Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon, a gallai fod rhai wedi cael eu gosod eisoes.
Os fyddwch yn parhau i ddefnyddio'r safle heb newid eich gosodiadau, byddwn yn tybio eich bod yn cytuno â hyn.
Darganfyddwch fwy am ba gwcis rydym yn eu defnyddio a pham
Cuddio'r neges hon

Cofrestrwch i Newyddion Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dilynwch ni ar:

Ein Tweets diweddaraf:

Diogelwch a Hylendid Bwyd

Mae’r gwaith o gynhyrchu, prosesu, dosbarthu a manwerthu bwyd yng Nghymru a’r DU yn cael ei lywodraethu gan ddeddfwriaeth gaeth i helpu i sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta.
 
Yn ogystal, gall dilyn cyngor diogelwch bwyd syml wrth drin a thrafod, paratoi, coginio a storio bwyd yn y cartref leihau’n sylweddol y risg o ledaenu germau niweidiol sy’n gallu achos gwenwyn bwyd fel salmonela, campylobacter E. coli a listeria.
 

Beth yw maint y broblem?

Amcangyfrifir bod tua miliwn o bobl yn y DU yn cael salwch a gludir gan fwyd bob blwyddyn. O blith y rhieni amcangyfrifir bod 20,000 yn cael triniaeth mewn ysbyty a bod 500 o farwolaethau [Adroddiad Blynyddol y Prif Wyddonydd, Asiantaeth Safonau Bwyd].
 
Fodd bynnag, gan fod y rhan fwyaf o bobl yn cael symptomau ysgafn, dim ond cyfran sy’n gofyn am sylw meddygol ac felly mae nifer yr hysbysiadau o wenwyn bwyd a gofnodir yn y DU yn llai na 100,000 bob blwyddyn. Yng Nghymru yn 2010, cafodd Iechyd Cyhoeddus Cymru 4,979 o hysbysiadau gwenwyn bwyd.
 
Mae rhagor o wybodaeth am wenwyn bwyd a data hysbysu ar gyfer Cymru ar gael o’n gwefan gwenwyn bwyd.
 

Lleihau’r risg yn y cartref

Bydd dilyn y canllawiau syml isod ar sut i baratoi a choginio bwyd yn y cartref yn helpu i leihau’r risg o wenwyn bwyd.
 

Golchi dwylo

Ein dwylo yw’r brif ffordd y mae germau’n lledaenu felly mae’n bwysig eu golchi’n drylwyr gyda sebon a dŵr cynnes cyn trin a thrafod bwyd ac ar ôl cyffwrdd cig amrwd neu salad, ffrwythau neu lysiau heb eu golchi. Dylech olchi eich dwylo ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid anwes, defnyddio’r tŷ bach a glanhau ar ôl eraill, yn arbennig ar ôl plant neu anifeiliaid anwes â dolur rhydd, i helpu i atal bacteria a feirysau niweidiol rhag lledaenu.
 

Cig a dofednod

Mae cig a dofednod amrwd, yn cynnwys bacteria niweidiol sy’n gallu lledaenu’n hawdd i unrhyw beth y mae’n dod i gyffyrddiad ag ef. Mae hyn yn cynnwys bwyd arall, arwynebau gwaith, byrddau, byrddau torri a chyllyll. Dylid golchi arwynebau gwaith a theclynnau mewn dŵr poeth a  glanedydd ar ôl eu defnyddio gyda chig amrwd ac os yn bosibl mae’n well cael bwrdd torri ar wahân i’w ddefnyddio ar gyfer cig amrwd yn unig.
 
Bydd coginio bwyd ar y tymheredd cywir yn sicrhau y caiff unrhyw facteria niweidiol ei ladd. Dylech sicrhau bod y bwyd yn chwilboeth drwyddo cyn ei fwyta. Mae hyn yn bwysig iawn ar gyfer dofednod, porc, byrgers, selsig, darnau o gig wedi’u rowlio a cebabs a ddylai gael eu coginio’n drylwyr i sicrhau nad oes unrhyw gig pinc ar ôl.
 
Mae’n ddiogel gweini stêc a darnau cyfan eraill o gig eidion a chig oen yn waedlyd (heb eu coginio yn y canol) neu’n las (wedi’u coginio ar y tu allan) ar yr amod eu bod wedi’u selio’n gywir (wedi’i goginio’n gyflym ar dymheredd uchel ar y tu allan yn unig) i ladd unrhyw facteria ar wyneb y cig.
 
Cymerwch ofal arbennig i gadw cig amrwd oddi wrth fwydydd sy’n barod i’w bwyta fel bara, salad neu ffrwythau. Ni fydd y bwydydd hyn yn cael eu coginio cyn eu bwyta felly ni fydd unrhyw germau arnynt yn cael eu lladd. Pan fyddwch yn storio cig amrwd, dylech ei gadw mewn cynhwysedd glân wedi’i selio a’i roi ar silff isaf yr oergell lle nad oes  modd iddo gyffwrdd â bwydydd eraill neu ddiferu arnynt.
 
Yn olaf, nid oes angen golchi cyw iâr amrwd oherwydd caiff unrhyw germau arno eu lladd wrth ei goginio’n drylwyr a gall ei olchi beri i germau dasgu ar arwynebau cyfagos.
 

Salad, ffrwythau a llysiau

Dylid golchi salad, ffrwythau a llysiau’n drylwyr dan y tap; mae hyn yn bwysig iawn os bwriedir eu bwyta’n amrwd. Gall plicio a choginio ffrwythau a llysiau gael gwared ar germau niweidiol hefyd.
 

Caniau a jariau

Un math prin ond difrifol o wenwyn bwyd yw botwliaeth a gludir gan fwyd. Mae botwliaeth a gludir gan fwyd yn digwydd pan fydd y bacteriwm Clostridium botulinum yn tyfu ac yn creu gwenwyn botulinum mewn bwyd. Dim ond pan fydd Clostridium botulinum yn tyfu mewn amgylchedd di-ocsigen y caiff y gwenwyn ei gynhyrchu.
 
Gall risg o fotwliaeth fod yn gysylltiedig â rhai bwydydd sydd wedi’u pacio mewn cynwysyddion aerglos (er enghraifft mewn caniau, jariau, pecynnau gwactod neu fwyd wedi’i becynnu drwy addasu’r amgylchedd) neu mewn olew, ac felly mae angen i weithgynhyrchwyr gymryd gofal pan fyddant yn eu cynhyrchu, eu cludo a’u storio.
 
Mae botiwlaeth yn anghyffredin iawn yn y DU, ond mae’n ddoeth dilyn y cyngor hylendid sylfaenol isod a gynhyrchwyd gan yr ASB wrth storio a defnyddio’r mathau hyn o fwydydd.
  • Cyn eu defnyddio, edrychwch i weld a yw’r pecyn wedi tolcio neu wedi byrstio, a yw’r botwm ar y caead yn rhydd neu a yw’r sêl wedi torri. Os felly, peidiwch â bwyta’r cynnyrch
  • Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau storio ar y label. Os dylid cadw’r bwyd yn yr oergell, gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i gadw ar 5ºC neu’n is. Rhaid i fwyd heb ei agor y gellir ei gadw’n ddiogel ar dymheredd ystafell gael ei roi yn yr oergell ar ôl ei agor - edrychwch ar y label
  • Peidiwch â bwyta bwyd ar ôl ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’
  • Defnyddiwch unrhyw fwyd wedi’i agor o fewn dau ddiwrnod, oni fydd y cyfarwyddiadau’n dweud yn wahanol
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y label am sut i goginio neu ailgynhesu bwyd
 

Storio

Dylid oeri bwyd dros ben yn gyflym, o fewn awr neu ddwy yn ddelfrydol, ac yna ei roi yn yr oergell neu’r rhewgell. Sicrhewch fod bwydydd amrwd a bwydydd sy’n barod i’w bwyta yn cael eu cadw ar wahân yn yr oergell a bod yr oergell ar y tymheredd cywir (rhwng 0-5C).
 
Dylid cadw salad, ffrwythau neu lysiau heb eu golchi, yn ogystal â chig amrwd, ar wahân i unrhyw fwyd a gaiff ei fwyta heb ei goginio ar dymheredd uchel.  
 
Os byddwch yn ailgynhesu bwyd, gwnewch yn siŵr ei fod yn chwilboeth drwyddo a pheidiwch ag ailgynhesu bwyd fwy nag unwaith.
 

Glanhau

Golchwch bob arwyneb gwaith a byrddau torri cyn ac ar ôl eu defnyddio gan eu bod yn gallu arwain at groeshalogi.
 
Mae sbyngau a chadachau llaith yn lleoedd perffaith i facteria dyfu. Mae astudiaethau wedi dangos mai sbyngau a ddefnyddir mewn cegin sy’n cynnwys y nifer fwyaf o germau yn y cartref. Golchwch ac adnewyddwch gadachau, sbyngau a thyweli sychu llestri’n rheolaidd.
 

Barbeciw

 
Mae nifer yr achosion o wenwyn bwyd yn dyblu yn ystod yr haf. Mae tywydd braf yn galluogi bacteria i luosogi’n gyflymach mewn amodau lle nad yw arferion hylendid cystal, a lle mae pobl yn newid eu harferion bwyta dros fisoedd yr haf, gan fwyta mwy o fwydydd oer, bwffes lle y caiff bwyd ei adael allan am gyfnodau maith, a mwy o farbeciws.
 
Pan fyddwch yn coginio cig ar y barbeciw, rhaid ei goginio nes ei fod yn chwilboeth drwyddo, gan sicrhau nad oes dim o’r cig yn binc a bod yr hylif yn glir. Wrth goginio barbeciw i lawer o  bobl, efallai y byddai’n ddoeth coginio’r cig y tu mewn a’i orffen ar y barbeciw er mwyn ychwanegu blas.
 
Hefyd:
  • Dylai’r golosg fod yn goch, gyda llwch llwyd ar yr wyneb, cyn i chi ddechrau coginio
  • Dylid dadmer bwyd wedi’i rewi’n drylwyr cyn ei goginio
  • Trowch fwyd yn rheolaidd a’i symud o amgylch y barbeciw er mwyn sicrhau ei fod yn coginio drwyddo
  • Gwiriwch fod canol y bwyd yn chwilboeth
  • Peidiwch â thybio y bydd bwyd wedi coginio’n drylwyr y tu mewn os bydd wedi troi’n frown ar y tu allan
 
 
Gall bwyd wedi’i goginio gael ei groeshalogi gan facteria ar fwyd heb ei goginio hefyd. Gellir atal hyn drwy wneud y canlynol:
  • Golchi eich dwylo’n drylwyr bob tro ar ôl trin a thrafod cig ffres
  • Defnyddio teclynnau gwahanol ar gyfer cig amrwd a chig wedi’i goginio
  • Peidio â rhoi bwyd wedi’i goginio ar blât neu wyneb a ddefnyddiwyd ar gyfer cig amrwd
  • Cadwch gig amrwd mewn cynhwysydd wedi’i selio a’i gadw draw oddi wrth fwydydd sy’n barod i’w bwyta, fel rholiau a salad
  • Peidiwch â rhoi cynhyrchion cig amrwd wrth ymyl cig wedi’i goginio’n rhannol ar y barbeciw
  • Peidiwch ag ychwanegu saws neu farinâd at fwyd wedi’i goginio os bydd eisoes wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer cig amrwd
 
Ni ddylid gadael bwydydd oer fel salad, dipiau, pwdinau, brechdanau, cig wedi’i goginio a reis allan yn yr haul neu allan o’r oergell am fwy nag awr neu ddwy.
 

Rhagor o wybodaeth

Mae cyngor ar ddiogelwch bwyd ar gael o wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: http://www.food.gov.uk/ a gwefan NHS Choices yn : http://www.nhs.uk/Livewell/homehygiene/Pages/Foodhygiene.aspx
 
 

Beth y gellir ei wneud i leihau’r risg yn genedlaethol?

Mae’r prosesau o gynhyrchu, prosesu, dosbarthu, manwerthu, pecynnu a labelu bwydydd yn y DU yn cael eu llywodraethu gan nifer o gyfreithiau, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau.
 
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn adran annibynnol o’r Llywodraeth a grëwyd gan Ddeddf Seneddol yn 2000 i ddiogelu iechyd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae’r ASB yn rhoi cyngor a gwybodaeth i’r cyhoedd a’r Llywodraeth ar ddiogelwch bwyd o’r fferm i’r fforc. Mae hefyd yn diogelu defnyddwyr drwy orfodi a monitro bwyd yn effeithiol. Mae rhagor o wybodaeth am yr ASB ar gael ar ei gwefan yn: http://www.food.gov.uk/
 
Caiff Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd eu cyflogi gan awdurdodau lleol i sicrhau bod pob busnes sy’n cynhyrchu neu’n paratoi bwyd i’r cyhoedd yn glynu at ddeddfwriaeth diogelwch a hylendid bwyd.
 
Yn 2010, cyflwynodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, Gynllun Sgorio Hylendid Bwyd cenedlaethol. Mae’r cynllun yn helpu defnyddwyr i ddewis ble i fwyta allan neu i siopa am fwyd drwy roi gwybodaeth iddynt am y safonau hylendid mewn bwytai, caffis, siopau tecawe, gwestai a siopau  bwyd.
 
Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi gweithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ac yn arddangos sgorau ar gyfer busnesau yn eu hardal nhw.
 
Mae’r sgorau hyn ar gael ar wefan yr ASB ar: http://ratings.food.gov.uk/LocalAuthority.aspx?reg=WA
 
Mae monitro nifer yr hysbysiadau o wenwyn bwyd ac achosion o organebau sy’n gysylltiedig ag ef yn galluogi unrhyw gynnydd yn nifer yr achosion, a allai fod yn arwydd o ddigwyddiad mawr, i gael ei nodi’n brydlon. Caiff mesurau priodol i gyfyngu ar ddigwyddiad mawr, i’w atal rhag lledaenu’n ymhellach ac i nodi ffynonellau posibl eu gweithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff eraill sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch bwyd yng Nghymru.
 
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn rhan o waith ymchwil cydweithredol ar gastro-enteritis a gludir gan fwyd gyda sefydliadau partner eraill. Mae’r rhain yn cynnwys ymchwil a ariennir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i ymchwilio i halogiad Campylobacter mewn cyw iâr sydd ar gael i ddefnyddwyr ac Ail Astudiaeth o Glefyd Perfeddol Heintus yn y Gymuned (Astudiaeth IID2).

Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com   
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 20 Ionawr 2012