![]() |
Mr. Paul Griffiths – Aelod Annibynnol |
| Yn gyfrifydd cymwys, bu Paul yn gweithio i nifer o Gyrff Cyhoeddus cyn ymuno â’r Comisiwn Archwilio yn 1983. Cafodd ei benodi’n Archwilydd Rhanbarthol yng ngogledd-orllewin Lloegr ym 1990 cyn dychwelyd i Gymru, ei fro gynhenid, mewn rôl debyg ym 1995. Fel Archwilydd Rhanbarthol a Chyfarwyddwr y Comisiwn Archwilio yng Nghymru, roedd Paul yn gyfrifol am archwilio Awdurdodau’r Heddlu, Byrddau Prawf, Awdurdodau Gwasanaethau Tân ac Achub, Awdurdodau Unedol a Byrddau Iechyd yn allanol. Roedd hefyd yn gyfrifol am Strategaethau Iechyd a Chyfiawnder Troseddol, Astudiaethau Iechyd a chydadolygiadau Gwasanaethau Cymdeithasol y Comisiwn. Mae Paul yn gadeirydd y Pwyllgor Archwilio ac mae’n aelod o’r Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch a’r Pwyllgor Cronfeydd Elusennol. |
