Tuesday, 3 July 2012
Workshops are being held across Wales as part of the Welsh Government’s consultation on the draft Human Transplantation (Wales) Bill which will introduce a soft opt-opt system of organ donation in Wales.....
Under a soft opt-out system, unless a person registers either a wish to be a donor (opt-in) or not to be a donor (opt-out), their consent to donation will be deemed to have been given. However, a person’s family will still have a key role to play in discussions about organ donation. It is anticipated the new system will come into effect in 2015.
The consultation was launched by the Health Minister Lesley Griffiths on 18 June. It will run for 12 weeks until 10 September. During this time, a number of workshops aimed at gathering views on the draft legislation will be held as follows:
| Date | Time | Venue |
| 9th July | 14:00 - 16:30 |
Margam Building, Swansea University, Singleton Park, Swansea
|
| 11th July | 14:00 - 16:30 | Pembrokeshire College, Haverfordwest |
| 12th July | 14:00 - 16:30 |
Orbit Business Centre, Merthyr Tydfil
|
| 16th July | 14:00 - 16:30 | St George’s Hotel, Llandudno |
| 18th July | 14:00 - 16:30 | The Riverfront, Newport |
| 6th August | 14:00 - 16:30 |
City Hall, Cardiff
|
| 8th August | 09:00 - 11:30 | Media Resource Centre, Llandrindod Wells |
We want as many people as possible to come along to give us their views on the draft legislation. To register attendance, please contact the Organ Donation Legislation Team by telephone on 029 2082 1427 or by e-mail at organdonation@wales.gsi.gov.uk
For further details on the legislation and copies of the consultation documents go to www.wales.gov.uk/organdonation
Ceisio Barn am y Ddeddfwriaeth ar Roi Organau a Meinweoedd
Cynhelir gweithdai ledled Cymru fel rhan o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) drafft a fydd yn cyflwyno system feddal o optio allan yng Nghymru mewn perthynas â rhoi organau.
Dan system feddal o optio allan, oni bai fod rhywun yn cofrestru ei ddymuniad i fod naill ai’n rhoddwr (sef optio i mewn) neu i beidio â bod yn rhoddwr (sef optio allan), cymerir yn ganiataol eu bod wedi cydsynio. Fodd bynnag, bydd gan deulu’r person dan sylw ran bwysig i’w chwarae wrth drafod y mater o roi organau. Rhagwelir y daw’r system newydd i rym yn 2015.
Cafodd yr ymgynghoriad ei lansio gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, ar 18 Mehefin. Bydd yn rhedeg am 12 wythnos tan 10 Medi. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, cynhelir y gweithdai a ganlyn i gasglu barn am y ddeddfwriaeth ddrafft:
| Dyddiad | Amser | Lleoliad |
| 9 Gorffenaf | 14:00 - 16:30 |
Adeilad Margam, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe
|
| 11 Gorffenaf | 14:00 - 16:30 | Coleg Sir Benfro, Hwlffordd |
| 12 Gorffenaf | 14:00 - 16:30 |
Canolfan Fusnes Orbit, Merthyr Tudful
|
| 16 Gorffenaf | 14:00 - 16:30 | Gwesty’r St George, Llandudno |
| 18 Gorffenaf | 14:00 - 16:30 | Theatr Glan yr Afon, Casnewydd |
| 6 Awst | 14:00 - 16:30 |
Neuadd y Ddinas, Caerdydd
|
| 8 Awst | 09:00 - 11:30 | Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau, Llandrindod |
Rydym am i gymaint o bobl â phosib ddod i roi eu barn am y ddeddfwriaeth ddrafft. Os byddwch am ddod, cysylltwch â’r Tîm Deddfwriaeth ar Roi Organau trwy ffonio 029 2082 1427 neu anfon e-bost i organdonation@wales.gsi.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth, a chopïau o ddogfennau’r ymgynghoriad, ewch i: www.cymru.gov.uk/rhoiorganau
Source:
Aneurin Bevan Health Board