Rhyddid Gwybodaeth – y Ddeddf
Pasiwyd y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (RhG) ar 30 Tachwedd 2000. Mae’n rhoi hawl mynediad gyffredinol i bob mathau o wybodaeth sydd wedi ei chofnodi gan awdurdodau cyhoeddus, gyda mynediad llawn wedi ei ganiatau yn Ionawr 2005. Mae’r Ddeddf yn gosod yr eithriadau i’r hawl honno ac yn gosod rhwymedigaethau penodol ar awdurdodau cyhoeddus. Darllenwch y Ddeddf gyfan yma.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi cymryd rhan ym mhanel cyfeirio Cymru ar weithredu’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac wedi cytuno i fod yn safle peilot. Mae’r dudalen hon wedi ei llunio er mwyn rhannu’r gwaith sydd wedi ei gwblhau gan Ymddiriedolaeth GIC Felindre gyda gweddil GIC Cymru yn ogystal â’r gymuned ehangach.
Mwy o wybodaeth a chysylltiadau
Os hoffech gyflwyno cais am ryddid gwybodaeth yn unol â’r ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu os oes gennych ymholiad yn ymwneud a’r trefniadau sydd mewn grym er mwyn sicrhau bod Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn cydymffurfio, e-bostiwch ein tîm ‘Gwasanaethau Corfforaethol’ a fydd yn hapus i helpu.
Hefyd, efallai bydd y gwefannau yma o gymorth i chi