Croeso i safle Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan, y cyrff gwarchod gwasanaeth Iechyd ar gyfer Gwent. Mae Gwent yn ne Cymru ac mae’n cynnwys Bwrdeistrefi Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen, Dinas Casnewydd a Sir Fynwy.
Os ydych yn chwilio am gymorth meddygol, ewch yn syth at Galw Iechyd Cymru. Eu rhif ffôn yw 0845 4647. Mae’n llinell gymorth 24 awr gyfrinachol dan arweiniad nyrsys yn darparu cyngor a gwybodaeth am beth i’w wneud os ydych chi neu aelod o’ch teulu yn teimlo’n sâl. Mae galwadau’n costio’r gyfradd lleol ac mae gwasanaeth cyfieithu cyfrinachol ar gael.
Os ydych yn chwilio am y rhestr ddiweddaraf o Feddygfeydd, Fferyllfeydd, Deintyddion neu Optegwyr yng Ngwent, ewch i Dolenni a Chysylltiadau Defnyddiol.
Mae Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan yn chwilio am wirfoddolwyr ymroddedig. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod cliciwch yma.
Arolygon Ar-lein Rydym angen eich Barn
Er mwyn rhannu eich barn dewiswch un o’r arolygon ar-lein cyfredol isod:
Arolwg O Brofiadau Cleifion Stroc