Telerau Defnyddio
Defnydd a Ganiateir
Rhoddir caniatâd i ymwelwyr â'r wefan hon gael mynediad at yr holl ddeunydd a gyhoeddir ar y safle. Gellir atgynhyrchu'r deunydd hwn yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei atgynhyrchu'n gywir, ac ar yr amod na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol ac na chaiff ei atgynhyrchu er elw masnachol, ailddosbarthu masnachol, neu at ddefnydd masnachol trydydd parti.
Gallwch lawrlwytho'r deunydd a geir ar y wefan hon ar gyfrwng electronig, magnetig, optegol neu ar gyfrwng storio tebyg neu at argraffydd ar gyfer ymchwil anfasnachol, astudiaeth breifat neu at ddefnydd mewnol yn unig.
Pan gaiff unrhyw un o'r eitemau hawlfraint ar y safle hwn ei hailgyhoeddi neu ei chopïo, bydd yn rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint. Nid yw'r hawl i atgynhyrchu deunydd hawlfraint wedi'i ddiogelu yn berthnasol i unrhyw ddeunydd ar y safle hwn. Adwaenir hyn fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael awdurdod i atgynhyrchu'r fath ddeunydd gan y deiliaid hawlfraint o dan sylw.
Gwybodaeth bersonol
Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol (e.e. codau post) yr ydych chi’n ei rhoi i’r wefan hon ei chasglu, ei chadw na’i defnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas ac eithrio’r hyn a ddisgrifiwyd.
Nid ydym yn rhannu’r wybodaeth a roddir gennych chi gydag unrhyw drydydd parti, ac yr ydym yn ei diogelu yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
Diogelwch rhag Firysau
Ymwadiad
Dolenni allanol i wefannau
Ni ddylid derbyn rhestr fel unrhyw fath o ardystiad ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb o ran cynnwys neu o ran canlyniadau dilyn unrhyw gyngor a gynhwysir ar safleoedd o'r fath.
Ni allem warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros p'un a yw'r tudalennau cysylltiedig ar gael ai peidio neu os oes unrhyw newid i gyfeiriad safle.
Mae gan Iechyd yng Nghymru yr hawl i wrthod neu i dynnu dolenni i unrhyw wefan pe byddem yn canfod nad yw cynnwys y safle'n briodol.
