Cofnodion 1 i 25 o 2211
-
Cymru'n symbylu cynnydd mewn cyfiawnder teuluol
Dydd Mawrth, 22 Mai 2012, Llywodraeth CymruMae cyfarfod cyntaf y Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol yng Nghymru wedi ei gynnal heddiw. -
Ddydd Mercher Iach hwn – gwnewch rywbeth da!
Dydd Mawrth, 22 Mai 2012, Bwrdd Iechyd Hywel DdaYn ôl gwaith ymchwil, mae gwneud gweithred dda yn gwella’ch iechyd meddwl. -
Osgoi cwympo
Dydd Llun, 21 Mai 2012, Bwrdd Iechyd Hywel DdaMae partneriaid iechyd yng Ngheredigion yn dod ynghyd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Syrthio er mwyn helpu pobl i osgoi anaf wrth gwympo.
-
Creu gwasanaeth patholeg saffach i gleifion lleol
Dydd Llun, 21 Mai 2012, Bwrdd Iechyd Hywel DdaBydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn creu gwasanaeth patholeg saffach a chynaliadwy i gleifion yn dilyn argymhellion Coleg Brenhinol y Patholegwyr.
-
Gweinidog Iechyd yn Lansio Pecyn Gofal Iechyd y Geg
Dydd Gwener, 18 Mai 2012, Llywodraeth CymruMae’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi lansio pecyn gofal a fydd yn safoni ac yn gwella iechyd y geg mewn ysbytai ym mhob cwr o Gymru. -
Tîm Iechyd Cyhoeddus Powys yn nodi Mis Ymwybyddiaeth o Strôc
Dydd Gwener, 18 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae mis Mai yn Fis Ymwybyddiaeth o Strôc, ac mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Powys yn atgoffa trigolion y sir sut i adnabod arwyddion strôc. -
Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys
Dydd Gwener, 18 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys trwy amlygu gwaith rhai o’i staff. -
Pobl leol yn dod yn hyrwyddwyr iechyd
Dydd Gwener, 18 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae pobl leol yng Ngwent yn cael cyfle i fod yn hyrwyddwyr iechyd yn eu cymuned, diolch i gynllun newydd a lansiwyd yr wythnos hon. -
Adborth gan gleifion i fesur safon y GIG yn y dyfodol
Dydd Iau, 17 Mai 2012, Llywodraeth CymruMae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau er mwyn sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn derbyn gofal o’r radd flaenaf ar yr adeg ac yn y lle y bydd ei angen arnyn nhw. -
Staff yw’r allwedd i ddyfodol y GIG – Y Gweinidog Iechyd yn lansio fframwaith newydd ar gyfer y gweithlu
Dydd Iau, 17 Mai 2012, Llywodraeth Cymru“Staff yw’r allwedd i lwyddiant y GIG,” Dyna eiriau Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, wrth iddi lansio “Gweithio’n Wahanol – Gweithio Law yn Llaw” – Fframwaith i Ddatblygu’r Gweithlu a’r Sefydliad ar gyfer GIG Cymru. -
Archwiliad Beichiogi yn yr Arddegau
Dydd Iau, 17 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruCafodd yr Archwiliad Beichiogi yn yr Arddegau ei roi ar waith ar draws gwasanaethau diwedd beichiogrwydd GIG Cymru fel rhan o brosiect Iechyd Cyhoeddus Cymru. -
Gweinidog yn croesawu ymgynghoriad ar labeli i helpu bwyta’n iach
Dydd Mercher, 16 Mai 2012, Llywodraeth CymruHeddiw, croesawodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, ymgynghoriad ledled y DU sydd â’r nod o’i gwneud yn haws i bobl ddewis bwydydd iach -
Ehangu prosiect i roi cymorth i bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau
Dydd Mercher, 16 Mai 2012, Llywodraeth CymruMae prosiect sy’n rhoi cymorth i bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ddod yn annibynnol yn ariannol wedi cael hwb gan Lywodraeth Cymru. -
Lleihau achosion strôc yng Nghymru
Dydd Mercher, 16 Mai 2012, Llywodraeth CymruMae cynllun newydd i sicrhau bod achosion strôc yng Nghymru gyda’r isaf yn Ewrop erbyn 2016 wedi’i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru. -
Gwasanaethau yng Nghymru yn dod ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’
Dydd Mercher, 16 Mai 2012, Llywodraeth CymruMae’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi lansio ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’, sef ymagwedd strategol Llywodraeth Cymru tuag at iechyd a lles meddwl. -
'Cerddwch i'r Gwaith' yr wythnos hon
Dydd Mercher, 16 Mai 2012, Bwrdd Iechyd Hywel DdaMae’n wythnos genedlaethol ‘Cerdded i’r Gwaith’ yr wythnos yma. Ddydd Mercher Iach hwn, beth am ystyried y newidiadau bach y gallwch eu gwneud i’ch teithiau bob dydd er mwyn gwella’ch iechyd? -
Ein Harwr Iechyd Arbennig Ni
Dydd Mawrth, 15 Mai 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrCafodd Bydwraig Cymuned sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr syrpreis ei bywyd yr wythnos ddiwethaf pan gyflwynodd Dr Hilary Jones o’r rhaglen ITV ‘Daybreak’ ‘Dr Hilary’s Health Heroes Award’ iddi. -
Canlyniadau arolwg o heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd
Dydd Iau, 10 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau astudiaeth Ewropeaidd i gasglu data ar heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, y defnydd o ddyfeisiau meddygol a’r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd mewn ysbytai. -
Staff Bwrdd Iechyd yn helpu gyda phrosiectau cymunedol
Dydd Iau, 10 Mai 2012, Bwrdd Iechyd Hywel DdaMae staff Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. -
Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
Dydd Mercher, 9 Mai 2012, Bwrdd Iechyd Cwm TafMae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn Arolwg o Ofal Iechyd ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. -
Y TREFNIANT GORAU AR GYFER GWASANAETHAU YSBYTAI CYMRU – adroddiad gan Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru
Dydd Mercher, 9 Mai 2012, Bwrdd Iechyd Cwm TafCynhyrchwyd yr adroddiad gan Yr Athro Marcus Longley MA (Oxon), MSc Econ, PhD, FFPH, AHSM , Cyfarwyddwr Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ac Athro Polisi Iechyd Gymhwysol ym Mhrifysgol Morgannwg. -
Clinig newydd y llygaid ar daith
Dydd Mercher, 9 Mai 2012, Bwrdd Iechyd Hywel DdaMae cymunedau’n elwa ar wasanaeth newydd sy’n rhoi triniaethau’r llygaid yn agosach i’r cartref. -
Cyhoeddir adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) heddiw yn dilyn Arolwg o Ofal Iechyd ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
Dydd Mercher, 9 Mai 2012, Arolygiaeth Gofal Iechyd CymruMae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ar ‘Ofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.’ -
Byddwch yn actif Ddydd Mercher Iach hwn
Dydd Mercher, 9 Mai 2012, Bwrdd Iechyd Hywel DdaDdydd Mercher Iach hwn, beth am ystyried gwneud newidiadau bach i’ch gweithgareddau bob dydd er mwyn gwneud 30 munud o ymarfer corff, bum diwrnod yr wythnos? -
Achos o cryptosporidiosis yn cael ei ymchwilio mewn ysgol yng Nghaerdydd
Dydd Gwener, 4 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerdydd yn ymchwilio i sawl achos o salwch dolur rhydd ymysg disgyblion chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, Caerdydd.
Cofnodion 1 i 25 o 2211
