![]() |
Mrs June Smail OBE – Aelod Annibynnol |
| Mae June Smail yn nyrs, yn fydwraig ac yn athrawes gymwysedig, a chynt hi oedd pennaeth nyrsio Awdurdod Iechyd Gwent. Yn flaenorol bu’n gweithio ers llawer o flynyddoedd fel ymarferydd nyrs/darlithydd a chynghorydd mewn gofal sylfaenol. Roedd June hefyd yn aelod etholedig o’r UKCC (erbyn hyn y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth), a chadeiriodd bwyllgorau ymddygiad ac iechyd ar gyfer yr UKCC a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Enillodd June OBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2002 am ei gwasanaethau dros nyrsio a gofal iechyd. June yw cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch. |
