Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda

 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda: Crynodeb o’r Proffil Demograffeg  (PDF, 407KB) 

Cynhyrchwyd y dudalen we hon fel rhan o broffil Demograffeg 2009 ac mae'n cynnwys gwybodaeth a oedd yn gywir pan gafodd ei chyhoeddi (Hydref 2009).  Am wybodaeth fwy cyfredol, mae'r map rhyngweithiol ar hafan yr Arsyllfa yn cynnwys set ehangach o ddangosyddion a gaiff ei diweddaru'n rheolaidd.  Ceir gwybodaeth ychwanegol hefyd ar y tudalennau pynciau.
 
Boathouse - Dylan Thomas
 

Allwedd

Lle gwelir yr eiconau hyn wrth ymyl pwnc, bydd clicio arnynt yn mynd â chi at wybodaeth bellach.
 
Data with commentary Data gyda sylwebaeth
Glossary Geirfa
Health Maps Wales Mapiau Iechyd Cymru Additional resources Adnoddau ychwanegol
Methods & notes Dulliau a nodiadau  
 

Cyflwyniad

Ardal Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) Prifysgol Hywel Dda, sydd yn cwmpasu chwarter ehangdir Cymru (5,781 km sgwâr), yw’r ail ardal BILl brinnaf ei phoblogaeth. O fewn BILl Prifysgol Hywel Dda, mae Sir Gaerfyrddin yn cwmpasu 41 y cant o’r arwynebedd tir.
 

Map rhyngweithiol o’r ardal

Glossary Additional resources Health Maps Wales
Gellir defnyddio Mapiau Iechyd Cymru i weld lleoliad ysbytai acíwt yn ogystal â ffiniau BILl, awdurdodau lleol (neu unedol). Cyflwynir dadansoddiadau ar lefel ardal fach ar gyfer nifer o ddangosyddion, gan gynnwys ardal cynnyrch ehangach haen uwch (USOA), ardal cynnyrch ehangach haen ganolig (MSOA) ac ardal cynnyrch ehangach haen is (LSOA).
 
Maint ardal

Cilomedrau Sgwâr

Methods & notes  Additional resources
BILl Prifysgol Hywel Dda
Ceredigion      
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Cymru
DU
5,781 
1,790
1,619
2,372
20,780
244,168
 

Poblogaeth

Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn

Cynhyrchir amcangyfrifon poblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), ac maent yn ystyried genedigaethau, marwolaethau, ac amcangyfrif o fudo rhwng y cyfrifiad diwethaf a chanol y flwyddyn gyfredol. [1]
 
Amcangyfrifir mai poblogaeth Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) Prifysgol Hywel Dda oedd 375 o filoedd, neu 13 y cant o boblogaeth Cymru yn 2007.
 
Amcangyfrifon Poblogaeth  Canol Blwyddyn

Miloedd, 2007

Glossary  Methods & notes  Additional resources  Health Maps Wales  
 (1.5 MB)
BILl Prifysgol Hywel Dda
Ceredigion      
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Cymru
DU
375.2       
77.8
117.9
179.5
2,980.0
60,975.0
 
 
Cyfeiriadau
  1. Ystadegau Gwladol. Population estimates. A short guide to population estimates. (Llundain:SYG; 2004 [mynediad 2 Mehefin 2009])

Poblogaethau Cofrestredig

Mae rhyw 387,800 o unigolion wedi cofrestru gyda meddygfeydd teulu BILl Prifysgol Hywel Dda [neu gyfwerth cyn mis Hydref 2009]. Mae rhagor o wybodaeth a sylwadaeth ar gael.

Dwysedd Poblogaeth

Mae dwysedd poblogaeth yn rhoi mesur o nifer y bobl sy’n byw mewn ardal. Fe’i cyfrifir trwy rannu’r boblogaeth yn ôl yr ardal ddaearyddol mewn cilomedrau sgwâr. Mae dwysedd poblogaeth yn uwch mewn ardaloedd trefol, ac yn is mewn ardaloedd gwledig.
 
Mae dwysedd poblogaeth yn rhoi mesur o nifer y bobl sy’n byw mewn ardal. Fe’i cyfrifir trwy rannu’r boblogaeth yn ôl yr ardal ddaearyddol mewn cilomedrau sgwâr. Mae dwysedd poblogaeth yn uwch mewn ardaloedd trefol, ac yn is mewn ardaloedd gwledig. 
Ardal Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) Prifysgol Hywel Dda, sydd yn cwmpasu chwarter ehangdir Cymru, yw’r ail ardal BILl brinnaf ei phoblogaeth, ac mae’n cynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. O fewn BILl Prifysgol Hywel Dda, Ceredigion yw’r ardal awdurdod lleol ail brinnaf ei phoblogaeth yng Nghymru, ar ôl Powys.
 
Dwysedd Poblogaeth

Pobl fesul cilomedr sgwâr, 2007

Glossary  Methods & notes  Additional resources  Health Maps Wales
BILl Prifysgol Hywel Dda
Ceredigion      
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Cymru
DU
64.9
43.5
72.9
75.7
143.4
251.0
 

Amcanestyniadau newid yn y boblogaeth

 

Mae amcanestyniadau poblogaeth wedi’u seilio ar ragdybiaethau; maent yn dangos beth allai ddigwydd pe bai tueddiadau diweddar o ran genedigaethau, marwolaethau a niferoedd yn mudo yn parhau. [1] 
 
Mae amcanestyniadau cyfredol yn gweld cynnydd yn y boblogaeth hŷn (75 oed a hŷn) ymhlith trigolion BILl Prifysgol Hywel Dda o 35,000 (10 y cant o gyfanswm y boblogaeth) yn 2006 i 70,000 (16 y cant o gyfanswm y boblogaeth) yn 2031. Mae’r cynnydd yn nifer y bobl hŷn yn debygol o achosi cynnydd mewn cyflyrau cronig, fel clefydau cylchredol a chlefydau resbiradol, a chanserau. Bydd diwallu anghenion yr unigolion hyn yn her allweddol i’r byrddau iechyd lleol. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, bydd y cynnydd cymharol (ac absoliwt) yn y boblogaeth sy’n ddibynnol yn economaidd, ac, mewn rhai achosion, y boblogaeth sy’n ddibynnol ar ofal, yn creu heriau penodol i gymunedau.
 
Amcanestyniadau poblogaeth
 
Nifer
  % newid
Cynnydd/gostyngiad rhagamcanol yng nghyfanswm y boblogaeth o 2006 i 2031
Glossary  Methods & notes  Additional resources
 (668 KB)
BILl Prifysgol Hywel Dda
Ceredigion      
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Cymru
DU
63,600
13,500
17,600 
32,500
330,000 
10,500,000
(+17.1%)
(+17.5%)
(+15.0%)
(+18.3%)
(+11.1%)
(+17.4%)
 
Cyfeiriadau
  1. Llywodraeth Cynulliad Cymru. Local Authority Population Projections for Wales (2006-based): Summary Report. Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru; 2008.   [darllenwyd  19 Mai 2009]
 

Poblogaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig

Mae gan bob sefydliad GIG ddyletswydd statudol i hyrwyddo cydraddoldeb hil.  Nid yn unig y gall ethnigrwydd adlewyrchu anghenion penodol o ran iaith a diwylliant, ond o ran anghenion iechyd yn ogystal. Mae pobl o gefndiroedd pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME) yn fwy tebygol o ddod o deuluoedd incwm isel, o ddioddef amodau byw salach, ac o ennill cymwysterau addysgol lefelau is o gymharu â phoblogaethau gwyn.  [1] Yn ogystal, mae gan rai grwpiau BME gyfraddau uwch o rai cyflyrau iechyd.  Er enghraifft, mae risg sylweddol uwch o ddatblygu diabetes gan boblogaethau o dras De Asiaidd a Charibïaidd; mae poblogaethau o dras Bangladeshaidd yn fwy tebygol o osgoi alcohol, ond yn fwy tebygol o ysmygu.  [2]
 
Dengys ffigurau o Gyfrifiad 2001 fod y boblogaeth BME yng Nghymru yn 2.1 y cant, o gymharu â 7.9 y cant yn y DU gyfan.  Mae gan boblogaethau BME, yn gyffredinol, strwythur oed ieuengach o gymharu â phoblogaethau gwyn, ac mae hynny’n adlewyrchu patrymau mewnfudo a ffrwythlondeb y gorffennol.  Rhagwelir y bydd poblogaethau BME yn heneiddio’n gynyddol yn y dyfodol, ond bydd yn dibynnu ar lefelau ffrwythlondeb, cyfraddau marwolaethau a niferoedd net yn mudo yn y dyfodol. [3] 
 
Yn BILl Prifysgol Hywel Dda, mae’r boblogaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME) yn 1.0 y cant. Ar lefel ardal awdurdod lleol, ychydig o amrywio sydd, ac mae’r ffigurau’n amrywio o 0.9 y cant yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin i 1.4 yng Ngheredigion.
 
Mae effaith mewnfudo er Cyfrifiad 2001 yn anoddach ei mesur. Nid oes un set ddata unigol sy’n cadw gwybodaeth am yr holl fewnfudwyr, ac mae llawer o ddiffiniadau a chategorïau gwahanol o ‘fudwyr’.  Mae’r GICC wrthi’n gweithio ar ddadansoddiadau o bobl sy’n cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru, nad ydynt wedi cofrestru felly’n flaenorol yn y DU, ac y mae eu man geni y tu allan i’r DU.  Mae’r dadansoddiadau hyn yn fwy perthynol i niferoedd na mynychder, er gyda rhai cyfyngiadau, ac maent yn dangos tueddiadau demograffig a thymhorol cyfrifiadau cyn 2001, llawer ohonynt o bosibl yn rhagddyddio’r niferoedd mwy diweddar sy’n mewnfudo.
 
Poblogaeth Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig

% y bobl nad ydynt yn bobl wyn, 2001

Glossary  Methods & notes  Additional resources
BILl Prifysgol Hywel Dda
Ceredigion      
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Cymru
DU
1.0%
1.4%
0.9%
0.9%
2.1%
7.9%
 
 
Mae’r gyfradd ffrwythlondeb gyffredinol (GFR) yn fesur o lefelau ffrwythlondeb cyfredol ac mae’n dynodi nifer y genedigaethau byw fesul 1,000 o fenywod 15-44 oed. Er bod y GFR yn ystyried dosbarthiad y boblogaeth yn ôl oed a rhyw, nid yw’n caniatáu ar gyfer carfannau o feintiau gwahanol o fenywod o oed magu plant.
 
Mae GFR ardal BILl Prifysgol Hywel Dda yn is na chyfradd Cymru, ond mae’n adlewyrchu patrwm Cymru yn fanwl (1997-2007). Yn 2007, gan BILl Prifysgol Hywel Dda oedd y GFR isaf o saith o Fyrddau Iechyd Lleol Cymru, ac o fewn BILl Prifysgol Hywel Dda, gan Geredigion y mae’r GFR isaf o holl awdurdodau lleol Cymru.
 
Y Gyfradd Ffrwythlondeb Gyffredinol

Genedigaethau byw fesul 1,000 o fenywod (15-44 oed), 2007 

Glossary  Methods & notes  Additional resources  Health Maps Wales

Data with commentary, Excel (694 KB)
BILl Prifysgol Hywel Dda
Ceredigion      
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Cymru
DU
57.4       
44.6       
61.9
60.6
59.4
61.6
 

Disgwyliad oes

Mae disgwyliad oes adeg geni yn y DU wedi cyrraedd ei lefel uchaf ar gofnod ar gyfer gwrywod a benywod.  Fe allai baban newydd-anedig sy’n fachgen ddisgwyl byw 77.2 o flynyddoedd, a gallai baban newydd-anedig sy’n ferch ddisgwyl byw 81.5 o flynyddoedd pe bai’r cyfraddau marwolaethau yn aros yr un fath ag yr oeddent yn 2005-07. Mae benywod yn parhau i fyw’n hynach na gwrywod; ond mae’r bwlch yn culhau. Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae’r bwlch wedi culhau o 6.0 o flynyddoedd i 4.3 o flynyddoedd. [1]
 
Mae ffigurau ar gyfer poblogaeth BILl Prifysgol Hywel Dda yn dangos bod disgwyliad oes ychydig yn uwch nag ar gyfer Cymru.
 
Disgwyliad oes adeg geni
 
Gwrywod (blynyddoedd)
Benywod(blynyddoedd)
Pobl a anwyd rhwng 2005-07
Glossary Methods & notes Additional resources
BILl Prifysgol Hywel Dda
Ceredigion      
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Cymru
DU
77.1
79.7
76.7
76.2
76.8
77.2
82.0
84.0
81.7
81.4
81.2
81.5
 
Diwygiwyd 17 Ionawr 2011, i gywiro gwall yn y ffigurau disgwyliad oes i wrywod a adroddwyd yn flaenorol yng Ngheredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Cymru a’r Deyrnas Unedig.   
 
Mae data disgwyliad oes diweddarach ar gael gan StatsCymru.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Gellir defnyddio mesurau amddifadedd ar sail ddaearyddol er mwyn dangos anghydraddoldebau mewn iechyd, ac i awgrymu ardaloedd sydd yn fwyaf tebygol o fod angen mesurau i wella iechyd ac i reoli afiechyd. Cynhyrchir Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 ar lefel ardal fach a elwir yn Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA), a deillir hwn o ystod eang o ffactorau.
 
Mae ardaloedd o amddifadedd yn BILl Prifysgol Hywel Dda, gan gynnwys rhannau o Lanelli, Doc Penfro ac Aberteifi. Mae 22 o 230 o’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAau) yn y BILl (10 y cant) ymhlith y pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae 11 o 230 (5 y cant) yn y pumed lleiaf difreintiedig. Fodd bynnag, mae pocedi o amddifadedd cudd o fewn ardaloedd llai difreintiedig yn aml.
 
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

% yr ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (LSOAau) yn y 5ed mwyaf difreintiedig yng Nghymru, 2008

 
Glossary  Methods & notes  Additional resources  Health Maps Wales 
 
 (2.5MB)
BILl Prifysgol Hywel Dda
Ceredigion      
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Cymru
10%
4%
8%
13%
20%
 
 

Anabledd a gofalwyr

Pobl ag Anabledd Corfforol/Synhwyraidd

 
Mae gan gyrff y GIG ddyletswyddau o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005 i roi ystyriaeth ddyledus i hyrwyddo cyfle cyfartal, hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at bobl ag anabledd, ac annog cyfranogiad pobl anabl mewn bywyd cyhoeddus. [1] Diffiniad gwreiddiol Deddf 1995 o anabledd yw ‘nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu [unigolyn] i gyflawni gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd’. [2]
 
Mae llawer o bobl sydd â namau corfforol neu synhwyraidd yn byw’n gwbl annibynnol, ond gall anabledd olygu bod mwy o angen am gymorth a gofal iechyd anffurfiol, ac anghenion gofal a chostau hirdymor. [2] Er nad yw’n ganlyniad anochel heneiddio, mae oed cynyddol yn cael ei gysylltu’n gyffredin ag anabledd cynyddol a cholli annibyniaeth, a namau gweithredol fel colli symudedd, y golwg a’r clyw. [3]
 
Mae’r term anabledd corfforol/synhwyraidd yn cynnwys namau gweledol, namau ar y clyw a namau corfforol; caiff y Gofrestr o Anabledd Corfforol/Synhwyraidd ei llunio o gofrestrau awdurdodau lleol o bobl ag anabledd corfforol neu synhwyraidd yng Nghymru sydd yn 18 oed neu’n hŷn.  Mae’r rhain yn cynnwys pobl sydd wedi cofrestru o dan Adran 29 Deddf Cymorth Gwladol 1948 sydd yn byw yn yr awdurdod lleol fel arfer. Mae cofrestru’n wirfoddol, ac ni fydd pawb ag anableddau yn dewis cofrestru. Nid yw’r cofrestru felly yn ganllaw dibynadwy i fynychder anabledd corfforol a synhwyraidd ymhlith y boblogaeth. [4] Gallai’r cyfrannau uwch o bobl sydd wedi cofrestru adlewyrchu demograffeg yr ardal leol, er enghraifft, poblogaeth breswyl hŷn. Gallai gwahaniaethau mewn gweithdrefnau awdurdodau lleol ddylanwadu ar hyn hefyd, ynghyd â gallu’r awdurdodau lleol hynny i gofrestru pobl fel pobl ag anabledd corfforol/synhwyraidd.
 
Mae 9,344 o bobl ar y Gofrestr Anabledd Corfforol/Synhwyraidd yn ardal BILl Prifysgol Hywel Dda. Mae ychydig dros hanner y bobl sydd wedi cofrestru yn byw yn Sir Gaerfyrddin.
 
Pobl ag Anabledd Corfforol/Synhwyraidd

Nifer y bobl ar gofrestr ALl o bobl ag anabledd corfforol/synhwyraidd, 2007-08

 
BILl Prifysgol Hywel Dda
Ceredigion      
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Cymru
9,344
1,443
2,850
5,051
81,823
 
 
Cyfeiriadau
  1. Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus - Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabaledd 2005 - [darllenwyd 26 Mai 2009]
  2. Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995. Pennod 50 Llundain: Llyfrfa Ei Mawrhydi; 1995 - [darllenwyd 3 Mehefin 2009]
  3. Llywodraeth Cynulliad Cymru 2006. Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru - [darllenwyd 4 Mehefin 2009]
  4. Uned Ddata Llywodraeth Leol - [darllenwyd 28 Mai 2009] 

Gofalwyr

Mae ymchwil yn dangos bod gofalwyr di-dâl, hynny yw, ffrindiau a chymdogion, yn darparu rhyw 70 y cant o ofal yn y gymuned. [1] Mae newidiadau mewn patrymau priodi, cynnydd yn nifer y cartrefi pobl sengl, teuluoedd unig riant a symudedd ymhlith aelodau teulu yn debygol o leihau’r gofal anffurfiol sydd ar gael.  Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd pobl hŷn yn mynd yn sâl, yn anabl, yn fregus neu’n agored i niwed.  Mae gostyngiad yn nifer y gofalwyr anffurfiol yn debygol o gynyddu’r galw am wasanaethau iechyd a chymdeithasol statudol. Wrth i ddisgwyliad oes gynyddu, mae risg y gall gofalwyr barhau â’u rolau gofalu am gyfnodau hwy o lawer. Gallant hefyd fod yn gofalu am bobl ag anghenion lluosog ac anghenion cynyddol gymhleth. [1]
 
Mae awdurdodau lleol yn cofnodi’r nifer o ofalwyr (16 oed a hŷn) sy’n darparu neu sy’n bwriadu darparu gofal sylweddol yn rheolaidd ar gyfer unigolyn arall 18 oed neu hŷn. Cymerir y diffiniad hwn o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000. [3] Ar ôl eu nodi, efallai y cynigir asesiad i ofalwyr er mwyn pennu eu hangen am wasanaethau a thaliadau am ddarparu gwasanaethau iddynt. [2]
 
Mae’r ffigurau hyn yn ymwneud â nifer y gofalwyr a nodwyd yn ystod cyfnod o 12 mis. Efallai nad yw’r ffigur yn adlewyrchu graddau gwirioneddol y rôl ofalu yn y gymuned, gan nad yw rhai pobl o bosibl yn nodi’u hunain fel gofalwr i wasanaethau’r awdurdod lleol.
 
Gallai’r cyfrannau uwch o bobl y nodwyd hwy fel gofalwyr adlewyrchu demograffeg yr ardal leol, er enghraifft, poblogaeth breswyl hŷn. Gallai gweithdrefnau awdurdodau lleol ddylanwadu ar hyn hefyd, ynghyd â gallu’r awdurdodau lleol hynny i nodi unigolion fel gofalwyr.
 
Roedd 673 o ofalwyr wedi’u nodi yn ardal BILl Prifysgol Hywel Dda rhwng 1 Ebrill 2007 a 31 Mawrth 2008. Gan Sir Gaerfyrddin y mae’r gyfradd uchaf, sef 60 y cant.
 
 
Gofalwyr

Nifer y gofalwyr (16 oed a hŷn) a nodwyd yn ystod cyfnod o 12 mis,

2007-08

Methods & notes  Additional resources
BILl Prifysgol Hywel Dda
Ceredigion      
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Cymru
673
166
102
405
9,262
Cyfeiriadau
  1. Llywodraeth Cynulliad Cymru 2007. Cynllun Gweithredu Strategaeth Gofalwyr Cymru 2007 - [darllenwyd 26 Mai 2009]
  2. Uned Ddata Llywodraeth Leol 2009 - [darllenwyd 2 Mehefin 2009]
  3. Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2009. Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 - [darllenwyd 2 Mehefin 2009]

Pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain

Mae trefniadau byw yn bwysig gan y gall pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain roi mwy o alwadau ar wasanaethau cymdeithasol personol o gymharu â phobl hŷn â threfniadau byw eraill. [1] Mae mwy o annibyniaeth ariannol, gwelliannau mewn iechyd ac agweddau tuag at fyw mewn sefydliadau cymunedol yn cyfrannu at y gyfran gynyddol o bobl hŷn sy’n byw’n annibynnol. [2] Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun tueddiadau diweddar yn y boblogaeth, fel y cynnydd yn y gyfran o bobl hŷn sy’n ysgaru. Mae cyswllt agos rhwng tueddiadau felly ag angen cynyddol am gyfleusterau gofal y tu allan i’r teulu. [2]
 
Mae ffigurau o Gyfrifiad 2001 yn adrodd bod 41.9 y cant o bobl hŷn yn byw ar eu pennau’u hunain yn ardal BILl Prifysgol Hywel Dda, o gymharu â 43.0 y cant yng Nghymru gyfan. Fodd bynnag, ar lefel ardal awdurdod lleol, mae’r ffigurau’n amrywio o 40.5 y cant yn Sir Benfro, i 42.6 yn Sir Gaerfyrddin.
 
Pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain

% o bobl 75 oed a hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain, 2001

Glossary  Methods & notes  Additional resources
BILl Prifysgol Hywel Dda
Ceredigion      
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Cymru
DU
41.9%
42.2%
40.5%
42.6%
43.0%
43.7%
 
 
Cyfeiriadau
  1. Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru (2006). Health Needs Assessment 2006: Older People. Caerdydd; GICC - [darllenwyd 14 Mai 2009]
  2. Tomassini, C. (2005) Pennod 2: Family and living arrangements. Yn National Statistics, ed. Focus on older people. Llundain: Ystadegau Gwladol tud. 11-20 -  [darllenwyd 14 Mai 2009]

Marwolaethau

Er bod marwolaeth yn rhan anochel o fywyd, gall archwilio marwolaethau sy’n digwydd cyn y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt ddigwydd ddangos anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd. Bydd y marwolaethau hyn yn digwydd yn aml am resymau y gellir eu hatal i raddau helaeth, [1] er enghraifft, o ganlyniad i ysmygu tybaco. Mae cyfraddau marwolaethau uwch yn cael eu cysylltu ag amddifadedd yn aml. [2]
 
Mae ffigurau ar gyfer 2007 yn dangos bod y gyfradd marwolaethau ymhlith pobl dan 75 oed yn ardal BILl Prifysgol Hywel Dda yn sylweddol is na’r gyfradd ar gyfer Cymru gyfan, a hon yw’r gyfradd ail isaf o bob un o’r saith o Fyrddau Iechyd Lleol newydd. O fewn y BILl hwn, mae’r gyfradd yng Ngheredigion yn sylweddol is na chyfradd Cymru, a hon yw’r gyfradd isaf o’r holl awdurdodau lleol.  Mae’r cyfraddau yn Sir Benfro ac yn Sir Gaerfyrddin yn is na chyfradd Cymru hefyd, ond yn fwy cyson â hi. Gall cyfraddau blynyddoedd unigol ar gyfer awdurdodau lleol ddangos amrywiadau sylweddol a allai fod yn sgil dim mwy nag amrywio ar hap a’r poblogaethau cymharol fach dan sylw.
 
Nodiadau: Cynhwysir yr holl achosion marwolaeth yma, a gall hynny gynnwys marwolaethau na ellid fod wedi’u hatal. Mae’r dadansoddiad yn defnyddio’r dull safoni uniongyrchol yn ôl oed, yn seiliedig ar y boblogaeth safonol Ewropeaidd a ddefnyddir yn gyffredin.  Nid yn unig y caiff y cyfraddau a gynhyrchir gan y dull hwn eu haddasu i ystyried strwythurau poblogaethau lleol amrywiol, ond gellir eu cymharu’n uniongyrchol â’i gilydd, boed hynny rhwng blynyddoedd neu rhwng ardaloedd. Mae goroesi tan 75 oed wedi’i ddefnyddio ar gyfer cyfrifo marwolaeth cyn pryd, [3] a defnyddir cyfraddau marwolaethau Ewropeaidd yn ôl oed safonedig y rhai dan 75 oed ar gyfer rhai cyflyrau i gael Targedau Cynnydd mewn Iechyd ar gyfer Cymru.
 
Marwolaethau’r rhai o dan 75 oed
  Cyfradd Cyfwng hyder 95%
Cyfradd marwolaethau yn ôl oed safonedig fesul 100,000 o’r boblogaeth breswyl a chyfyngau hyder  95%, 2007
Glossary  Methods & notes  Additional resources  Health Maps Wales  
  (441 KB)
BILl Prifysgol Hywel Dda
Ceredigion      
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Cymru
DU
297.3
242.3
308.5
314.3
332.1
307.1
(281.3 – 314.0)
(210.4 – 277.6)
(279.6 – 339.6)
(290.7 – 339.3)
(325.9 – 338.5)
(305.8 – 308.5)
 
Cyfeiriadau
  1. Wheller L, Baker A, Griffiths C a Rooney C (2007) Trends in avoidable mortality in England and Wales 1993-2005. Health Statistics Quarterly, 34, ONS: Llundain
  2. Uren Z a Fitzpatrick J (2001) Analysis of mortality by deprivation and cause of death. Geographical Variations in Health – Decennial Supplement DS16. ONS: Llundain
  3. Wheller L, Baker A a Griffiths C (2006) Trends in premature mortality in England and Wales 1950-2004. Health Statistics Quarterly, 31, ONS: Llundain

 


 

© 2009 Canolfan Iechyd Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru.

Gellir atgynhyrchu deunydd a gynhwysir yn y proffil hwn heb ganiatâd o flaen llaw cyhyd ag y gwneir hynny’n gywir ac na chaiff y deunydd ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid datgan cydnabyddiaeth i Ganolfan Iechyd Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru.
Hawlfraint argraffyddol yn eiddo i Ganolfan Iechyd Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru.

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 10 Mawrth 2014