CYNGOR IECHYD CYMUNED BETSI CADWALADR
Corff statudol annibynnol yw Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr (CICBC) sy’n cynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Ngogledd Cymru. ‘Rydym yn lais annibynnol yn eich GIG ac yn y gwasanaethau a ddarperir ganddo.Gallwch gysylltu â ni drwy’r post, ebost, ffôn neu ffacs.
Dalier sylw: Nid ydym yn rhoi cyngor iechyd na thriniaeth glinigol. Os ydych yn edrych am help meddygol cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 i gael cyngor cyfrinachol a gwybodaeth 24 awr. Bydd cost yr alwad yn unol â’r gyfradd leol ac mae gwasanaeth cyfieithu ar gael. Os oes gennych broblem iechyd sydd angen triniaeth frys galwch y Gwasanaeth Ambiwlans ar 999. Os ydych yn edrych am y rhestr ddiweddaraf o feddygfeydd Meddygon Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd neu Optegwyr yna cysylltwch â’r Bwrdd Iechyd Lleol.
Dilynwch ni ar Twitter neu Facebook
Dilynwch ni ar Twitter neu Facebook