CHC Logo

Cyhoeddi cyflwyniadau Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dydd Llun, 13 Awst 2012
Mae ffilmiau o’r prif siaradwyr yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael eu cyhoeddi.
 
Mae’r ffilmiau’n caniatáu i gyflwyniadau powerpoint gael eu gweld ochr yn ochr â fideos o Dr Tony Jewell a Dr Ronan Lyons o’r gynhadledd.
 
Yn ogystal, mae ffilmiau ar gael o gyflwyniadau’r Prif Weinidog Carwyn Jones a John Spence, Dirprwy Gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
 
Cafwyd cynulleidfa o fwy na 240 o bobl yn y gynhadledd ‘Law yn Llaw at Iechyd Cyhoeddus’ yn seiliedig ar ddogfen weledigaeth bum mlynedd Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd. Mae’r rhaglen lawn ar gael i’w lawrlwytho.
 
Meddai’r Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Nod ail Gynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd ymgysylltu â phob sector o ran datblygu elfennau iechyd cyhoeddus Law yn Llaw at Iechyd a dangosodd yr adborth ei bod wedi llwyddo i gyflawni hynny.
 
“Mae’r cyflwyniadau fideo yn gyfle gwych i unrhyw un nad oedd yn gallu bod yn bresennol yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru i weld yr hyn a drafodwyd.”
 
Trefnwyd y gynhadledd ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Denodd y gynhadledd lunwyr polisïau, arweinwyr a gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol o bob cwr o’r sector cyhoeddus.
 
Mae modd gweld y fideos a’r cyflwyniadau yn http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/62482.
 
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y gynhadledd yn http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/60875.
 
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru