, Meddygaeth Fewnol, Iechyd Meddwl, Obstetreg a Gynaecoleg, Oncoleg a Gofal Lliniarol, Pediatreg a Llawdriniaeth. Mae angen manylion mewngofnodi i gael mynediad i’r fersiwn ar gyfer proffesiynolion.
- Map Meddygaeth GIG Cymru (Proffesiynolion)
Mae NHS Choices – ein chwaer wasanaeth yn Lloegr yn cynnig fersiwn o’r Map ar gyfer y cyhoedd.
- Map Meddygaeth NHS Choices (Cleifion)
E-lyfrgell Iechyd GIG Cymru
Mae e-lyfrgell iechyd GIG Cymru yn galluogi staff GIG Cymru i gael mynediad i ystod o adnoddau trwyddedig yn cynnwys cronfeydd data, e-gyfnodolion ac e-lyfrau.
