CHC Logo

Dylai'r cartref fod yn hafan i iechyd, nid yn berygl i iechyd

Dydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2012
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau breision i hybu iechyd mewn ysgolion, yn y gweithle ac mewn mannau cyhoeddus. Bellach, mae'n amser canolbwyntio ar ein cartrefi.
Dyna neges Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, wrth iddo gyflwyno ei adroddiad blynyddol terfynol.

"Rydyn ni'n treulio llawer iawn o'n hamser yn ein cartrefi: hyd at  70%, ac mae'r ffigur hwn yn uwch i blant ifanc a phobl h?n. 

"Rwyf am weld cartrefi yng Nghymru yn amgylcheddau sy'n gwella ein hiechyd yn hytrach na'i niweidio. Gall nifer o ffactorau effeithio ar ein hiechyd yn y cartref: tlodi, mwg ail-law, tlodi tanwydd ac arbed ynni, lleithder, hylendid bwyd, bygythiad o drosedd, fel cam-drin domestig neu ladrad, neu hyd yn oed ofn troseddau.

"Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i ymdrin â'r holl faterion hyn; hoffwn weld y cyfan yn dod ynghyd mewn un strategaeth ar gyfer cartrefi iach, a chydgysylltu'r gweithredu ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Credaf fod angen inni fynd i'r afael â smygu yn y cartref fel mater o flaenoriaeth."

"Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Bil Tai, a hoffwn weld y cysyniad o'r cartref fel lle i wella iechyd wrth wraidd y gwaith hwn."

Bydd y Prif Swyddog Meddygol yn ymweld â Chaerfyrddin, i gyfarfod â phobl sy'n elwa o raglen bwysig gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i adfywio tai cymdeithasol. Mae'r GIG yn gweithio gyda'r Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd i fesur y manteision i iechyd yn y tymor byr a'r tymor hirach.

Bydd y rhaglen yn sicrhau bod y tai yn cyrraedd y safon ansawdd cenedlaethol, gan wella diogelwch, gan gynnwys cloeon a goleuadau, ceginau a stafelloedd ymolchi, gosod toiledau lawr llawr, darparu ffenestri gwydr dwbl, inswleiddio thermol a sicrhau bod llwybrau'r ardd mewn cyflwr da.

Gan ddefnyddio data anhysbys, sy'n cynnwys derbyniadau i'r ysbyty am gyflyrau penodedig, ymgynghoriadau â meddygon teulu a phresgripsiynau, bydd yr astudiaeth yn cymharu iechyd y preswylwyr cyn ac ar ôl y gwelliannau. Caiff y data eu cymharu â phreswylwyr mewn tai cymdeithasol mewn mannau eraill o Gymru, er mwyn dadansoddi sut mae pob gwelliant, neu gyfuniad o welliannau, yn effeithio ar iechyd y preswylwyr.

"Rwy'n awyddus i weld sut mae'r prosiect yn gwneud gwahaniaeth, a pha wersi sydd i'w dysgu er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru. Mae hwn yn fater o bwys y mae angen gweithredu arno ar draws llywodraeth, awdurdodau lleol a'r trydydd sector, nid yn unig yn y GIG.

"Erbyn 2035, bydd y boblogaeth dros 85 oed fwy na ddwywaith yn fwy na ffigurau 2010. Bydd hyn yn effeithio ar y driniaeth y bydd ei hangen ar bobl oddi wrth y GIG, a hefyd yr angen i gefnogi pobl i fyw'n annibynnol yn y gymuned.

"Mae mentrau fel Rhaglen Eiddilwch Gwent a Thîm Ardal Dwyrain Caerdydd yn treialu gweithio mewn partneriaeth integredig rhwng y GIG, cyrff trydydd sector ac Awdurdodau Lleol. Maent yn gweithio ar ofal ataliol, gan asesu risg cwympiadau, lleihau hyd arhosiad mewn ysbyty, ac yn canolbwyntio ar gynorthwyo pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain. Bydd angen gweld mwy o'r math hwn o weithio mewn partneriaeth er mwyn rhoi cymorth i bobl wrth iddynt dyfu'n h?n yng Nghymru."

 
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com