Mae saith Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am ddarparu pob gwasanaeth gofal iechyd o fewn ardaloedd daearyddol penodol.
Y byrddau iechyd yng Nghymru yw:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Bwrdd Iechyd Cwm Taf
- Bwrdd Iechyd Hywel Dda
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n darparu cymorth arbenigol o ran iechyd cyhoeddus ar gyfer pob bwrdd iechyd a’i Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n darparu cymorth penodol ar gyfer byrddau iechyd o ran cyflawni eu swyddogaethau statudol, gan gynnwys:
- Ymchwilio i glefydau trosglwyddadwy a’u rheoli
- Goruchwylio clefydau trosglwyddadwy
- Datblygu strategaeth imiwneiddio, cefnogi a monitro rhaglenni imiwneiddio
- Rhoi cyngor ar reoli heintiau yn y gymuned
- Paratoi a chyfleu gwybodaeth am glefydau trosglwyddadwy i’r gymuned
- Rhoi cyngor ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd yr amgylchedd
- Ymdrin ag ymholiadau diogelu iechyd gan weithwyr proffesiynol, y cyhoedd a’r cyfryngau o ddydd i ddydd
- Hwyluso’r broses o gwblhau archwiliadau BILl amddiffyn plant
- Ymwneud ag adolygiadau o achosion amddiffyn plant
- Cyngor ar leoliadau y tu allan i’r Sir
- Cynllunio hyfforddiant amddiffyn plant ar gyfer Byrddau

