Dydd Mercher, 2 Mawrth 2011
Mae meddalwedd a ddatblygwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn helpu i achub bywydau pobl sydd â chanser y coluddyn yng Ngogledd Iwerddon.
Defnyddir y System Rheoli Gwybodaeth ar Sgrinio Coluddion (BSIMS) i adnabod a gwahodd pobl sy’n gymwys ar gyfer sgrinio coluddion, yn olrhain eu hymateb i’r gwahoddiad ac yn cadw cofnod o ganlyniadau’r sgrinio.
Cafodd ei datblygu’n wreiddiol ar gyfer Sgrinio Coluddion Cymru yn 2008 ac ar ôl iddi lwyddo cafodd ei mabwysiadu gan Ogledd Iwerddon i gynnal ei rhaglen sgrinio coluddion ac ers ei chyflwyno flwyddyn yn ôl cafodd bron 40,000 o bobl eu sgrinio.
Dywedodd Dr Tracy Owen, Ymgynghorydd Arweiniol gyda Rhaglen Gogledd Iwerddon ar gyfer Sgrinio Coluddion, “Mae’r system yn rhoi mecanwaith ardderchog i ni ar gyfer rheoli’r broses sgrinio yng Ngogledd Iwerddon, sydd o fudd i’r boblogaeth sy’n cymryd rhan”.
Mae’r system yn parhau i fod yn llwyddiant yng Nghymru a chafodd 420,000 o bobl eu sgrinio ers 2008. Canser y coluddyn yw’r trydydd achos marwolaeth mwyaf ar gyfer dynion a menywod yng Nghymru. Mae sgrinio coluddion yn canfod canser y coluddyn yn gynnar, yn aml pan nad oes unrhyw symptomau, ac eto pan fydd triniaeth yn fwyaf effeithiol.
Ym mis Hydref 2010, cyrhaeddodd y broses sgrinio garreg filltir bwysig, oherwydd cafodd rhai o’r cyfranogwyr gwreiddiol yng Nghymru eu galw’n ôl i gael adolygiad ar ôl dwy flynedd. Hefyd cafodd yr ystod oedran o bobl a wahoddwyd ei ymestyn i gynnwys unigolion rhwng 60 a 71 oed.
Dywedodd Stephen Price, Pennaeth Gwasanaethau Gwe a Sgrinio yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, “Mae’n foddhaol gweld rhywbeth rydych chi wedi ei ddatblygu o fudd i iechyd pobl yng Nghymru.”
Dywedodd Stephen Price, Pennaeth Gwasanaethau Gwe a Sgrinio yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, “Mae’n foddhaol gweld rhywbeth rydych chi wedi ei ddatblygu o fudd i iechyd pobl yng Nghymru.”
Sylwodd Hayley Heard, pennaeth rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru, “Rydym yn bwriadu cynyddu’r oedran i 74 fel y bydd y gallu mewn canolfannau asesu yn caniatáu; ar hyn o bryd, yn gyffredinol, mae 56% o bobl yn derbyn y gwahoddiad”. Ychwanegodd, “Rydym wedi canfod 417 canser ers i’r rhaglen ddechrau”.
Mae datblygiadau o ran y feddalwedd yn parhau, wrth i ymarferoldeb newydd gael ei ychwanegu i gynnal y Rhaglen Sgrinio Coluddion wrth iddi ehangu.
Ffynhonnell:
Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru