Cofnodion 1 i 25 o 3510
-
Cyhoeddi blaenoriaethau’r GIG
Dydd Gwener, 24 Mai 2013, Llywodraeth CymruHeddiw cyhoeddodd Prif Weithredwr GIG Cymru, David Sissling, Fframwaith Gyflawni newydd y GIG, sy’n nodi prif flaenoriaethau’r gwasanaeth iechyd yn ystod 2013/14. -
Gweinidog yn lansio Uned Ymchwil Triniaeth Canser
Dydd Gwener, 24 Mai 2013, Llywodraeth CymruBydd cyfleuster newydd yng Nghanolfan Ganser Felindre yn galluogi gwyddonwyr i astudio’r cyffuriau canser diweddaraf. -
Cynllun iechyd plant yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf
Dydd Gwener, 24 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruAr 22 Mai, dathlodd Iechyd Cyhoeddus Cymru 'ben-blwydd cyntaf' menter ysgolion iach ym Mro Morgannwg, gyda noson i ddiolch i'r meithrinfeydd, y cylchoedd chwarae a'r gwarchodwyr plant a gymerodd ran ynddi.
-
Brechiadau rhag y frech goch yn cyrraedd 60,000 yn ystod wythnos olaf sesiynau brechu
Dydd Gwener, 24 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruDengys ffigurau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod mwy na 60,000 o bobl wedi cael eu brechu gydag MMR yng Nghymru ers dechrau mis Mawrth.
-
Ymateb i’r Adolygiad Strategol o Wasanaethau Ambiwlans Cymru
Dydd Iau, 23 Mai 2013, Llywodraeth CymruMark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae’n bleser gennyf roi’r Datganiad hwn i Aelodau’r Cynulliad sy’n nodi cyfres gyntaf o benderfyniadau mewn ymateb i Adolygiad Strategol yr Athro Siobhan McClelland o Wasanaethau Ambiwlans Cymru. -
Sesiynau briffio ar gerdded a beicio ar gyfer awdurdodau lleol
Dydd Iau, 23 Mai 2013, Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth CymruMae’r grŵp cenedlaethol ‘Teithio Egnïol ac Iechyd' yn Lloegr wedi llunio tair sesiwn friffio ar gerdded a beicio ar gyfer awdurdodau lleol. -
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal arolwg o rieni ar bryderon yn ymwneud â brechu rhag y frech goch
Dydd Iau, 23 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau arolwg o rieni yn ardal Abertawe i geisio darganfod pam roeddent wedi gwrthod rhoi'r brechlyn MMR i'w plant.
-
Gwenwch y Dydd Mercher Iach Hwn
Dydd Mercher, 22 Mai 2013, Bwrdd Iechyd Hywel DdaRhowch wên y dydd Mercher Iach hwn a meddyliwch am iechyd eich ceg. -
Nifer yr achosion o'r frech goch yn cynyddu eto ar ddechrau wythnos olaf y sesiynau brechu mewn ysgolion
Dydd Mercher, 22 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae pobl ifanc a'u rheini'n cael eu hannog i fanteisio ar yr wythnos olaf o sesiynau brechu MMR wrth i nifer yr achosion o'r frech goch yn ardal Abertawe gynyddu eto.
-
Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan
Dydd Mawrth, 21 Mai 2013, All Wales Sexual Health NetworkMae Adroddiad Blynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan wedi cael ei gyhoeddi ac mae ar gael i’w lawrlwytho (Saesneg yn unig) ar wefan Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan. -
Gwybodaeth iechyd hanfodol ar eich oergell
Dydd Mawrth, 21 Mai 2013, Bwrdd Iechyd Cwm TafMae magnedau oergell rhad ac am ddim sy’n cyfeirio cleifion i’r lle gofal mwyaf priodol yn cael eu rhoi i aelodau’r cyhoedd ar draws Cymoedd y Rhondda a Thaf Elái. -
Cynhadledd Flynyddol Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD)
Dydd Mawrth, 21 Mai 2013, Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth CymruMae’r gynhadledd flynyddol hon yn arddangos ymchwil sy’n berthnasol i bolisi yng Nghymru ac mae’n denu cydweithwyr o’r sector academaidd, polisi, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. -
Cwrs Maeth a Deieteg ar gyfer Grwpiau Amlddiwylliannol
Dydd Mawrth, 21 Mai 2013, Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth CymruYn dilyn cyhoeddi Llawlyfr Amlddiwylliannol Bwyd, Maeth a Deieteg ym mis Mawrth 2012, bydd Aruna Thaker yn cynnal cwrs cyntaf Maeth a Deieteg Oedolion ar gyfer Grwpiau Amlddiwylliannol. -
Arolwg Iechyd Cymru 2012: Canlyniadau Cychwynnol
Dydd Mawrth, 21 Mai 2013, Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth CymruCafodd canlyniadau cychwynnol yr Ystadegau Cenedlaethol diweddaraf a luniwyd gan Lywodraeth Cymru ar iechyd a ffordd o fyw’n ymwneud ag iechyd pobl sy’n byw yng Nghymru eu cyhoeddi ar 16 Mai 2013. -
Ymroddiad i Addysg Feddygol yn cael ei gydnabod
Dydd Llun, 20 Mai 2013, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrDyfarnwyd Cymrodoriaeth yr Academi o Addysgwyr Meddygol i Philip Banfield MBBS MD DA PGCPCE FAcad/Med FRCOG, Obstetregydd a Gynaecolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd. -
Clinig Cof Bryn Hesketh yn ennill “Oscar” Meddygol yn y Gwobrau BMJ
Dydd Gwener, 17 Mai 2013, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrMae Clinig Cof Bryn Hesketh wedi ennill Gwobr BMJ Tîm Iechyd Meddwl y Flwyddyn. -
Gweinidog yn dweud wrth reolwyr y GIG: “Gwrandewch ar eich staff a gweithredwch”
Dydd Gwener, 17 Mai 2013, Llywodraeth CymruMae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi rhoi neges glir i reolwyr y GIG weithredu mewn ymateb i arolwg staff diweddar GIG Cymru. -
Sense ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio am beryglon posibl achos mawr o rwbela
Dydd Gwener, 17 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Sense, yr elusen genedlaethol ar gyfer pobl fyddar-ddall, heddiw wedi rhybuddio o beryglon posibl y gwelwn achosion o rwbela yng Nghymru.
-
Mae mwy na 3,000 wedi cael y pigiad rhag MMR yng Nghwm Taf
Dydd Gwener, 17 Mai 2013, Bwrdd Iechyd Cwm TafO ganlyniad i’r ymdrechion i gynnig y brechiad rhag MMR (Y Frech Goch, y Dwymyn Doben a’r Frech Almaenig) ar draws Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, mae mwy na 3,000 o bobl wedi cael y pigiad dros y ddau fis diwethaf. -
Adroddiad Let’s get physical
Dydd Gwener, 17 Mai 2013, Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth CymruMae’r adroddiad newydd hwn gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn amlygu’r ffordd y mae gweithgaredd corfforol o fudd i iechyd a lles meddwl pobl. -
Dros 50,000 o bobl yng Nghymru wedi cael y brechiad MMR
Dydd Gwener, 17 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae'r ymdrechion i gynnig y brechiad MMR ledled Cymru mewn ymateb i achos mawr o'r frech goch yn ardal Abertawe wedi arwain at frechu mwy na 50,000 o bobl yn ystod y ddau fis diwethaf.
-
Cyhoeddi penodi i swyddi Cyfarwyddwr yn y Gyfarwyddiaeth Datblygu Iechyd Cyhoeddus
Dydd Iau, 16 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruYn dilyn cynnal cyfweliadau, mae’n bleser gennym ni gyhoeddi bod Dr Pat Riordan wedi ei phenodi fel Cyfarwyddwr yr Is-adran Gwella Iechyd a Gofal Iechyd, a’r Athro Mark Bellis OBE wedi ei benodi yn Gyfarwyddwr yr Is-adran Polisi, Ymchwil a Datblygu.
-
Annog ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd i gael y brechiad MMR
Dydd Mercher, 15 Mai 2013, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl ifanc i gael eu brechu cyn iddynt fynd i Eisteddfod yr Urdd. -
RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN Y BYDD CYFARFOD O FWRDD IECHYD CWM TAF
Dydd Mercher, 15 Mai 2013, Bwrdd Iechyd Cwm TafRHODDIR RHYBUDD TRWY HYN Y BYDD CYFARFOD O FWRDD IECHYD CWM TAF YN CAEL EI GYNNAL DDYDD MERCHER 22 MAI 2013 AM 11.OOAM YNG NGHANOLFAN PLANT INTEGREDIG, MERTHYR TUDFUL. -
Cost chwarae gemau fideo egnïol o ran egni
Dydd Mercher, 15 Mai 2013, Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth CymruMesurodd y gwaith ymchwil hwn gost chwarae gemau fideo egnïol (AVG) o ran egni plant â gordewdra a phlant â phwysau iach.
Cofnodion 1 i 25 o 3510