Dolenni Cyflym
Cyhoeddiadau’r Arsyllfa
Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau am fyrddau iechyd sy’n cyflwyno nifer o ddangosyddion yn ymwneud â phenderfynyddion ehangach iechyd. Maent wedi eu cynhyrchu’n benodol i ddangos amrywiad ar lefel ardal fach mewn dangosyddion o’r fath mewn byrddau iechyd a’u hawdurdodau lleol cyfansoddol.
Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cydweithredu i greu a chyflwyno canfyddiadau o Arolwg Iechyd Cymru islaw lefel awdurdod lleol (Ardal Gynnyrch Ehangach Uwch). Nod y gwaith yw rhoi dadansoddiad daearyddol manylach o iechyd pobl sy’n byw yng Nghymru, y ffordd y maent yn defnyddio gwasanaethau iechyd a’u ffordd o fyw yn ymwneud ag iechyd, nag y cafwyd o’r blaen.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canfyddiadau cychwynnol yr adroddiad ar y cyd Tybaco ac iechyd yng Nghymru a fydd yn cael ei ryddhau ym mis Mehefin 2012.
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys disgrifiad o boblogaeth Cwm Taf; epidemioleg prif gyflyrau’r llygaid; darpariaeth gwasanaethau yng Nghwm Taf ac mae’n ystyried darpariaeth gwasanaethau mewn perthynas ag angen. Cafodd y ddogfen ei chomisiynu gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) i gefnogi prosiect ymgysylltu â’r gymuned. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth ar gyfer strategaeth iechyd y llygaid ehangach ar gyfer Bwrdd Iechyd Cwm Taf gyda’r nod o wella tegwch, canlyniadau ac ansawdd bywyd ar gyfer pobl ag iechyd llygaid gwael neu bobl sydd mewn perygl o hynny.
Mae’r gyfres hon o gyhoeddiadau yn cynnwys 22 o broffiliau awdurdodau lleol, proffil manwl ar gyfer Cymru, ffeiliau data dethol a chanllaw technegol. Mae’r gwaith yn edrych ar y bwlch mewn disgwyliad oes a mesurau marwolaethau rhwng yr ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf a’r ardaloedd â’r amddifadedd lleiaf yng Nghymru. Mae hefyd yn edrych ar y bwlch anghydraddoldeb o fewn awdurdodau lleol a byrddau iechyd a’r newidiadau yn y mesurau hyn dros amser. Nod y gwaith yw cynyddu dealltwriaeth o anghydraddoldebau iechyd lleol a chenedlaethol.
Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio iechyd yng nghyffiniau gwaith sment Hanson gan ddefnyddio data sydd ar gael yn arferol. Mae’n rhan o’r
archwiliad i bryderon iechyd cyhoeddus sy’n gysylltiedig â’r safle gwaith. Mae’r adroddiad yn ceisio rhoi’r wybodaeth yng nghyd-destun iechyd drwy Ogledd Cymru a Chymru gyfan, mewn ffordd y byddai arweinwyr cymunedau lleol yn ei deall.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n dangos amrywiadau mewn gweithdrefnau llawfeddygol dewisol ar hyd a lled Cymru. Mae’r adroddiad yn ymwneud â gweithgarwch cleifion mewnol ysbytai.
Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau technegol ar ddangosyddion ardaloedd bach er mwyn cefnogi asesiadau lleol o anghenion iechyd.
Cyfres o broffiliau sy’n canolbwyntio ar ffordd o fyw ac iechyd ar gyfer Cymru a’i saith bwrdd iechyd. Mae’r proffiliau’n cynnwys dangosyddion sy’n ymwneud â deiet ac ymarfer corff, ysmygu, alcohol, cyffuriau anghyfreithlon, iechyd rhywiol ac iechyd geneuol. Cafodd marwolaethau y gellir eu priodoli i ysmygu eu cyfrifo am y tro cyntaf ar gyfer Cymru fel rhan o’r gwaith hwn.
Mae’r adroddiad yn ymchwilio i’r rhesymau dros y cynnydd yn 2006 a 2007 a’r gostyngiad dilynol yn 2008 yn nifer y marwolaethau ymysg pobl dan 75 oed ym Myrddau Iechyd Caerdydd a’r Fro, Aneurin Bevan a Chwm Taf. Mae’r adroddiad yn argymell y dylid parhau i fonitro marwolaethau ymysg pobl dan 75 oed yn Ne Ddwyrain Cymru ac y gall parhau â mesurau gwella iechyd yn y maes arwain at ostyngiad pellach mewn cyfraddau marwolaeth.
Lluniwyd y proffiliau demograffeg fel y rhai cyntaf mewn cyfres o gynhyrchion ar gyfer byrddau iechyd. Nod y proffiliau yw darparu gwybodaeth i fyrddau iechyd am y boblogaeth y maent yn gyfrifol amdani a gweithredu fel adnodd i’w cynorthwyo gyda’u gweithgareddau cynllunio. Mae’r dangosyddion yn cynnwys nodweddion poblogaeth cyfredol a rhai wedi’u rhagamcanu, y gyfradd ffrwythlondeb gyffredinol, y gyfradd farwolaeth ymysg y rhai dan 75 oed a’r mynegai amddifadedd lluosog.
Mae alcohol yn gyffur caethiwus a gall camddefnyddio alcohol achosi niwed sylweddol i unigolion, teuluoedd a chymdeithas. Nod yr adroddiad hwn yw amcangyfrif y niwed y gellir ei briodoli i alcohol yng Nghymru.