Cyflwyniad
Mae Ymlediad Aortig Abdomenol yn digwydd pan fydd y brif bibell waed sy’n cario gwaed o’r galon i’r corff yn chwyddo.
Mae aorta’r abdomen yn mynd i lawr canol yr abdomen. Mae’n un o’r rhydwelïau mwyaf yn y corff. Rôl aorta’r abdomen yw cludo gwaed o’r galon a’i ddosbarthu, drwy rwydwaith o bibellau gwaed, i organau’r corff.
Ymlediad yw chwydd mewn pibell waed sy’n cael ei achosi gan wendid ym mur y bibell waed. Wrth i waed fynd drwy’r bibell waed wan, gall y pwysedd wneud i’r bibell chwyddo tuag allan fel balŵn.
Mewn nifer o achosion, nid yw’n amlwg beth sy’n achosi ymlediad, ond mae’r ffactorau risg hysbys yn cynnwys:
- ysmygu,
- pwysedd gwaed uchel (gorbwysedd), a
- hanes o ymlediadau yn y teulu.
Mae gan aorta’r abdomen sy’n iach ddiameter o 2-3cm (modfedd). Os bydd ymlediad yn datblygu, bydd diameter yr aorta yn cynyddu. Mae’r cynnydd yn y diameter yn gwanhau mur yr aorta, gan gynyddu’r risg y bydd yr aorta yn rhwygo (hollti).
Gall rhwyg mewn ymlediad aortig achosi cryn waedu mewnol ac mae’n rhaid wrth lawdriniaeth frys. Mae rhwyg mewn ymlediad aortig abdomenol yn achosi nifer fawr o farwolaethau. Amcangyfrifir y bydd tuag 85% o bobl gydag ymlediad wedi rhwygo yn marw, ac y bydd llawer o’r rhain yn marw cyn iddynt gyrraedd yr ysbyty. Hyd yn oed i’r rhai sy’n cyrraedd yr ysbyty yn fyw, bydd rhwng 20 a 75% o bobl â rhwyg mewn ymlediad aortig yn marw o ganlyniad.
Pwy sy’n ei gael a pha mor ddifrifol ydyw?
Mae ymlediad aortig abdomenol chwe gwaith yn fwy cyffredin ymysg dynion na merched, ac mae’n dod yn fwy cyffredin gydag oedran. Yn y rhan fwyaf o achosion nid oes symptomau’n gysylltiedig â’r ymlediad nes iddo rwygo’n sydyn, a bydd rhaid ei atgyweirio drwy lawdriniaeth.
Mae rhwygiadau mewn ymlediadau’n achos marwolaeth bach ond arwyddocaol yn y DU. Yn y DU amcangyfrifir bod 8,000 o bobl yn marw o ganlyniad i rwyg mewn ymlediad aortaidd bob blwyddyn.
Ymysg dynion dros 65 oed, mae rhwyg mewn ymlediad aortaidd yn gyfrifol am 2.1 y cant o’r holl farwolaethau. Yn 2008 roedd 282 o farwolaethau yn sgîl ymlediad aortig ymysg dynion yng Nghymru, ac roedd 95 y cant o’r rheini yn ddynion 65 oed a throsodd. Mae tua hanner y marwolaethau a briodolir i rwygiadau mewn ymlediadau yn digwydd cyn i’r claf gyrraedd yr ysbyty. Y gyfradd farwolaeth gyffredinol yn sgîl rhwyg mewn ymlediad aortig yw tuag 85 y cant.
Atal
Mewn rhai amgylchiadau mae’n bosibl atgyweirio ymlediad cyn iddo rwygo. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar ganfod yr ymlediad yn ddigon cynnar, maint yr ymlediad, a ffactorau’n ymwneud â chlaf unigol, yn cynnwys oedran a chyflyrau eraill sydd ganddynt. Mae risg yn gysylltiedig â llawdriniaeth ddewisol, ond mae’r risg yn llawer llai na chyda llawdriniaeth frys.
Rhowch y gorau i ysmygu. Mae ysmygu’n ffactor risg fawr ar gyfer ymlediad aortig abdomenol. I gael cyngor cyfeillgar am ddim ar sut i roi’r gorau i ysmygu cysylltwch â Dim Smygu Cymru ar 0800 085 2219
Lleihau’r effaith yng Nghymru
Mae tystiolaeth ymchwil wedi dangos y gall rhaglen sgrinio o ansawdd ar gyfer ymlediad aortig abdomenol sicrhau gostyngiad o 50% yn nifer y marwolaethau yn sgîl rhwyg mewn ymlediad aortig ymysg dynion dros 65 oed. Ym mis Chwefror 2007, cymeradwyodd y Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol raglen sgrinio ar gyfer ymlediadau aortig abdomenol i ddynion 65 oed drwy gymryd sgan uwchsain o’r abdomen. Yng ngoleuni’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r llawdriniaeth i atgyweirio ymlediadau a ganfyddir drwy sgrinio ychwanegodd y pwyllgor yr amodau y dylid rhoi gwybodaeth eglur i ddynion am risgiau llawdriniaeth ddewisol ac y dylid creu rhwydweithiau o wasanaethau llawfeddygol fasgwlaidd er mwyn cynnal llawdriniaeth i atgyweirio ymlediadau a ganfyddir drwy sgrinio.
Fis Mehefin 2010 gofynnwyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru gynllunio rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer ymlediadau aortig abdomenol. Gwnaeth Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC), y corff sydd wedi ymgymryd â nifer o gyfrifoldebau Comisiwn Iechyd Cymru, y cais yn dilyn argymhelliad gan grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cynulliad Cymru a grëwyd i roi cyngor i’r Gweinidog ar yr opsiynau ar gyfer sgrinio.
Mae Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi sefydlu prosiect i gynllunio’r gwaith o weithredu rhaglen sgrinio genedlaethol gyda sicrwydd ansawdd i ddynion 65 oed sy’n byw yng Nghymru.




