Velindre Logo

Ynglyn â’r Llyfrgell

Mae Llyfrgell Ymchwil Canser Cymru yn darparu gwasanaeth llyfrgell llawn ar gyfer holl aelodau staff Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Rydym hefyd yn safle lloeren ar gyfer Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd ac rydym yn ateb gofynion staff a myfyrwyr y Brifysgol.
Ni yw’r unig Lyfrgell Oncoleg arbenigol yng Nghymru ac rydym yn darparu gwasanaeth cyfeirio ar gyfer unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol yng Nghymru na all gael gwybodaeth am ganser yn eu hardal eu hunain.