- Adroddiad ar astudiaeth o daldra a phwysau plant (Saesneg yn unig)
- System Ddiogel ar gyfer Cysylltu Gwybodaeth Ddienw (SAIL)
- Asthma yn Abertawe (2009) (Saesneg yn Unig)
- Cyhoeddiadau staff yr Arsyllfa
- Rhestr cyhoeddiadau
- Ymchwil iechyd cyhoeddus
Adroddiad ar astudiaeth o daldra a phwysau plant (2009) (Saesneg yn unig)
Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canfyddiadau astudiaeth i ymchwilio i ymarferoldeb rhaglen genedlaethol i fesur taldra a phwysau plant. Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Edwina Hart, wedi derbyn yr adroddiad a’i argymhellion. Cynhaliwyd yr astudiaeth yn 2009 gan yr Arsyllfa, sy'n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chymorth sefydliadau eraill gan gynnwys Ysgol Feddygaeth ac Ysgol Iechyd a Gwyddorau Dynol Prifysgol Abertawe, a ddarparodd gymorth ymchwil.
System Ddiogel ar gyfer Cysylltu Gwybodaeth Ddienw (SAIL)
Mae SAIL yn offeryn ymchwil a ddatblygwyd ac sy'n cael ei gynnal a'i gadw gan yr Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd (HIRU), Prifysgol Abertawe ac mae ar gael i’w ddefnyddio gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Asthma yn Abertawe (2009) (Saesneg yn unig)
Roedd hon yn astudiaeth a gafodd ei chynllunio gan Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru ar y cyd â HIRU. Cafodd yr astudiaeth ei chynnal mewn ymateb i ymholiad gan grŵp o breswylwyr Abertawe ynglŷn â’r effaith niweidiol bosibl i iechyd yn sgîl byw ger safle tirlenwi. Gofynnwyd i GICC amcangyfrif nifer yr achosion o asthma ar lefel ardal fach er mwyn penderfynu a oedd y data yn ategu pryderon y preswylwyr mewn perthynas ag asthma.
Cyhoeddiadau staff yr Arsyllfa
Cofrestr cyhoeddiadau ar gyfer staff Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cofrestr cyhoeddiadau staff Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae’r Llyfrgell a’r Gwasanaeth Rheoli Gwybodaeth yn cadw cofrestr cyhoeddiadau ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd. Mae’r gofrestr yn cynnwys cyhoeddiadau staff Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru rhwng 2003 a 2009 a chafodd ei hymestyn i gynnwys cyhoeddiadau holl staff Iechyd Cyhoeddus Cymru o 2010 ymlaen.
Ymchwil iechyd cyhoeddus
Mae nifer o unedau a sefydliadau sy’n gysylltiedig ag iechyd cyhoeddus sy’n cynnal ymchwil a datblygu. Isod mae rhestr o’r sefydliadau sy’n ymwneud â data a/neu dystiolaeth ac yn gysylltiedig â Chymru.
- CAPIC: Cydweithredu er mwyn Lleihau Damweiniau a Rheoli Anafiadau
- Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd
- CEPhI: Canolfan Economeg a Pholisi Iechyd – Prifysgol Cymru, Bangor
- CHIRAL: Canolfan ar gyfer Gwybodaeth Iechyd, Ymchwil a Gwerthuso – Prifysgol Abertawe
- CISHE: Athrofa y Gymdeithas, Iechyd a Moeseg Caerdydd
- DECIPHER: Canolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd
- HIRU: Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd – Prifysgol Abertawe
- IMSCaR: Athrofa Ymchwil Feddygol a Gofal Cymdeithasol – Prifysgol Cymru, Bangor
- Y Sefydliad Iechyd Gwledig
- NISCH: Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd
- SURE: Uned Gymorth ar gyfer Tystiolaeth Ymchwil – Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Abertawe
- Prifysgol Morgannwg
- Ymchwil a Datblygu Ymddiriedolaeth GIG Felindre
- Arsyllfa Wledig Cymru
- WHIASU: Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru – Athrofa Caerdydd
- WISERD: Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru
Mae gwybodaeth am waith Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd ar gael.

