CHC Logo

Lansio ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Dydd Llun, 6 Awst 2012
Heddiw (Awst 6) mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi lansio yn swyddogol ei weledigaeth ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd o’r radd flaenaf.
Bydd yr ymgynghoriad 12 wythnos - Eich Iechyd Eich Dyfodol Ymgynghori â’n Cymunedau - yn rhoi cyfle i bobl i roi eu barn ar gynigion y bwrdd iechyd i wella gwasanaethau yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
 
Mae’r ymarfer yn ymateb i raglen Llywodraeth Cymru ‘Law yn Llaw at Iechyd’, ble bydd pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn gwneud cynlluniau i sicrhau bod
eu gwasanaethau yn diwallu anghenion lleol nawr ac i’r dyfodol. 
 
Y nod yw darparu gofal iechyd o’r radd flaenaf yn y lleoliad mwyaf addas, mor agos i’r cartref ac sy’n bosibl, a hynny ar yr adeg pan fo angen y gofal iechyd gyda chanlyniadau gwell i gleifion. 
 
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn gwrando ac yn ymgysylltu gyda chlinigwyr a rhanddeiliaid ynghylch y newidiadau posibl i wasanaethau ers 2012.  O fis Rhagfyr 2011 hyd at ddiwedd Ebrill 2012, mae’r Bwrdd Iechyd wedi cyflawni ymarfer gwrando ac ymgysylltu gyda phobl leol, staff a rhanddeiliaid er mwyn bod yn glir ynghylch y gwasanaethau sydd gennym ar hyn o bryd - a beth sydd angen i ni roi ar waith ar gyfer y dyfodol. 
 
Mae’r adborth o’r ymarfer hwn wedi cael ei ddefnyddio i lunio cynigion, sy’n cael eu hamlinellu yn y cyfnod ymgynghori ffurfiol hwn a fydd ar agor hyd Hydref 29, 2012.  
 
Dywedodd Chris Martin, Y Cadeirydd: “Rydym eisiau darparu gwasanaethau diogel, cynaliadwy o ansawdd uchel o fewn ein hardal ar gyfer y genhedlaeth bresennol ac ar gyfer cenedlaethau i’r dyfodol.   
                                                                                                               
“Rydym yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac rydym yn cydnabod y pwysigrwydd o roi cyfle i’n cyhoedd, staff a’n rhanddeiliaid i ddylanwadau ar ein ffordd o feddwl yn gynnar yn y broses.  Rydym wedi ystyried y pryderon a godwyd yn ystod yr ymarfer gwrando ac wedi mireinio a llunio ein cynigion yng ngoleuni'r hyn a glywsom.  Mae’n rhaid inni sicrhau bod unrhyw wasanaethau posibl newydd neu newidiadau i wasanaethau yn addas at bwrpas ac yn addas ar gyfer y dyfodol.  Mae’n rhaid i’n gwasanaethau ganolbwyntio ar yr unigolyn, bod o ansawdd uchel, yn fodern, diogel, cynaliadwy a fforddiadwy.”  
 
Mae’r cynigion yn yr ymgynghoriad yn awgrymu datrysiadau ar gyfer nifer o heriau hir dymor sy’n wynebu’r GIG, gan gynnwys poblogaeth sy’n heneiddio, anawsterau wrth recriwtio a chadw staff clinigol a’r heriau wrth ddarparu gofal iechyd mewn lleoliad gwledig yn bennaf ond gydag ardaloedd trefol a hynny o fewn yr adnoddau sydd ar gael. 
 
Dywedodd Trevor Purt, Y Prif Weithredwr “Bydd rhai o’r newidiadau rydym yn gobeithio ei wneud yn digwydd yn gynt na’i gilydd.  Mae gennym gynllun tair i bum mlynedd - felly ni fyddwch yn gweld newidiadau i rhai gwasanaethau ysbyty hyd nes y byddwn yn fodlon bod gennym y gwasanaethau priodol, a’r rheiny ar gael yn ein cymunedau.  
 
“Hoffwn bwysleisio bod eich barn yn hanfodol, dyma’r broses ymgynghori ar ofal iechyd mwyaf pwysig ac arwyddocaol yr ydym wedi ei weld yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru.”
 
Mae’r dogfennau ymgynghori yn ffurfio rhan o ganolfan adnoddau ar-lein lle gellir cael rhagor o wybodaeth: www.bihyweldda.cymru.nhs.uk/Ymgynghori
 
Gellid gwneud cais am y dogfennau drwy:
E-bost :                      hyweldda.ymgynghori@wales.nhs.uk
Ysgrifennu atom :       FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD
Ffonio:                        01437 771232 (gallwch adael eich sylwadau ar y peiriant ateb)
 
Er mwyn sicrhau bod y ddogfen ymgynghori yn hygyrch, mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn darparu fersiynau mewn ffurfiau eraill, gan gynnwys Hawdd ei Darllen a fersiwn ar gyfer plant a phobl ifanc.
 
Gellid darparu adborth drwy:
·        Gwblhau’r holiadur ar-lein: www.bihyweldda.cymru.nhs.uk/Ymgynghori
·        Cwblhau copi caled o’r holiadur a’i ddychwelyd i: Opinion Research Services, Freepost (SS1018), PO Box 530, Abertawe, SA1 1ZL
·        Ysgrifennu llythyr i’r Bwrdd Iechyd,  FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD
·        E-bositio y Bwrdd Iechyd hyweldda.ymgynghori@wales.nhs.uk
·        Ffonio: 01437 771232 (gallwch adael eich sylwadau ar y peiriant ateb)
·        Neu drwy fynychu ein digwyddiadau:
 
Cyfarfodydd Cyhoeddus
 
Lleoliad
Amser, Dyddiad a Lleoliad
 
Sir Gaerfyrddin
7-9pm 4 Medi 2012
Parc Y Scarlets, Llanelli
Ceredigion
7-9pm 5 Medi 2012
Y Morlan Aberystwyth
Sir Benfro
7-9pm 20 Medi 2012
Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd
 
 Galwch heibio yn ystod y dydd i gael rhagor o wybodaeth yn ein sesiynau galw mewn.
 
Lleoliad
Amser, Dyddiad a Lleoliad
 
Amân Gwendraeth
2 -7.30pm 9 Hydref  2012
Neuadd Goffa Pontyberem
Llanelli
2–7.30pm 2 Hydref 2012
Neuadd Goffa, Porth Tywyn
Tywi, Teifi,
Taf Myrddin
2–7.30pm 16 Hydref 2012
Neuadd Ddinesig San Pedr, Caerfyrddin
Gogledd  Ceredigion
2–7.30pm 22 Hydref 2012
Eglwys y Drindod Sanctaidd, Aberaeron
De Ceredigion
2–7.30pm 4 Hydref 2012
Neuadd y Dref, Aberteifi
Gogledd Sir Benfro
2-7.30pm 17 Hydref 2012
Neuadd y Dref Abergwaun, Abergwaun
De Sir Benfro
2–7.30pm 24 Hydref 2012
Neuadd Gymuned Cilgeti, Cilgeti
 
Ffynhonnell: Bwrdd Iechyd Hywel Dda