CHC Logo

Prif Weithredwr GIG Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol

Dydd Mawrth, 31 Gorffennaf 2012
Mae GIG Cymru wedi gwneud camau sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o ran gwella’r mynediad i driniaeth a gwella ansawdd gofal, yn ôl adroddiad blynyddol cyntaf David Sissling, Prif Weithredwr GIG Cymru.
 
Dyma’r cyflawniadau a wnaed yn ystod 2011/12:
  • pob un o’r saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn darparu mynediad cyflymach i drin strôc;
  • lleihad o 32 y cant yn yr achosion o heintiau C.difficile  mwy na 600 yn llai o achosion a mwy na 30 o fywydau wedi’u harbed;
  • y perfformiad cyson gorau gan y gwasanaeth ambiwlans ers dechrau casglu cofnodion;
  • lleihad yn yr amser y mae cleifion yn aros yn yr ysbytai – mae’r amser sy’n rhaid i glaf aros yn yr ysbyty i osod clun newydd wedi disgyn o 7.2 i 6.2 diwrnod, a gosod pen-glin newydd wedi disgyn o 6.8 i 6 diwrnod.
  • lleihad yn nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer cyflyrau cronig, gan gynnwys cwymp o 25 y cant yn nifer yr aildderbyniadau ar gyfer cyflyrau anadlol.
  • cyfraddau uchel o ran boddhad cleifion yn y ddarpariaeth o urddas mewn gofal gan staff;
  • sicrhau cydbwysedd ariannol a gwireddu £290 o arbedion effeithlonrwydd; a
  • lleihad yn amseroedd aros orthopedig.

Dywedodd David Sissling:

“Mae’n bleser gennyf nodi bod yna welliannau cyffredinol sy’n golygu bod y GIG wedi ymateb i’r her a osodwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths, i ganolbwyntio’n anad dim ar gyflawni .

“Yn arbennig mae’r gwelliannau mewn gofal strôc yn sylweddol, gyda phob bwrdd iechyd bellach yn sicrhau mynediad cyflym i thrombolysis - cyffuriau chwalu clotiau sy’n gwella’r cyfraddau goroesi - 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Mae Coleg Brenhinol y Ffisigwyr wedi nodi mai GIG Cymru yw’r system sy’n gwella gyflymaf yn hanes eu harchwiliad ar wasanaethau strôc yn y DU.

“Mae ansawdd gofal yn gwella, er enghraifft gyda lleihad yn yr achosion o
C.difficile, lle mae’r cyfraddau ar gyfer nifer yr achosion yn is nag yn llawer o wledydd Ewrop.

“Mae staff y GIG hefyd wedi gwneud cynnydd o ran lleihau amseroedd aros orthopedig, gan dorri i lawr ar dros 5,500 ar y rhestr aros hir yn ystod y flwyddyn.”

Dywedodd Mr Sissling fod angen gwneud rhagor o waith i gael gwared ar bob achos o restrau aros hir, a dylai’r GIG edrych ar driniaethau a oedd yn cynnig budd cyfyngedig.

“Gallai fod yn well trin rhai cyflyrau, megis poen cefn neu anafiadau pen-glin drwy ffisiotherapi yn hytrach na llawdriniaeth.

“Ac mae’n bosib na chaiff cleifion orthopedig sy’n ordew neu dros eu pwysau y canlyniadau gorau ar ôl, dyweder, gosod clun newydd am fod mwy o berygl iddynt gael eu haildderbyn i’r ysbyty - efallai y byddai’n well rhagnodi rhaglen colli pwysau yn lle hynny. “

Dywedodd Mr Sissling hefyd fod angen gwelliannau mawr eraill os yw’r GIG i fodloni’r heriau yn ei gynllun pum mlynedd, Law yn Llaw at Iechyd, a chyflawni’r uchelgais a osodwyd gan Gomisiwn Bevan, sef gwasanaethau
'sy’n briodol i Gymru ond y mae modd eu cymharu â’r goreuon yn unrhyw le'.

“Mae’r ffaith fod y GIG wedi lleihau derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer cyflyrau cronig mawr drwy ddarparu triniaeth yn agosach i gartrefi pobl, a lleihau’r angen am ofal i gleifion mewn ysbytai, ymysg y ffactorau sy’n hyrwyddo newid.

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod angen inni foderneiddio ein gwasanaethau er mwyn adlewyrchu’n well y darlun o’r anghenion iechyd yng Nghymru sy’n newid.

“Dros y misoedd nesaf, bydd byrddau iechyd yn ymgynghori ar gynlluniau i wella eu gwasanaethau ac rwy’n annog cymunedau ledled Cymru i gymryd rhan ac i fynegi eu barn.”

Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com