CHC Logo

Annog myfyrwyr sy’n dechrau yn y brifysgol i sicrhau eu bod wedi cael eu brechu

Dydd Iau, 6 Medi 2012
Mae myfyrwyr sy’n dechrau yn y brifysgol neu’r coleg yn ystod yr wythnosau nesaf yn cael eu hannog i sicrhau eu bod wedi cael yr holl frechlynnau y dylent fod wedi’u cael.
 
Mae cymunedau fel neuaddau preswyl a champws prifysgolion yn lleoedd delfrydol i glefydau heintus ledaenu, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog myfyrwyr i sicrhau eu bod wedi’u diogelu cyn dechrau’r tymor newydd.
 
Dylai myfyrwyr wirio eu bod wedi cael y pigiad atgyfnerthu, sef y pumed dos a’r dos olaf mewn cyfres o frechiadau y dylent fod wedi cael eu cynnig yn ystod plentyndod.
 
Mae’r pigiad - sydd fel arfer yn cael ei roi i blant ym Mlwyddyn 10 - yn diogelu rhag tetanws, difftheria a pholio a bydd yn cynnig imiwnedd rhag y clefydau angheuol hyn pan fyddant yn oedolion.
 
Yn ogystal, mae’r brechlyn Llid yr Ymennyd C hefyd yn frechiad arferol a roddir i bobl ifanc yn y DU. Os na fydd plentyn hŷn (neu oedolyn ifanc) wedi cael y brechiadau hyn, nid yw byth yn rhy hwyr.
 
Mae achosion o’r frech goch a chlwy’r pennau mewn neuaddau preswyl yn risg ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd, ac felly rydym yn annog myfyrwyr i sicrhau eu bod wedi cael y ddau ddos o’r brechlyn MMR (y frech goch, clwy’r pennau a rwbela).
 
Fel arfer caiff brechlynnau MMR eu rhoi i blant pan fyddant tua blwydd oed ac yna ail ddos pan fyddant yn dair blwydd a phedwar mis oed, ond mae llawer o blant hŷn ac oedolion ifanc sydd heb gael eu brechu. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael y dosau rydych wedi’u methu.
 
Meddai Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Clefydau y Gellir eu Hatal drwy Frechlyn, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae dechrau yn y brifysgol neu’r coleg yn gyfnod cyffrous a byddai’n drueni i’r profiad gael ei ddifetha gan glefyd y gellid bod wedi’i atal.
 
“Pryd bynnag y byddwn yn cymysgu â phobl newydd - yn arbennig os bydd rhai o’r bobl hynny wedi dod o wledydd lle y mae rhai clefydau y gellir eu hatal yn fwy cyffredin - mae perygl o ddal heintiau y gellir eu hatal drwy frechlyn syml.
 
“Drwy wneud yn siŵr eu bod wedi cael eu pigiad atgyfnerthu a’u brechlynnau llid yr ymennydd C ac MMR, gall myfyrwyr roi’r pryder hwnnw o’r neilltu a chanolbwyntio ar fywyd prifysgol.”
 
Mae rhagor o wybodaeth am frechu ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn www.iechydcyhoedduscymru.org/imiwneiddio.
 
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru