Gellir cynnig brechlynnau i bobl o unrhyw oedran sydd mewn grwpiau risg penodol er mwyn eu diogelu rhag clefydau heintus. Gallai hyn fod oherwydd cyflwr meddygol, triniaeth , galwedigaeth neu feichiogrwydd.Mae’r brechlynnau hyn yn cynnwys:
Brechlyn rhag y ffliw
Mae’r brechlyn hwn yn diogelu rhag y ffliw. Gan fod y diogelwch a gynigir gan y brechlyn yn lleihau’r raddol a chan fod y mathau o’r ffliw yn newid dros amser gwneir brechlyn newydd bob blwyddyn a chaiff pobl sydd mewn perygl o gael y ffliw eu hannog i gael eu brechu bob blwyddyn. Fel arfer mae’r sesiynau brechu yn dechrau ddiwedd mis Medi.
Pwy sydd angen y brechlyn:
- pawb sy’n 65 oed a throsodd
- pob menyw feichiog
- y rhai â chyflwr iechyd hirdymor (sydd dros 6 mis oed);
- Cyflyrau cronig ar y fron, yn cynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac asthma cymedrol neu ddifrifol
- Clefyd cronig y galon
- Clefyd cronig yr arennau o gam 3
- Clefyd cronig yr afu/iau
- Anhwylder niwrolegol cronig, yn cynnwys strôc
- Diabetes
- System imiwnedd wan
- Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- Pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal neu gyfleusterau gofal
- Gofalwyr
Brechlyn niwmococol (PPV)
Mae’r brechlyn niwmococol yn diogelu rhag rhai mathau o haint niwmococol. Gellir ei roi ar unrhyw adeg a dim ond un pigiad ydyw. Mae rhagor o wybodaeth am haint niwmococol ar gael o wefan Galw Iechyd Cymru.
Pwy sydd angen y brechlyn:
Pwy sydd angen y brechlyn:
- Pawb sy’n 65 oed a throsodd
- Y rhai â chyflwr iechyd hirdymor (sydd dros 2 oed);
- cyflyrau cronig ar y fron, yn cynnwys COPD ac asthma cymedrol neu ddifrifol
- Clefyd cronig y galon
- Clefyd cronig yr arennau
- Clefyd cronig yr afu/iau
- Diabetes
- System imiwnedd wan
- Dueg nad yw’n gweithio’n iawn
- Cyflyrau lle y gallai hylif CSF ollwng
- Pobl â mewnblaniad yn y cochlea
- Weldwyr
Brechlyn hepatitis B (hep B)
Mae’r brechlyn hwn yn diogelu rhag hepatitis B. Gellir ei roi i bobl o unrhyw oedran pryd bynnag y bo’r angen. Mae’r brechiad yn cynnwys cwrs o 3-4 pigiad a roddir dros gyfnod o 1-12 mis.
Pwy sydd angen y brechlyn:
- babanod sy’n cael eu geni i famau â hepatitis B
- pobl sy’n chwistrellu cyffuriau (yn cynnwys eu partneriaid, eu plant a phobl eraill sy’n byw gyda nhw)
- pobl sy’n newid partneriaid rhywiol yn aml (yn arbennig dynion sy’n cael rhyw gyda dynion, a gweithwyr rhyw gwrywaidd a benywaidd)
- cysylltiadau teuluol agos rhywun â haint hepatitis B cronig
- teuluoedd sy’n mabwysiadu plant o wledydd lle ceir cyfradd uchel neu ganolig o hepatitis B
- teuluoedd sy’n maethu plant sydd wedi wynebu mwy o risg o gael hepatitis B
- unigolion sy’n cael cynhyrchion gwaed rheolaidd, a’u gofalwyr
- pobl â methiant cronig yr arennau
- pobl â chlefyd cronig yr afu/iau
- carcharorion (Saesneg)
- pobl sy’n byw mewn llety preswyl i’r rhai ag anawsterau dysgu
- pobl sy’n teithio i ardaloedd lle ceir cyfradd uchel neu ganolig o hepatitis B, neu bobl sy’n mynd i fyw i ardaloedd o’r fath
- pobl sy’n wynebu risgiau galwedigaethol, fel gweithwyr gofal iechyd, staff labordy, staff corffdai, pêr-eneinwyr a gweithwyr carchardai sy’n dod i gysylltiad rheolaidd â charcharorion. Ymysg y grwpiau galwedigaethol eraill a allai elwa ar imiwneiddio mae’r heddlu a’r rhai sy’n gweithio i’r gwasanaethau tân ac achub.
Brechlyn twbercwlosis (BCG)
- pob baban (0 i 12 mis oed) sy’n byw yn ardaloedd y DU lle ceir cyfradd TB uchel*
- pob baban (0 i 12 mis oed) a chanddo riant neu nain neu daid a aned mewn gwlad lle ceir cyfradd uchel o TB*
- plant un i bump oed nad ydynt wedi cael eu brechu yn y gorffennol a chanddynt riant neu nain neu daid a aned mewn gwlad lle ceir cyfradd uchel o TB*
- plant rhwng chwech ac 16 oed nad ydynt wedi cael eu brechu yn y gorffennol ac sydd wedi cael canlyniad negyddol i’r prawf twbercwlin a chanddynt riant neu nain neu daid a aned mewn gwlad lle ceir cyfradd uchel o TB**
- unigolion dan 16 oed nad ydynt wedi cael eu brechu yn y gorffennol ac sydd wedi cael canlyniad negyddol i’r prawf twbercwlin sydd wedi dod i gysylltiad ag achosion o TB anadlol
- unigolion dan 16 oed nad ydynt wedi cael eu brechu yn y gorffennol ac sydd wedi cael canlyniad negyddol i’r prawf twbercwlin a aned mewn gwlad lle ceir cyfradd uchel o TB* neu sydd wedi byw mewn gwlad o’r fath am gyfnod maith (o leiaf dri mis)*
- yn y DU pobl sy’n wynebu risg alwedigaethol, fel gweithwyr gofal iechyd, rhai staff labordai, pobl sy’n ymdrin â rhywogaethau anifeiliaid sy’n gallu cael TB, rhai staff carchardai a’r rhai sy’n gweithio mewn cartrefi i bobl hŷn, staff hosteli i’r digartref a chyfleusterau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches
* Lle mae nifer yr achosion blynyddol o TB yn 40/100,000 neu’n uwch
** Dylid nodi’r plant hyn ar gyfleoedd addas, rhoi prawf twbercwlin iddyn nhw a’u brechu os bydd canlyniad y prawf yn negyddol
Brechlyn Varicella (brech yr ieir)
Mae’r brechlyn hwn yn diogelu rhag brech yr ieir. Gellir ei roi i blant pan fyddant yn ddwy oed fel dau ddos gyda 4 i 8 wythnos rhyngddynt.
Pwy sydd ei angen:
- cysylltiadau agos iach cleifion â systemau imiwnedd gwan
- rhai gweithwyr gofal iechyd
- rhai gweithwyr labordy
Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wefan NHS Choices ynghylch sut i gael y brechiadau hyn.




