CHC Logo

Ymgyrch Sgrinio Serfigol Cymru yn cael ei daenu ledled Cymru!

Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn ymuno ag elusen ganser flaenllaw yng Nghymru, mewn ymgais i annog menywod i fynychu profion ceg y groth.
Mae rhaglen sgrinio’r GIG yn ymuno â Tenovus yn ystod Ionawr i hyrwyddo Wythnos Ewropeaidd Atal Canser Ceg y Groth (ECCP), digwyddiad blynyddol sydd yn annog menywod i dderbyn y cynnig sgrinio yn eu gwlad eu hunain.
Bydd Sioe Deithiol, wedi ei threfnu mewn partneriaeth â Tenovus, yn teithio o amgylch strydoedd Cymru i amlygu pwysigrwydd cael prawf ceg y groth.
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos mai’r cyfraddau ymgymeriad ar gyfer menywod yn y grŵp oedran targed yw 76.4% yng Nghymru, ac mae swyddogion iechyd yn awyddus i fenywod dderbyn y sgrinio am ddim, sy’n cael ei gynnig bob tair blynedd rhwng 20 a 64 oed.
Er y gall canser ceg y groth effeithio ar fenywod o bob oed, dyma’r ail fath mwyaf cyffredin o ganser ymysg menywod o dan 35 oed. Felly, er mwyn hyrwyddo Wythnos ECCP 2012, bydd y rhaglen sgrinio yn lledaenu ei neges mewn prifysgolion ledled Cymru.
Bydd staff sgrinio yn bresennol yn uned symudol cemotherapi enfawr Tenovus wrth iddi ymweld â thair prifysgol ym mis Ionawr, i roi cyngor, gwybodaeth a bagiau o bethau da am ddim.  Bydd myfyrwyr, staff ac aelodau o’r cyhoedd yn gallu cael gwiriad iechyd am ddim hefyd, gan staff Tenovus yn yr uned.
Bydd yr uned yn y lleoliadau canlynol am un diwrnod yn unig, a bydd ar agor i’r cyhoedd, yn ogystal â myfyrwyr a staff:
         Dydd Llun, 9 Ionawr: Coleg Merthyr Tudful
         Dydd Llun, 16 Ionawr: Prifysgol Aberystwyth
         Dydd Llun, 30 Ionawr: Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam
Dywedodd Alison Clement, Arbenigwr Cyswllt Sgrinio: “Mae Sgrinio Serfigol Cymru wedi cefnogi Wythnos ECCP am y tair blynedd diwethaf, trwy ddarparu pecynnau gwybodaeth cymunedol ar gyfer lleoliadau fel clinigau iechyd rhywiol, clybiau nos a cholegau.
“Eleni, yn ogystal â’n hymgyrch bost yn rhoi gwybodaeth, mae’n bleser ymuno â Tenovus i fynd â’n Hymgyrch i dair prifysgol yng Nghymru.  Yn ogystal â myfyrwyr a staff, mae croeso i’r cyhoedd alw heibio hefyd.”
Yr Ymgyrch yw’r diweddaraf mewn cyfres o fentrau hybu iechyd gan Sgrinio Serfigol Cymru, sydd yn cynnwys tudalen a lansiwyd yn ddiweddar ar Facebook, ynghyd â straeon digidol o brofiadau bywyd gwirioneddol ar ‘You Tube’.
Pwysleisiodd Bryan Rose, Rheolwr Rhaglen Cymru Gyfan ar gyfer Sgrinio Serfigol Cymru, bwysigrwydd y profion: “Profion ceg y groth rheolaidd yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ganfod celloedd annormal, cyn iddynt, o bosibl, droi’n ganser. Mae’r prawf nid yn unig yn canfod canser yn gynnar, ond gall atal canser rhag datblygu.
“Mae tua 1,500 o fenywod yn marw o ganser ceg y groth yn y DU bob blwyddyn, ond rydym yn gwybod bod sgrinio’n achub dros 1,000 o fywydau'r flwyddyn.”
 
Am fwy o wybodaeth am brofion ceg y groth a chanser ceg y groth ewch i:
Gellir gweld hysbyseb teledu Sgrinio Serfigol Cymru a straeon digidol cyfranogwyr ar You Tube:

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 10 Ionawr 2012