- Cyflwyniad
- Poblogaeth
- Amcanestyniadau newid yn y boblogaeth
- Poblogaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig
- Genedigaethau
- Disgwyliad oes
- Amddifadedd
- Anabledd a gofalwyr
- Pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain
- Marwolaethau
Eglurhad:
Data gyda sylwebaeth
Geirfa
Dulliau a nodiadau
Mapiau Iechyd Cymru
Adnoddau ychwanegol
Cyflwyniad
| Map rhyngweithiol o’r ardal | Gellir defnyddio Mapiau Iechyd Cymru i weld lleoliad ysbytai acíwt yn ogystal â ffiniau BILl, awdurdodau lleol (neu unedol). Cyflwynir dadansoddiadau ar lefel ardal fach ar gyfer nifer o ddangosyddion, gan gynnwys ardal cynnyrch ehangach haen uwch (USOA), ardal cynnyrch ehangach haen ganolig (MSOA) ac ardal cynnyrch ehangach haen is (LSOA). |
| Maint ardal Cilomedrau Sgwâr, 2007 | Rhondda Cynon Taf Merthyr Tudful Cymru DU | 535 424 111 20,780 244,168 |
Poblogaeth
Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn
| Amcangyfrifon Poblogaeth Canol Blwyddyn Miloedd, 2007 | Rhondda Cynon Taf Merthyr Tudful Cymru DU | 289.4 233.7 55.6 2,980.0 60,975.0 |
Cyfeiriadau
Poblogaethau Cofrestredig
Dwysedd Poblogaeth
| Dwysedd Poblogaeth Pobl fesul cilomedr sgwâr, 2007 | BILl Cwm Taf Rhondda Cynon Taf Merthyr Tudful Cymru DU | 540.8 555.1 501.0 143.4 251.0 |
Amcanestyniadau newid yn y boblogaeth
Mae amcanestyniadau poblogaeth wedi’u seilio ar ragdybiaethau; maent yn dangos beth allai ddigwydd pe bai tueddiadau diweddar o ran genedigaethau, marwolaethau a niferoedd yn mudo yn parhau. [1]
Mae amcanestyniadau cyfredol yn gweld cynnydd yn y boblogaeth hŷn (75 oed a hŷn) ymhlith trigolion BILl Cwm Taf o 22,000 (8 y cant o gyfanswm y boblogaeth) yn 2006 i 39,000 (13 y cant o gyfanswm y boblogaeth) yn 2031. Mae’r cynnydd yn nifer y bobl hŷn yn debygol o achosi cynnydd mewn cyflyrau cronig, fel clefydau cylchredol a chlefydau resbiradol, a chanserau. Bydd diwallu anghenion yr unigolion hyn yn her allweddol i’r byrddau iechyd lleol. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, bydd y cynnydd cymharol (ac absoliwt) yn y boblogaeth sy’n ddibynnol yn economaidd, ac, mewn rhai achosion, poblogaethau sy’n ddibynnol ar ofal, yn creu heriau penodol i gymunedau.
|
|
| Nifer | % newid |
| Amcanestyniadau poblogaeth Cynnydd/gostyngiad rhagamcanol yng nghyfanswm y boblogaeth o 2006 i 2031 | BILl Cwm Taf Rhondda Cynon Taf Merthyr Tudful Cymru DU | 19,500 20,900 -1,500 330,000 10,500,000 | (+6.7%) (+9.0%) (-2.6%) (+11.1%) (+17.4%) |
Cyfeiriadau
1. Welsh Assembly Government. Local Authority Population Projections for
Poblogaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig
Mae gan bob sefydliad GIG ddyletswydd statudol i hyrwyddo cydraddoldeb hil. Nid yn unig y gall ethnigrwydd adlewyrchu anghenion penodol o ran iaith a diwylliant, ond o ran anghenion iechyd yn ogystal. Mae pobl o gefndiroedd pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME) yn fwy tebygol o ddod o deuluoedd incwm isel, o ddioddef amodau byw salach, ac o ennill cymwysterau addysgol lefelau is o gymharu â phoblogaethau gwyn. [1] Yn ogystal, mae gan rai grwpiau BME gyfraddau uwch o rai cyflyrau iechyd. Er enghraifft, mae risg sylweddol uwch o ddatblygu diabetes gan boblogaethau o dras De Asiaidd a Charibïaidd; mae poblogaethau o dras Bangladeshaidd yn fwy tebygol o osgoi alcohol, ond yn fwy tebygol o ysmygu. [2]
Dengys ffigurau o Gyfrifiad 2001 fod y boblogaeth BME yng Nghymru yn 2.1 y cant, o gymharu â 7.9 y cant yn y DU gyfan. Mae gan boblogaethau BME, yn gyffredinol, strwythur oed ieuengach o gymharu â phoblogaethau gwyn, ac mae hynny’n adlewyrchu patrymau mewnfudo a ffrwythlondeb y gorffennol. Rhagwelir y bydd poblogaethau BME yn heneiddio’n gynyddol yn y dyfodol, ond bydd yn dibynnu ar lefelau ffrwythlondeb, cyfraddau marwolaethau a niferoedd net yn mudo yn y dyfodol. [3]
Yn ardal BILl Cwm Taf, mae’r boblogaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME) yn 1.1 y cant. Ar lefel ardal awdurdod lleol, ychydig o amrywio sydd, ac mae’r ffigurau’n amrywio o 1.0 y cant ym Merthyr Tudful i 1.2 y cant yn Rhondda Cynon Taf.
Mae effaith mewnfudo er Cyfrifiad 2001 yn anoddach ei mesur. Nid oes un set ddata unigol sy’n cadw gwybodaeth am yr holl fewnfudwyr, ac mae llawer o ddiffiniadau a chategorïau gwahanol o ‘fudwyr’. Mae’r GICC wrthi’n gweithio ar ddadansoddiadau o bobl sy’n cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru, nad ydynt wedi cofrestru felly’n flaenorol yn y DU, ac y mae eu man geni y tu allan i’r DU. Mae’r dadansoddiadau hyn yn fwy perthynol i niferoedd na mynychder, er gyda rhai cyfyngiadau, ac maent yn dangos tueddiadau demograffig a thymhorol cyfrifiadau cyn 2001, llawer ohonynt o bosibl yn rhagddyddio’r niferoedd mwy diweddar sy’n mewnfudo.
| Poblogaeth Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig % y bobl nad ydynt yn bobl wyn, 2001 | BILl Cwm Taf Rhondda Cynon Taf Merthyr Tudful Cymru DU | 1.1% 1.2% 1.0% 2.1% 7.9% |
Cyfeiriadau
1. Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru[ar-lein], 2008. Black and Ethnic Minority Population. Ar gael yn: http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=719&pid=23574 [mynediad 20 Mai 2009]
2. Canolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol [ar-lein], 2005. Health survey for England 2004: the health of minority ethnic groups – headline tables. Ar gael yn: http://www.ic.nhs.uk/statistics-and-data-collections/health-and-lifestyles-related-surveys/health-survey-for-england/health-survey-for-england-2004-health-of-ethnic-minorities-headline-tables [mynediad 20 Mai 2009].
3. Ystadegau Gwladol [ar-lein], 2004., Focus on Ethnicity and Identity Age/Sex Distribution Non-White groups are younger. Ar gael yn: http://www.statistics.gov.uk/cci/nugget.asp?id=456 [mynediad 19 Mai 2009].
Y gyfradd ffrwythlondeb gyffredinol
Mae’r gyfradd ffrwythlondeb gyffredinol (GFR) yn fesur o lefelau ffrwythlondeb cyfredol ac mae’n dynodi nifer y genedigaethau byw fesul 1,000 o fenywod 15-44 oed. Er bod y GFR yn ystyried dosbarthiad y boblogaeth yn ôl oed a rhyw, nid yw’n caniatáu ar gyfer carfannau o feintiau gwahanol o fenywod o oed magu plant.
Mae GFR ardal BILl Cwm Taf ychydig yn uwch na chyfradd Cymru, ond mae’n adlewyrchu patrwm Cymru yn fanwl. Yn 2007, o’r saith o Fyrddau Iechyd Lleol, gan Gwm Taf yr oedd y GFR ail uchaf. Gan Ferthyr Tudful yr oedd y GFR uchaf o holl awdurdodau lleol Cymru.
| Y Gyfradd Ffrwythlondeb Gyffredinol Genedigaethau byw fesul 1,000 o fenywod (15-44 oed), 2007 | Rhondda Cynon Taf Merthyr Tudful Cymru DU | 61.2 60.3 65.1 59.4 61.6 |
Disgwyliad oes
| Disgwyliad oes adeg geni Pobl a anwyd rhwng 2005-07 | BILl Cwm Taf Rhondda Cynon Taf Merthyr Tudful Cymru DU | Gwrywod (blynyddoedd) 75.1 75.0 75.5 76.8 77.2 | Benywod (blynyddoedd) 79.9 80.0 79.4 81.2 81.5 |
Cyfeiriadau
1. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2009). Life Expectancy at birth. Ar gael yn http://www.statistics.gov.uk/CCI/nugget.asp?ID=168 [mynediad 2 Mehefin 2009]
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)
Gellir defnyddio mesurau amddifadedd ar sail ddaearyddol er mwyn dangos anghydraddoldebau mewn iechyd, ac i awgrymu ardaloedd sydd yn fwyaf tebygol o fod angen mesurau i wella iechyd ac i reoli afiechyd. Cynhyrchir Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 ar lefel ardal fach a elwir yn Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA), a deillir hwn o ystod eang o ffactorau.
Mae ardaloedd o amddifadedd yn y BILl, yn enwedig yn yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol fel y Rhondda a Merthyr Tudful. Mae 73 o’r 188 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAau) yn y BILl (39 y cant) ymhlith y pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru,ac mae 17 (9 y cant) yn y pumed lleiaf difreintiedig. Gan BILl Cwm Taf y mae’r gyfran uchaf o LSOAau yn y pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
| Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) % yr ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (LSOAau) yn y 5ed mwyaf difreintiedig yng Nghymru, 2008 | BILl Cwm Taf Rhondda Cynon Taf Merthyr Tudful Cymru | 39% 36% 50% 20% |
Anabledd a gofalwyr
Pobl ag Anabledd Corfforol/Synhwyraidd
Mae gan gyrff y GIG ddyletswyddau o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005 i roi ystyriaeth ddyledus i hyrwyddo cyfle cyfartal, hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at bobl ag anabledd, ac annog cyfranogiad pobl anabl mewn bywyd cyhoeddus. [1] Diffiniad gwreiddiol Deddf 1995 o anabledd yw ‘nam corfforol neu feddyliolsy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu [unigolyn] i gyflawni gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd’. [2]
Mae llawer o bobl sydd â namau corfforol neu synhwyraidd yn byw’n gwbl annibynnol, ond gall anabledd olygu bod mwy o angen am gymorth a gofal iechyd anffurfiol, ac anghenion gofal a chostau hirdymor. [2] Er nad yw’n ganlyniad anochel heneiddio, mae oed cynyddol yn cael ei gysylltu’n gyffredin ag anabledd cynyddol a cholli annibyniaeth, a namau gweithredol fel colli symudedd, y golwg a’r clyw. [3]
Mae’r term anabledd corfforol/synhwyraidd yn cynnwys namau gweledol, namau ar y clyw a namau corfforol; caiff y Gofrestr o Anabledd Corfforol/Synhwyraidd ei llunio o gofrestrau awdurdodau lleol o bobl ag anabledd corfforol neu synhwyraidd yng Nghymru sydd yn 18 oed neu’n hŷn. Mae’r rhain yn cynnwys pobl sydd wedi cofrestru o dan Adran 29 Deddf Cymorth Gwladol 1948 sydd yn byw yn yr awdurdod lleol fel arfer. Mae cofrestru’n wirfoddol, ac ni fydd pawb ag anableddau yn dewis cofrestru. Nid yw’r cofrestru felly yn ganllaw dibynadwy i fynychder anabledd corfforol a synhwyraidd ymhlith y boblogaeth. [4] Gallai’r cyfrannau uwch o bobl sydd wedi cofrestru adlewyrchu demograffeg yr ardal leol, er enghraifft, poblogaeth breswyl hŷn. Gallai gwahaniaethau mewn gweithdrefnau awdurdodau lleol ddylanwadu ar hyn hefyd, ynghyd â gallu’r awdurdodau lleol hynny i gofrestru pobl fel pobl ag anabledd corfforol/synhwyraidd.
Mae 4,700 o bobl ar y Gofrestr Anabledd Corfforol/Synhwyraidd yn ardal BILl Cwm Taf. Mae bron i 60 y cant o’r rheiny sydd wedi cofrestru yn byw ym Merthyr Tudful.
| Pobl ag Anabledd Corfforol/Synhwyraidd Nifer y bobl ar gofrestr ALl o bobl ag anabledd corfforol/synhwyraidd, 2007-08 | Rhondda Cynon Taf Merthyr Tudful Cymru | 4,700 1,905 2,795 81,823 |
Cyfeiriadau
1. Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus. Disability Discrimination Act 2005.
Ar gael yn: http://www.opsi.gov.uk/Acts/acts2005/ukpga_20050013_en_1 [mynediad 26 Mai 2009]
2. Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995. Pennod 50. Llundain : Llyfrfa Ei Mawrhydi; 1995.
Ar gael yn: http://www.opsi.gov.uk/acts/acts1995/ukpga_19950050_en_1 [mynediad 3 Mehefin 2009]
3. Llywodraeth Cynulliad Cymru 2006. Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru.
Ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/sites3/documents/439/NSFforOlderPeopleInWalesEnglish.pdf [mynediad 4 Mehefin 2009]
4. Uned Ddata Llywodraeth Leol http://dissemination.dataunitwales.gov.uk/webview/index.jsp?language=en [mynediad 28 Mai 2009]
Gofalwyr
Mae ymchwil yn dangos bod gofalwyr di-dâl, hynny yw, ffrindiau a chymdogion, yn darparu rhyw 70 y cant o ofal yn y gymuned. [1] Mae newidiadau mewn patrymau priodi, cynnydd yn nifer y cartrefi pobl sengl, teuluoedd unig riant a symudedd ymhlith aelodau teulu yn debygol o leihau’r gofal anffurfiol sydd ar gael. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd pobl hŷn yn mynd yn sâl, yn anabl, yn fregus neu’n agored i niwed. Mae gostyngiad yn nifer y gofalwyr anffurfiol yn debygol o gynyddu’r galw am wasanaethau iechyd a chymdeithasol statudol. Wrth i ddisgwyliad oes gynyddu, mae risg y gall gofalwyr barhau â’u rolau gofalu am gyfnodau hwy o lawer. Gallant hefyd fod yn gofalu am bobl ag anghenion lluosog ac anghenion cynyddol gymhleth. [1]
Mae awdurdodau lleol yn cofnodi’r nifer o ofalwyr (16 oed a hŷn) sy’n darparu neu sy’n bwriadu darparu gofal sylweddol yn rheolaidd ar gyfer unigolyn arall 18 oed neu hŷn. Cymerir y diffiniad hwn o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000. [3] Ar ôl eu nodi, efallai y cynigir asesiad i ofalwyr er mwyn pennu eu hangen am wasanaethau a thaliadau am ddarparu gwasanaethau iddynt. [2]
Mae’r ffigurau hyn yn ymwneud â nifer y gofalwyr a nodwyd yn ystod cyfnod o 12 mis. Efallai nad yw’r ffigur yn adlewyrchu graddau gwirioneddol y rôl ofalu yn y gymuned, gan nad yw rhai pobl o bosibl yn nodi’u hunain fel gofalwr i wasanaethau’r awdurdod lleol. Gallai’r cyfrannau uwch o bobl y nodwyd hwy fel gofalwyr adlewyrchu demograffeg yr ardal leol, er enghraifft, poblogaeth breswyl hŷn. Gallai gweithdrefnau awdurdodau lleol ddylanwadu ar hyn hefyd, ynghyd â gallu’r awdurdodau lleol hynny i nodi unigolion fel gofalwyr.
Roedd 765 o ofalwyr wedi’u nodi yn ardal BILl Cwm Taf rhwng 1 Ebrill 2007 a 31 Mawrth 2008.
| Gofalwyr Nifer y gofalwyr (16 oed a hŷn) a nodwyd yn ystod cyfnod o 12 mis, 2007-08 | BILl Cwm Taf Rhondda Cynon Taf Merthyr Tudful Cymru | 765 310 455 9,262 |
Cyfeiriadau
1. Llywodraeth Cynulliad Cymru 2007. Cynllun Gweithredu Strategaeth Gofalwyr Cymru 2007.
Ar gael yn http://wales.gov.uk/dhss/publications/socialcare/carers/carers_strategy-e.pdf?lang=en [mynediad 26 Mai 2009]
2. Uned Ddata Llywodraeth Leol 2009. Ar gael yn http://dissemination.dataunitwales.gov.uk/webview/index.jsp?language=en [mynediad 2 Mehefin 2009]
3. Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2009. Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000. Ar gael yn http://www.opsi.gov.uk/acts/acts2000/ukpga_20000016_en_1 [mynediad 2 Mehefin 2009]
Pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain
Mae trefniadau byw yn bwysig gan y gall pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain roi mwy o alwadau ar wasanaethau cymdeithasol personol o gymharu â phobl hŷn â threfniadau byw eraill. [1] Mae mwy o annibyniaeth ariannol, gwelliannau mewn iechyd ac agweddau tuag at fyw mewn sefydliadau cymunedol yn cyfrannu at y gyfran gynyddol o bobl hŷn sy’n byw’n annibynnol. [2] Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun tueddiadau diweddar yn y boblogaeth, fel y cynnydd yn y gyfran o bobl hŷn sy’n ysgaru. Mae cyswllt agos rhwng tueddiadau felly ag angen cynyddol am gyfleusterau gofal y tu allan i’r teulu. [2]
Mae ffigurau o Gyfrifiad 2001 yn adrodd bod 44.5 y cant o bobl hŷn yn byw ar eu pennau’u hunain yn ardal BILl Cwm Taf, o gymharu â 43.0 y cant yng Nghymru gyfan. Fodd bynnag, ar lefel ardal awdurdod lleol, mae’r ffigurau’n amrywio o 43.9 y cant yn Rhondda Cynon Taf i 46.9 y cant ym Merthyr Tudful.
| Pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain % o bobl 75 oed a hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain, 2001 | BILl Cwm Taf Rhondda Cynon Taf Merthyr Tudful Cymru DU | 44.5% 43.9% 46.9% 43.0% 43.7% |
Cyfeiriadau
1. Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru (2006) Asesiad o Anghenion Iechyd 2006: Pobl Hŷn. Caerdydd; GICC.
Ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgId=719&pid=22801 [mynediad 14 Mai 2009]
2. Tomassini, C. (2005) Pennod 2: Family and living arrangements. Yn: National Statistics, ed. Focus on older people. Llundain: Ystadegau Gwladol tud.11-20. Ar gael yn http://www.statistics.gov.uk/downloads/theme_compendia/foop05/Olderpeople2005.pdf [mynediad 14 Mai 2009]
Marwolaethau
Er bod marwolaeth yn rhan anochel o fywyd, gall archwilio marwolaethau sy’n digwydd cyn y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt ddigwydd ddangos anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd. Bydd y marwolaethau hyn yn digwydd yn aml am resymau y gellir eu hatal i raddau helaeth, [1] er enghraifft, o ganlyniad i ysmygu tybaco. Mae cyfraddau marwolaethau uwch yn cael eu cysylltu ag amddifadedd yn aml. [2]
Mae ffigurau ar gyfer 2007 yn dangos bod y gyfradd marwolaethau ymhlith pobl dan 75 oed yn ardal BILl Cwm Taf yn sylweddol uwch na’r gyfradd ar gyfer Cymru gyfan, a hon yw’r gyfradd uchaf o bob un o’r saith o Fyrddau Iechyd Lleol newydd. Mae’r ddau awdurdod lleol yn y BILl hwn yn dangos cyfraddau sylweddol uwch na chyfradd Cymru; y gyfradd yn Rhondda Cynon Taf yw’r uchaf o’r holl awdurdodau lleol, a’r gyfradd ym Merthyr Tudful yw’r drydedd uchaf. Fe wnaeth y ddau awdurdod lleol ddangos cynnydd o 2006 i 2007. Gall cyfraddau blynyddoedd unigol ar gyfer awdurdodau lleol ddangos amrywiadau sylweddol a allai fod yn sgil dim mwy nag amrywio ar hap a’r poblogaethau cymharol fach dan sylw.
Nodiadau: Cynhwysir yr holl achosion marwolaeth yma, a gall hynny gynnwys marwolaethau na ellid fod wedi’u hatal. Mae’r dadansoddiad yn defnyddio’r dull safoni uniongyrchol yn ôl oed, yn seiliedig ar y boblogaeth safonol Ewropeaidd a ddefnyddir yn gyffredin. Nid yn unig y caiff y cyfraddau a gynhyrchir gan y dull hwn eu haddasu i ystyried strwythurau poblogaethau lleol amrywiol, ond gellir eu cymharu’n uniongyrchol â’i gilydd, boed hynny rhwng blynyddoedd neu rhwng ardaloedd. Mae goroesi tan 75 oed wedi’i ddefnyddio ar gyfer cyfrifo marwolaeth cyn pryd, [3] a defnyddir cyfraddau marwolaethau Ewropeaidd yn ôl oed safonedig y rhai dan 75 oed ar gyfer rhai cyflyrau i gael Targedau Cynnydd mewn Iechyd ar gyfer Cymru.
| | | | Cyfwng hyder 95% |
| Marwolaethau’r rhai o dan 75 oed Cyfradd marwolaethau yn ôl oed safonedig fesul 100,000 o’r boblogaeth breswyl a chyfyngau hyder 95%, 2007
| BILl Cwm Taf Rhondda Cynon Taf Merthyr Tudful Cymru DU | 413.9 416.1 405.2 332.1 307.1 | (391.5 – 437.3) (391.1 – 442.3) (355.8 – 459.5) (325.9 – 338.5) (305.8 – 308.5) |
Cyfeiriadau
1. Wheller L, Baker A, Griffiths C & Rooney C (2007) Trends in avoidable mortality in
Ar gael yn http://www.statistics.gov.uk/articles/hsq/HS34Q-Mortality.pdf
2. Uren Z & Fitzpatrick J (2001) Analysis of mortality by deprivation and cause of death. Geographical Variations in Health – Decennial Supplement DS16. SYG: Llundain.
Ar gael yn:http://www.statistics.gov.uk/downloads/theme_health/DS16/DS16_cap11.pdf
3. Wheller L, Baker A & Griffiths C (2006) Trends in premature mortality in
Ar gael ynhttp://www.statistics.gov.uk/articles/hsq/HSQ31premature_mortality.pdf





