Asbestos

Beth yw’r effeithiau?

 
Asbestos yw’r enw cyffredinol a roddir ar nifer o fineralau ffibrog naturiol. Mae dau brif fath: serpentin (eurfaen neu asbestos gwyn) ac amffibolau, sy’n cynnwys nifer o is-deipiau yn cynnwys amosit (asbestos brown).
 
Mae llawer o fineralau asbestos i’w canfod yn yr amgylchedd ac oherwydd eu gallu i wrthsefyll gwres a chemegau, arferwyd eu hystyried yn ddeunyddiau delfrydol i’w defnyddio mewn nifer o gynhyrchion adeiladu fel byrddau inswleiddio, boeleri, pibellau a deunydd ar gyfer toeon. Erbyn hyn mae’r defnydd o asbestos wedi’i wahardd o ddeunyddiau adeiladu newydd.
 
Prin yw’r perygl sy’n deillio o’r rhan fwyaf o gynhyrchion asbestos os ydynt yn gyfan. Fodd bynnag, os bydd cynhyrchion sy’n cynnwys asbestos yn cael eu difrodi, gellir rhyddhau ffibrau i’r aer. Gall pobl sy’n gweithio gydag asbestos neu gynhyrchion sy’n cynnwys asbestos ddod i gysylltiad â lefelau uwch o ffibrau asbestos yn yr aer na’r cyhoedd.
 
Gall anadlu crynodiadau uchel o asbestos am gyfnod maith (sy’n aml yn cael ei ystyried fel cysylltiad gydol oes) gael effaith andwyol ar yr ysgyfaint, gan achosi clefyd o’r enw asbestosis sy’n gallu arwain at broblemau’r galon ac anawsterau anadlu. Mae hefyd yn bosibl i’r bobl hyn gael canser yr ysgyfaint, gan yr ystyrir bod asbestos yn sylwedd sy’n achosi canser ymysg pobl ac ni ellir pennu lefel cwbl ddiogel ar ei gyfer. Gall pobl sy’n anadlu crynodiadau is, ond eto dros gyfnod maith, ddatblygu placiau plewrol neu fesothelioma. 
Beth yw maint y broblem?
Gan fod asbestos wedi cael ei ddefnyddio mor eang ac oherwydd bod ffibrau hefyd yn digwydd yn naturiol, mae tystiolaeth i awgrymu ein bod oll yn dod i gysylltiad â nifer bach o ffibrau asbestos yn yr aer ac yn eu hanadlu o ddod i ddydd. Fodd bynnag, mae’n annhebygol iawn y bydd y boblogaeth gyffredinol yn cael ei hamlygu i lefel o asbestos sy’n ddigon uchel a thros gyfnod digon maith i hynny gael effaith andwyol ar eu  hiechyd.
 
Yn yr un modd, mae cysylltiad eilaidd, gyda rhywun neu rywbeth sydd wedi dod i gysylltiad uniongyrchol â deunyddiau sy’n cynnwys asbestos, yn arbennig yn y tymor byr, yn annhebygol o greu risg fawr i iechyd y cyhoedd.

Beth sy’n cael ei wneud i reoli’r effaith?

Cafodd defnydd newydd o asbestos brown ei wahardd yn 1985, ac mae’r defnydd newydd o asbestos gwyn wedi bod yn anghyfreithlon er 1999.  Dim ond i ddefnydd newydd o’r deunyddiau hyn y mae’r gyfraith yn  berthnasol. Os bydd asbestos eisoes mewn adeilad, nid oes rhaid cael ei wared, ond rhaid rheoli ei gyflwr a sicrhau nad amherir arno, gan mai dim ond os caiff ei dorri gan arwain at ryddhau ffibrau i’r awyr y bydd asbestos yn risg i iechyd.
 
Dan Reoliadau Rheoli Asbestos 2006, ni ddylai neb gael gwared ag asebstos heb gael trwydded briodol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) i wneud hynny. 
 
Mae’n bosibl bod deunyddiau sy’n cynnwys asbestos yn bresennol yn eich cartref os cafodd ei adeiladu cyn y flwyddyn 2000. Efallai bod asbestos wedi cael ei ddefnyddio wrth adeiladu cynhyrchion concrit fel toeon a phibellau, mewn tanciau dŵr, mewn byrddau inswleiddio sy’n edrych fel bwrdd plastr, neu mewn nenfydau neu ddeunydd gorchuddio nenfydau fel artecs.
 
Ni ddylai’r ffaith bod asbestos yn eich cartref fod yn destun pryder os yw’r eitem yn gyfan ac os bydd annhebygol y bydd dim yn amharu arno, a’r cam gorau yw gadael llonydd iddo fod.  Fodd bynnag, os bydd angen i chi gael gwared arno, ni ddylech geisio gwneud y gwaith eich hun gan mai dim ond contractwr cyfreithiol sy’n gallu cael gwared ar asebstos yn gyfreithlon. Dylech gysylltu ag adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol i gael cyngor ar ddod o hyd i gontractwr trwyddedig.

Pa sefydliadau eraill sy’n gysylltiedig â hyn?

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn sicrhau bod gweithleoedd yn ysgwyddo eu cyfrifoldeb cyfreithiol i ddiogelu gweithwyr rhag dod i gysylltiad ag asbestos, ac mae hefyd yn gyfrifol am drwyddedu contractwyr sy’n gweithio gydag asbestos. Gall erlyn y rhai nad ydynt yn dilyn y gyfraith ar reoli asbestos. Mae ganddo hefyd gyfres o dudalennau gwe sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth am asbestos: http://www.hse.gov.uk/asbestos/index.htm

Gellir cysylltu ag Adrannau Iechyd Awdurdodau Lleol i gael cyngor ar reoli asbestos. Dylid cysylltu â nhw os ydych yn amau bod rhywun wedi bod yn tipio asebstos yn anghyfreithlon.

Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com   
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 22 Chwefror 2012