Cofnodion 1 i 25 o 2301
-
Gweinidog yn dweud wrth reolwyr y GIG: “Gwrandewch ar eich staff a gweithredwch”
Dydd Gwener, 17 Mai 2013, Llywodraeth CymruMae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi rhoi neges glir i reolwyr y GIG weithredu mewn ymateb i arolwg staff diweddar GIG Cymru. -
Sense ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio am beryglon posibl achos mawr o rwbela
Dydd Gwener, 17 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Sense, yr elusen genedlaethol ar gyfer pobl fyddar-ddall, heddiw wedi rhybuddio o beryglon posibl y gwelwn achosion o rwbela yng Nghymru.
-
Dros 50,000 o bobl yng Nghymru wedi cael y brechiad MMR
Dydd Gwener, 17 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae'r ymdrechion i gynnig y brechiad MMR ledled Cymru mewn ymateb i achos mawr o'r frech goch yn ardal Abertawe wedi arwain at frechu mwy na 50,000 o bobl yn ystod y ddau fis diwethaf.
-
Cyhoeddi penodi i swyddi Cyfarwyddwr yn y Gyfarwyddiaeth Datblygu Iechyd Cyhoeddus
Dydd Iau, 16 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruYn dilyn cynnal cyfweliadau, mae’n bleser gennym ni gyhoeddi bod Dr Pat Riordan wedi ei phenodi fel Cyfarwyddwr yr Is-adran Gwella Iechyd a Gofal Iechyd, a’r Athro Mark Bellis OBE wedi ei benodi yn Gyfarwyddwr yr Is-adran Polisi, Ymchwil a Datblygu.
-
Annog ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd i gael y brechiad MMR
Dydd Mercher, 15 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl ifanc i gael eu brechu cyn iddynt fynd i Eisteddfod yr Urdd. -
Y nifer sy'n cael eu brechu yn parhau i fod yn rhy isel i ddileu'r frech goch yng Nghymru
Dydd Mercher, 15 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruWrth i nifer yr achosion o'r frech goch yn ardal Abertawe gynyddu eto, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod y nifer sy'n manteisio ar y brechlyn MMR yn parhau i fod yn rhy isel i ddileu'r frech goch yng Nghymru.
-
Ofni rhagor o achosion o'r frech goch wrth i'r clefyd barhau i ledaenu
Dydd Llun, 13 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio pobl am ei bryderon y gall achosion o'r frech goch ddechrau y tu allan i ardal Abertawe wrth i adroddiadau am y clefyd gael eu cofnodi ledled Cymru.
-
Lansio Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru
Dydd Llun, 13 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruBydd dynion 65 oed yng Nghymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn rhaglen sgrinio newydd a gaiff ei lansio heddiw (1 Mai, 2013) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. -
Gweinidog Iechyd yn lansio Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd y Galon
Dydd Iau, 9 Mai 2013, Llywodraeth CymruMae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi lansio Law yn Llaw at Iechyd; Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd y Galon – fframwaith sy’n herio’r GIG i sicrhau gwelliant parhaus i’r gwasanaethau cardiaidd yng Nghymru. -
Y Byrddau Iechyd yn cael gwneud cais am dechnoleg flaengar
Dydd Mawrth, 7 Mai 2013, Llywodraeth CymruMae Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd, a Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid wedi cyhoeddi'r ail gam ar gyfer y Gronfa Technolegau Iechyd yn ystod ymweliad ag Ysbyty Felindre heddiw (7 Mai). -
Cyhoeddi enwau’r rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau’r Bartneriaeth Iechyd rhwng y Fyddin a Sifiliaid 2013
Dydd Mawrth, 7 Mai 2013, Llywodraeth CymruMae’r feirniadaeth ar gyfer Gwobrau’r Bartneriaeth Iechyd rhwng y Fyddin a Sifiliaid 2013 wedi’i chwblhau. -
Grŵp o arbenigwyr i ystyried rheoleiddio llawdriniaeth gosmetig.
Dydd Mawrth, 7 Mai 2013, Llywodraeth CymruHeddiw, (dydd Llun 6 Mai 2013) cyhoeddodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd, y bydd grŵp o arbenigwyr yn cael ei ffurfio i ystyried a oes angen rheolaeth dynnach ar lawdriniaeth gosmetig yng Nghymru. -
£9.5m o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer ambiwlansys newydd
Dydd Mawrth, 7 Mai 2013, Llywodraeth CymruCyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod cyllid gwerth £9.484m ar gael ar gyfer gwneud gwelliannau sylweddol i gerbydau Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. -
Uned blaen tŷ newydd yn agor yn Ysbyty Bronglais
Dydd Mawrth, 7 Mai 2013, Llywodraeth CymruRoedd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd, yn Aberystwyth heddiw i agor yn swyddogol yr uned blaen tŷ newydd gwerth £38 miliwn yn Ysbyty Bronglais. -
Cyhoeddi canlyniadau arolwg staff GIG Cymru
Dydd Mawrth, 7 Mai 2013, Llywodraeth CymruHeddiw (dydd Gwener 3 Mai) cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford ganlyniadau arolwg newydd o dros 22,000 o staff y GIG. -
Gwell dealltwriaeth ynghylch pryderon rhieni yw’r allwedd i ymdrin â’r frech goch
Dydd Mawrth, 7 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruCysylltwyd â rhieni yn ardal Abertawe nad ydynt wedi rhoi caniatâd i’w plant dderbyn brechlyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR) yr wythnos hon. -
Pwyso ar y grŵp oedran sydd wedi'i daro waethaf i gael y brechlyn MMR
Dydd Iau, 2 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i annog plant a phobl ifanc rhwng 10 a 18 oed i gael y brechiad MMR wrth i'r achosion o'r frech goch yn ardal Abertawe barhau i gynyddu. -
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Yn Cyhoeddi Adroddiad Arolygu ynglŷn  Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ysbyty Maelor Wrecsam
Dydd Iau, 2 Mai 2013, Arolygiaeth Gofal Iechyd CymruMae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad heddiw yn dilyn arolygiad Rheoliadau Ymbelydredd Ϊoneiddio (Datguddio Meddygol) (IR(ME)R) lle rhoddwyd rhybudd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. -
Prawf bod y brechlyn MMR 99 y cant yn effeithiol yn ystod achos o'r frech goch
Dydd Iau, 2 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae data sy'n deillio o'r achos o'r frech goch yn ardal Abertawe yn dangos bod dau ddos o MMR yn amddiffyn pobl mewn 99 o blith 100 o achosion. -
Ymwelwch â'ch fferyllfa ym mis Mai i ostwng eich risg o strôc
Dydd Iau, 2 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruBydd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd, yn lansio ymgyrch genedlaethol iechyd cyhoeddus fferylliaeth gymunedol yr wythnos hon (dydd Iau 2 Mai). -
Pedair mil yn cael eu brechu yn ardal Abertawe wrth i nifer yr achosion o'r frech goch fynd y tu hwnt i 1,000
Dydd Mercher, 1 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae tua 4,000 o blant a phobl ifanc rhwng 10 a 18 oed wedi cael y brechlyn MMR yn ardal Abertawe yn ystod y mis diwethaf - ond mae achosion o'r frech goch yn parhau i gynyddu ac maent bellach wedi cyrraedd 1,011. -
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Cyfleoedd am Swyddi
Dydd Mercher, 1 Mai 2013, Arolygiaeth Gofal Iechyd CymruMae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn hysbysebu nifer o gyfleoedd swyddi mewn rolau allweddol -
Buddsoddiad o £4.8 miliwn ar gyfer gwasanaethau cymorth yn Ysbyty Treforys
Dydd Gwener, 26 Ebrill 2013, Llywodraeth CymruMae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford AC wedi cyhoeddi buddsoddiad o £4.805m mewn Canolfan Gwasanaethau Cyfunol newydd yn Ysbyty Treforys, Abertawe. -
Penodi Dirprwy Gadeirydd i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan
Dydd Gwener, 26 Ebrill 2013, Llywodraeth CymruCyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod yr Athro Siobhan McClelland wedi'i phenodi'n Ddirprwy Gadeirydd i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan. -
Penodi Aelodau Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Dydd Gwener, 26 Ebrill 2013, Llywodraeth CymruMae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhoeddi bod tri Aelod Annibynnol wedi'u penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Cofnodion 1 i 25 o 2301