CHC Logo

Ceisiadau’n dyblu ar gyfer cynllun hyfforddi rheolwyr GIG Cymru i raddedigion

Dydd Mercher, 22 Chwefror 2012
Mae’r diddordeb mewn gyrfa fel rheolwr yn GIG Cymru wedi cynyddu’n sylweddol o gymharu â’n hymgyrch recriwtio flaenorol yn 2010, ac roeddem yn falch iawn o gael 466 o geisiadau (cynnydd o 53% o gymharu â 2010).
 
ADP banner
 
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer cynllun hyfforddi rheolwyr GIG Cymru i raddedigion - Rhaglen Ddatblygu Uwch 2012 - oedd 8 Chwefror 2012. Mae NHS Jobs wedi cofnodi ymholiadau gan o leiaf 6047 o bobl â diddordeb, sef cynnydd o 65% o gymharu â 2010. Ar ôl gwiriad cyn sifftio, mae 405 o geisiadau wedi mynd ymlaen i gam cyntaf y broses ddethol. Gwrthod 13% o geisiadau, sydd 7% yn llai nag yn 2010, sy’n dangos bod calibr yr ymgeiswyr yn uwch nag yr oedd yn 2010.
Mae’r 405 o ymgeiswyr llwyddiannus wedi cael eu gwahodd i gyflwyno ymatebion i bum cwestiwn cymhwysedd erbyn 23 Chwefror. Caiff asesiadau ar gyfer y rhestr hir eu cynnal gan aseswyr mewnol rhwng 24 a 29 Chwefror a bydd Panel Rhestr Hir yn dilysu’r penderfyniadau asesu ar 5 Mawrth.

Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i Gam 2 y broses ddethol a fydd yn golygu profion ar-lein a chyflwyno clip fideo byr.

Mae Cam 3, sef cam terfynol y broses wedi cael ei drefnu ar gyfer 27 a 30 Ebrill ac 1 Mai, a bydd yn cynnwys ymarferion mewn canolfan asesu ac yna gyfweliad gan banel. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ar y rhaglen gydag un o’r saith Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru neu Ymddiriedolaeth GIG Felindre ar 3 Medi 2012.
 
Mae rhagor o fanylion am y broses ddethol ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/829/page/36232.