Cyfnodau Bywyd a Phoblogaethau

Mae deall y boblogaeth leol yn hanfodol mewn unrhyw asesiad iechyd. 2.99 miliwn yw poblogaeth Cymru ar hyn o bryd ac mae’r ffigur wedi parhau’n eithaf sefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, ceir cryn amrywiaeth rhwng oed, tras a symudedd ar lefel awdurdod lleol gan olygu bod hynny’n effeithio ar gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
Yn ystod y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf, mae poblogaeth Cymru wedi cynyddu o 2.73 miliwn ym 1971 i 2.99 miliwn yn 2008. Bu’r cynnydd mwyaf amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgil y mewnfudo o weddill y DU (LlCC, 2007). Fodd bynnag, ceir cryn amrywiaeth gan fod poblogaethau rhai awdurdodau lleol yn gostwng oherwydd cyfraddau genedigaeth isel a nifer y bobl ifanc sy’n symud o’u hardaloedd.
Yn 2009, fe baratôdd Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru Broffiliau Demograffeg fel y cyntaf mewn cyfres o gynnyrch i fyrddau iechyd. Mae’r proffiliau yn ceisio rhoi gwybodaeth i fyrddau iechyd am y boblogaeth sydd o dan eu gofal a bod yn adnodd sy’n cynorthwyo eu gweithgareddau cynllunio.
I weld amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ac ystadegau am hanfodion newid mewn poblogaeth (genedigaeth, marwolaeth, mudo), dilynwch y ddolen i StatsCymru

Cyfeiriadau

Llywodraeth y Cynulliad (2007) Poblogaeth Cymru – Trosolwg demograffeg 1971-2005. Caerdydd: LlCC.

Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com   
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 14 Ebrill 2010