CHC Logo

Uned Geni dan Arweiniad Bydwraig yn Ysbyty Glan Clwyd

Dydd Mercher, 1 Awst 2012
Mae’r Uned Geni dan Arweiniad Bydwraig wedi cael ei ail lansio yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae tîm o 6 bydwraig, dan arweiniad y Cydlynwyr Prosiect, Alison Shields a Sarah Hookes yn darparu gwasanaeth 24 awr i ferched gyda beichiogrwydd risg isel.
 
Mae gan yr Uned Geni dan Arweiniad Bydwraig ddwy ystafell geni gyda chyfleusterau en suite. Mae cerddoriaeth, goleuadau ysgafn a chyfleusterau lluniaeth ysgafn yn creu amgylchedd cyfforddus a hamddenol. Er mwyn hyrwyddo symud ac eistedd i fyny neu sefyll yn ystod yr esgor, mae matres Bradbury, peli geni, bagiau ffa a matiau llawr ar gael. Y dulliau lleddfu poen sydd ar gael yw T.E.N.S, nwy ac aer neu bigiadau.
 
Dywed Sarah Hookes, “Mae wedi cael ei brofi fod gofal un i un gan fydwraig yn cwtogi hyd yr esgor a golygu fod llai o angen am epidwral, ac felly, cynyddu’r siawns o gael genedigaeth naturiol.” Ychwanega Alison Shields, “Mae ein tîm o fydwragedd yn frwdfrydig ac wedi ymrwymo i ddarparu gofal wedi’i ganolbwyntio ar ferched mewn sefyllfa gartrefol.”
 
Mae merched beichiog sy’n gymwys i roi genedigaeth yn yr Uned yn cael eu dynodi gan fydwragedd cymuned yn gynnar yn ystod eu beichiogrwydd. Bydd y fydwraig yn ystyried cyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes a hanes y beichiogrwydd. Os bydd y fam feichiog yn addas ar gyfer Gofal dan Arweiniad Bydwraig ac yn dewis cael ei babi yn Ysbyty Glan Clwyd, gan gymryd y bydd ei beichiogrwydd yn parhau yn normal, bydd yn cael ei chynghori i gysylltu â’r Uned pan fydd yn y cyfnod esgor, o wythnos 37 y beichiogrwydd.
 
Mae’r uned yn Adran Mamolaeth yr ysbyty a gellir trosglwyddo merched yn hawdd i’r ystafelloedd esgor os bydd angen epidwral neu os bydd cymhlethdodau’n codi.
 
Dywedodd Jill Galvani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Cleifion “Rydym wedi ymrwymo i gefnogi merched i roi genedigaeth yn naturiol. Mae bydwragedd yng Ngogledd Cymru yn arbenigwyr mewn geni plant, a geni babanod yn yr amgylchedd cartrefol yma ydy’r ffordd orau ymlaen.”
 
Ystafelloedd Esgor yr ysbyty yw’r lle sy’n dal i gael ei argymell ar gyfer merched sydd â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes neu gymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd.
 
I gael mwy o wybodaeth, siaradwch â’ch bydwraig cymuned neu cysylltwch â thîm yr Uned ar 01745 534707. Mae croeso i famau beichiog drefnu ymweliad i’r Uned.
 
Midwife Led Birth Unit at YGC
 
 
 
 
 
 
 
Yn y llun mae:  rhes gefn, chwith i’r dde: Jennifer Owens, Helen Whitley, Sue Roberts.
Rhes flaen: Sarah Hookes, Helen Pritchard, Stephanie White, Alison Shields. Mae Paula Pennington yn cwblhau’r tîm ond nid yw yn y llun.