Velindre Logo

Asesiadau Effaith Cydraddoldeb

Mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi ceisio gwella ei fethodoleg wrth gynnal asesiadau effaith yn dilyn cyflwyno Asesiadau effaith Cydraddoldeb (EQIA) yn 2006. O ganlyniad ers Ebrill 2006 defnyddiwyd fformat newydd ar bob EQIA a gyflawnwyd.

Mae'r fformat newydd yn cynnwys panel gyda chynrychiolaeth o bob rhan o'r Ymddiriedolaeth, gan gynnwys cyllid a chynrychiolaeth staff sy’n cwrdd i gynnal yr asesiad, ynghyd â'r arweinydd polisi. Mae hyn yn arwain at rannu dealltwriaeth a pherchnogaeth o'r broses.

Dyfeisiwyd pecyn cymorth newydd hefyd sy'n edrych ar ymagwedd yn seiliedig ar Hawliau Dynol, ac mae'n cynnwys holl nodweddion a ddiogelir yn ogystal â'r effaith ar yr Iaith Gymraeg a gofalwyr.