Sustem optio-allan ar gyfer Rhoi Organau - beth ydych chi’n credu? Cael dweud eich dweud mewn digwyddiad sy’n lleol i chi!
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymdrechu’n barhaus i gynyddu nifer y rhoddwyr organau. Yn ogystal â pharhau i weithredu argymhellion Tasglu Rhoi Organau y DU, byddwn hefyd yn cyflwyno Bil Rhoi Organau.
Byddai’r Bil Rhoi Organau yn creu system o optio allan o roi organau. Mae hyn yn golygu y bydd organau a meinweoedd unigolyn ar gael i’w rhoi ar ôl iddo farw oni fydd wedi mynegi gwrthwynebiad i hynny. Mae’r ymgynghoriad Papur Gwyn yn gofyn am ymatebion i gynigion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth ar roi organau a meinweoedd.
Ar 8fed Tachwedd 2011, cyhoeddodd y Llywodraeth Papur Gwyn oedd yn amlinellu’r amserlen ar gyfer cyflwyno system optio allan. Caiff Bil ei gyflwyno yn 2012, gallai’r ddeddfwriaeth fod y ei lle erbyn 2013 a gallai system feddal o optio allan gael ei chyflwyno yn 2015. Mae’r Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ar sut y byddai’r system yn gweithio gan gynnwys:
- dim ond pobl sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sy’n byw ac yn marw yng Nghymru fyddai’n cael eu cynnwys o dan y system;
- byddai’n rhaid i unigolion fod wedi byw yng Nghymru am gyfnod digonol cyn cael eu cynnwys mewn system optio allan - mae’r Papur Gwyn yn gwahodd pobl i roi eu barn ar ba mor hir y dylai’r cyfnod hwnnw fod;
- cynnig pedwar opsiwn ynghylch sut y gellid cofnodi dymuniadau pobl ynglŷn â rhoi eu horganau - gan gynnwys cadw cofrestr o’r rheini sydd wedi gwrthwynebu a’r rhai nad ydynt wedi gwrthwynebu, neu beidio cadw cofrestr o’r rhai sydd wedi gwrthwynebu.
Mae manylion ar y cynigion (yn cynnwys y papur eu hunan) ar gael o wefan Rhoddi Organau ar http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/organ/?lang=cy
Mae Llywodraeth Cymru yn awchus i weithio’n agos gyda’r cyhoedd er mwyn clywed ei barnau ar y pwnc pwysig hwn. Ar ran y Llywodraeth, mae Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru wedi bwcio sawl digwyddiad ymgynghori ledled Cymru. Mae manylion y digwyddiadau wedi ei rhestri isod:
| DYDDIAD | AMSER | LLEOLIAD | CYMORTH CLYW* |
| Mercher 16Tachwedd | 18.00 – 19.30 | PORT TALBOT – Gwesty Traeth Aberafan, Ffordd y Tywysoges, Aberafan, SA12 6QP | |
| Iau 17 Tachwedd | 17.00 – 18.30 | MERTHYR TUDFIL – Clwb Rygbi Merthyr, Ty’r Clwb, Stryd Dinefwr, Merthyr Tudfil, CF48 1BA. | |
| Iau 17 Tachwedd | 19.30 – 21.00 | CWMBRAN – Clwb Golff Green Meadows, Heol Treherbert, Croesyceiliog, Cwmbran, NP44 2BX. | |
| Iau 24 Tachwedd | 18.00 – 19.30 | LLANDRINDOD. Y Pafiliwn, Heol y Spa, Llandrindod, LD1 5EY | |
| Llun 5 Rhagfyr | 18.00 – 19.30 | GORLLEWIN CYMRU – Gwesty Nantyffin, Llandissilio, Clynderwen, Sir Benfro SA66, 7SU | |
| Mawrth 6 Rhagfyr | 18.00 – 19.30 | ABERYSTWYTH Llety Park Lodge. Parc Y Llyn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3TL | Cymorth Palantype ac Arwyddo |
| Iau 8 Rhagfyr | 17.30 – 19.00 | BANGOR Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, Heol Ffriddoedd, Bangor, LL57 2TR | |
| Mawrth 13 Rhagfyr | 17.00 – 18.30 | Y BARRI Neuadd Coffa y Barri, Heol Gladstone, Barry. CF62 8NA | |
| Mawrth 13 Rhagfyr | 19.30 – 21.00 | CAERDYDD Canolfan Cenedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW | Cymorth Palantype ac Arwyddo |
| Mawrth 20Rhagfyr | 17.30 – 19.00 | WRECSAM Prifysgol Glyndwr, Seiat Plas Coch, Yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AQ | Cymorth Palantype ac Arwyddo |
| DIGWYDDIADAU YCHWANEGOL AM IONAWR 2012 | |||
| Mawrth 17 Ionawr 2012 | 18:30 - 20:00 | ABERTAWE Ystafell Deganwy, Neuadd Brangwyn, Abertawe SA1 4PE | |
| Mercher 18 Ionawr 2012 | 18:30 - 20:00 | CASNEWYDD Ystafell Lofft, Canolfan Casnewydd, Casnewydd NP20 1UH | |
| Mercher 25 Ionawr 2012 | 18:30 - 20:00 | LLANDUDNO Venue Cymru, Y Promenad, Llandudno LL30 1BB |
(Bydd cymorth Palantype a / neu ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain ar gael ar gais ac yn amodol ar argaeledd)
Oes gennych ddiddordeb yn mynychu unrhyw o’r digwyddiadau uchod, cysylltwch â Swyddfa’r Bwrdd Bicau yng Nghymru ar 0845 644 7814 neu enquiries@waleschc.org.uk
Cael dweud eich dweud!