Rhyddid Gwybodaeth – y Ddeddf
Pasiwyd y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (RhG) ar 30 Tachwedd 2000. Mae’n rhoi hawl mynediad gyffredinol i bob mathau o wybodaeth sydd wedi ei chofnodi gan awdurdodau cyhoeddus, gyda mynediad llawn wedi ei ganiatau yn Ionawr 2005. Mae’r Ddeddf yn gosod yr eithriadau i’r hawl honno ac yn gosod rhwymedigaethau penodol ar awdurdodau cyhoeddus. Darllenwch y Ddeddf gyfan yma.
Mwy o wybodaeth a chysylltiadau
Os hoffech gyflwyno cais am ryddid gwybodaeth yn unol â’r ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu os oes gennych ymholiad yn ymwneud a’r trefniadau sydd mewn grym er mwyn sicrhau bod Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn cydymffurfio, e-bostiwch ein tîm ‘Gwasanaethau Corfforaethol’ a fydd yn hapus i helpu.
Hefyd, efallai bydd y gwefannau yma o gymorth i chi
- Tudalen y GIG ar Ryddid Gwybodaeth - cyswllt
- Adran Iechyd Rhyddid Gwybodaeth - cyswllt
- Deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth – cyswllt
Cynllun Cyhoeddiadau Ymddiriedolaeth GIG Felindre
Mae’r cynllun cyhoeddiadau yma yn gyflwyniad cyflawn i’r wybodaeth arferol caiff ei hysbysebu gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Mae ein cynllun wedi’i dosrannu mewn i saith rhan a welir isod;
- Pwy ydym ni a beth ydym yn gwneud
- Beth ydym yn gwario a sut ydym yn gwario
- Beth yw ein blaenoriaethau a sut ydym yn llwyddo
- Sut ydym yn gwneud penderfyniadau
- Ein Polisïau a’n trefn
- Rhestrau a Chofrestrau
- Y Gwasanaethau yr ydym yn cynnig