![]() |
Dr Rosemary Kennedy CBE OStJ TD. - Cadeirydd |
| Hyfforddodd Rosemary yn Ysbyty St George yn Llundain ar y Cynllun Arbrofol 2+1 ac enillodd y Fedal Aur. Mae hi wedi meddu ar nifer o swyddi uwch yn y GIG gan gynnwys Rheolwr Cyffredinol a Chyfarwyddwr Nyrsio. Cafodd Rosemary ei phenodi’n Brif Swyddog Nyrsio Cymru ym 1999 a hi oedd yn gyfrifol am gyhoeddi nifer o strategaethau nyrsio allweddol ar gyfer Cymru, gan gynnwys. Yn ogystal â hyn, enillodd Rosemary gomisiwn yng Nghorfflu Nyrsio Byddin Frenhinol y Frenhines Alecsandra (Y Fyddin Diriogaethol) ym 1984 a meddodd ar bob swydd uned lefel uchaf gan ddiweddu gyda phenodiad fel Prif Swyddog mewn Ysbyty Maes y Fyddin Diriogaethol. Yn 2008 cafodd ei phenodi gan Ei Mawrhydi'r Frenhines fel Penswyddog Cyrnol Qaranc, y tro cyntaf i’r penodiad hwn wedi’i ennill gan Swyddog yn y Fyddin Diriogaethol. Hefyd derbyniodd Rosemary y CBE ac enillodd Ddoethuriaeth Anrhydeddus o Brifysgol Morgannwg yn 2009. Ar ôl ymddiswyddo fel Prif Swyddog Nyrsio ym mis Medi 2010, cafodd Rosemary ei phenodi’n Gadeirydd Felindre ym mis Ionawr 2011. |
