Clefyd y Llengfilwyr

Mae Clefyd y Llengfilwyr yn haint bacteriol a nodweddir gan niwmonia difrifol a all, o bosibl, fygwth bywyd. Mae’r rhan fwyaf o heintiadau’n cael eu hadrodd fel achosion sengl (unigol) ond weithiau bydd cychwyniadau o’r clefyd yn digwydd.

Mae’r clefyd yn cael ei enw o aelodau’r Lleng Americanaidd, a ddioddefodd gychwyniadau o’r  clefyd wrth iddynt fynychu confensiwn mewn gwesty yn Philadelphia ym 1976. Nodwyd y bacteriwm a achosodd y salwch o ysgyfaint y bobl a fu farw a rhoddwyd yr enw Legionella pneumophila iddo. Fodd bynnag, er bod y bacteriwm heb gael ei enwi tan 1976, ers hynny cafodd achosion eu nodi mor bell yn ôl â 1947 a mwy na thebyg digwyddodd rhai cyn hynny.

Nodyn i ymchwilwyr: Dilynwch y ddolen i gael mynediad at fersiwn ddiweddaraf Holiadur Cynllun Gwyliadwriaeth Cenedlaethol ar gyfer Clefyd y Llengfilwyr (a ddiweddarwyd ym mis Mai 2010). Gweler hefyd y dudalen ar y we (Saesneg yn unig): Gwybodaeth i ymchwilwyr

Pwy sy’n ei gael a pha mor ddifrifol yw?

Gall effeithio ar bob oedran ond yn bennaf mae’r clefyd yn effeithio ar bobl dros 50 oed, ac yn gyffredinol, ar ddynion yn fwy nag ar fenywod (3:1). Mae ysmygwyr, yfwyr trwm a phobl gyda system imiwnedd sydd mewn perygl o dan risg uwch.
  
Nid yw’r cyflwr yn heintus ac ni ellir ei ddal gan rywun arall. Caiff ei ledaenu drwy anadlu diferion bach iawn o ddŵr, o ffynhonnell ddŵr wedi’i llygru, sy’n cynnwys y bacteria. Pan fyddant yn yr ysgyfaint mae’r bacteria’n lluosi ac yn achosi naill ai niwmonia (Clefyd y Llengfilwyr) neu salwch heb niwmonia o’r enw clefyd Pontiac.
 
Mae symptomau’n cynnwys salwch fel ffliw gyda thwymyn a ddaw yn gyflym, poenau yn y cyhyrau, blinder, cur pen, diffyg chwant bwyd, bod yn fyr o anadl a phoen yn y frest a pheswch sych sy’n arwain at niwmonia. Mae cyfog, chwydu, a dolur rhydd weithiau’n digwydd a gall dryswch meddyliol a cholli cyswllt â’r amgylchedd ddatblygu. Aiff y salwch yn waeth ac yn waeth dros gyfnod o nifer o ddyddiau.
 
Rhwng 2 a 10 o ddiwrnodau yw’r cyfnod magu ar gyfer Clefyd y Llengfilwyr, ond fel arfer rhwng pump a chwe diwrnod. Efallai bydd rhai pobl yn datblygu symptomau hyd at dair wythnos ar ôl bod yn agored i’r clefyd. Ar gyfer heintiad nad yw’n niwmonia (clefyd Pontiac) 12 i 48 awr yw’r cyfnod magu Efallai bydd rhai pobl yn cael eu heintio â’r bacteria heb ddatblygu unrhyw symptomau (asymptomatig).
 
Mae Clefyd y Llengfilwyr yn salwch difrifol a gall marwolaethau ddigwydd i tua 10-15% o unigolion sydd fel arall yn iach.  Efallai bydd y nifer o farwolaethau a adroddir amdanynt yn uwch (hyd at 40%) mewn rhai grwpiau o gleifion, megis y rhai sydd â systemau imiwnedd sydd wedi gwanhau.
 
 

Triniaeth

Pan fydd symptomau wedi digwydd, gellir gwneud diagnosis yn gyflym drwy brofi sampl o wrin gan y claf. Mae antibiotigau sydd ar gael yn gyffredin yn effeithiol o ran trin y clefyd. Efallai bydd profi sampl y claf ymhellach yn ficrobiolegol hefyd yn rhoi gwybodaeth y gellir ei defnyddio i nodi ffynonellau posibl o heintiad a chefnogi ymchwiliadau amgylcheddol.

Pa mor gyffredin yw?

Cafwyd achosion ym mhob gwlad sydd wedi’i diwydiannu ac maent yn cynyddu yn y rhan fwyaf o wledydd yn flynyddol.  Mae’r clefyd hefyd yn fwy cyffredin yn ystod misoedd yr haf.
 
Cafodd rhwng 350 a 550 o achosion eu hadrodd yng Nghymru a Lloegr yn ystod y pedair blynedd diwethaf – fodd bynnag, cafodd mwy na thraean o’r achosion hyn eu heintio y tu allan i Gymru a Lloegr fel canlyniad i deithio i wlad arall. Yng Nghymru yn ystod 2008, cadarnhawyd 11 achos o Glefyd y Llengfilwyr.

Atal

Mae’r bacteria Legionella wedi’u dosbarthu’n eang yn yr amgylchedd. Gallant fyw mewn pob math o amgylcheddau dŵr croyw sy’n gyfoethog o ran maetholion, gan gynnwys ffynonellau naturiol megis afonydd a nentydd.
 
O’r ffynonellau hyn maent yn mynd i mewn i systemau dŵr gwneud ac yn eu coloneiddio megis lleithyddion, tyrau oeri sy’n gysylltiedig â rhai mathau o gyflyru awyr a’r systemau dŵr poeth ac oer a ddefnyddir mewn ysbytai, gwestai a llety gwyliau, swyddfeydd, pyllau sba trobwll, llongau mordeithio a thai.
 
Maent ond yn mynd yn berygl i iechyd pan fydd tymheredd y dŵr yn caniatáu i’r bacteria luosi’n gyflym, megis mewn systemau dŵr na chynlluniwyd, neu na osodwyd/cynhaliwyd yn iawn.
 
Gellir rheoli ac atal y clefyd drwy drin systemau dŵr wedi’u llygru a dileu tyfiant bacteriol yn y lle cyntaf drwy gynllunio’n dda a chynnal a chadw da ar systemau dŵr.
 
Mae gan y DU reoliadau llym er mwyn sicrhau y caiff systemau dŵr a ddefnyddir ar gyfer oeri awyr eu defnyddio mewn adeiladau masnachol, twristiaidd a lleoliadau eraill, eu cynnal a chadw hyd at safonau sy’n lleihau risg o’r clefyd ac nad ydynt yn llochesu bacteria sy’n achosi Clefyd y Llengfilwyr.  

Lleihau’r effaith yng Nghymru

Un rôl bwysig sydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw casglu a dehongli data am glefydau heintus ymysg poblogaeth Cymru. Mae heintiadau allweddol, gan gynnwys Clefyd y Llengfilwyr o dan wyliadwriaeth gyson, er mwyn canfod tueddiadau arwyddocaol, i werthuso mesuriadau atal a rheoli, i nodi a rheoli cychwyniadau o’r clefyd  ac i hysbysu’r bobl a’r sefydliadau proffesiynol priodol o fygythiadau gan glefydau heintus.
 
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cymryd rhan yn y ‘Cynllun Gwyliadwriaeth Cenedlaethol ar gyfer Clefyd y Llengfilwyr yng Nghymru a Lloegr’ a gydlynir gan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd (HPA). Gellir dod o hyd i fwy o fanylion am hyn ar wefan yr HPA ar:
 
Mae gwybodaeth i ymchwilwyr ar gael o’r dudalen we (Saesneg): http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/legionnaires-investigators-info

Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com   
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 13 Medi 2010