- Cyflwyniad
- Poblogaeth
- Amcanestyniadau newid yn y boblogaeth
- Poblogaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig
- Genedigaethau
- Disgwyliad oes
- Amddifadedd
- Anabledd a gofalwyr
- Pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain
- Marwolaethau
Eglurhad:
Lle gwelir yr eiconau hyn wrth ymyl testun, bydd clicio arnynt yn mynd â chi at wybodaeth bellach
Data gyda sylwebaeth
Geirfa
Dulliau a nodiadau
Mapiau Iechyd Cymru
Adnoddau ychwanegol
Cyflwyniad
Map rhyngweithiol o’r ardal | Gellir defnyddio Mapiau Iechyd Cymru i weld lleoliad ysbytai acíwt yn ogystal â ffiniau BILl, awdurdodau lleol (neu unedol). Cyflwynir dadansoddiadau ar lefel ardal fach ar gyfer nifer o ddangosyddion, gan gynnwys ardal cynnyrch ehangach haen uwch (USOA), ardal cynnyrch ehangach haen ganolig (MSOA) ac ardal cynnyrch ehangach haen is (LSOA). | ||||
|
| |||||
| Maint ardal Cilomedrau Sgwâr, 2007 | BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro Bro Morgannwg Caerdydd Cymru DU | 471 331 140 20,780 244,168 | |||
Poblogaeth
Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn
Amcangyfrifon Poblogaeth Canol BlwyddynMiloedd, 2007 | Bro Morgannwg Caerdydd Cymru DU
| 445.0 124.0 321.0 2,980.0 60,975.0
|
Cyfeiriadau
1. Ystadegau Gwladol. Population estimates. A short guide to population estimates.
Poblogaethau Cofrestredig
Mae rhyw 484,700 o unigolion wedi cofrestru gyda meddygfeydd teulu BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro [neu gyfwerth cyn mis Hydref 2009]. Mae rhagor o wybodaeth a sylwadaeth ar gael yn:
http://www.wales.nhs.uk/sites3/w-page.cfm?orgid=568&pid=38926
Dwysedd Poblogaeth
Dwysedd PoblogaethPobl fesul cilomedr sgwâr, 2007 | BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro Bro Morgannwg Caerdydd Cymru DU | 944.8 374.4 2,287.9 143.4 251.0 |
Amcanestyniadau newid yn y boblogaeth
Mae amcanestyniadau poblogaeth wedi’u seilio ar ragdybiaethau; maent yn dangos beth allai ddigwydd pe bai tueddiadau diweddar o ran genedigaethau, marwolaethau a niferoedd yn mudo yn parhau. [1]
Mae amcanestyniadau cyfredol yn gweld cynnydd yn y boblogaeth hŷn (75 oed a hŷn) ymhlith trigolion BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro o 33,000 (7 y cant o gyfanswm y boblogaeth) yn 2006 i 52,000 (10 y cant o gyfanswm y boblogaeth) yn 2031. Mae’r cynnydd hwn yng nghanran nifer y bobl hŷn yn llai na’r disgwyl ar gyfer Cymru gyfan; mae gwaith arall wedi rhoi’r cynnydd ym mhoblogaeth henoed Caerdydd yn llai eto. [2] Mae’r cynnydd yn nifer y bobl hŷn yn debygol o achosi cynnydd mewn cyflyrau cronig, fel clefydau cylchredol a chlefydau resbiradol, a chanserau. Bydd diwallu anghenion yr unigolion hyn yn her allweddol i’r Bwrdd Iechyd Lleol. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, bydd y cynnydd cymharol (ac absoliwt) yn y boblogaeth sy’n ddibynnol yn economaidd, ac, mewn rhai achosion, poblogaethau sy’n ddibynnol ar ofal, yn creu heriau penodol i gymunedau.
|
|
| Nifer | % newid |
| Amcanestyniadau poblogaeth Cynnydd/gostyngiad rhagamcanol yng nghyfanswm y boblogaeth o 2006 i 2031 | BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro Bro Morgannwg Caerdydd Cymru DU | 101,400 24,700 76,700 330,000 10,500,000 | (+23.0%) (+20.0%) (+24.2%) (+11.1%) (+17.4%) |
Cyfeiriadau
1. Welsh Assembly Government. Local Authority Population Projections for
Poblogaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig
Mae gan bob sefydliad GIG ddyletswydd statudol i hyrwyddo cydraddoldeb hil. Nid yn unig y gall ethnigrwydd adlewyrchu anghenion penodol o ran iaith a diwylliant, ond o ran anghenion iechyd yn ogystal. Mae pobl o gefndiroedd pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME) yn fwy tebygol o ddod o deuluoedd incwm isel, o ddioddef amodau byw salach, ac o ennill cymwysterau addysgol lefelau is o gymharu â phoblogaethau gwyn. [1] Yn ogystal, mae gan rai grwpiau BME gyfraddau uwch o rai cyflyrau iechyd. Er enghraifft, mae risg sylweddol uwch o ddatblygu diabetes gan boblogaethau o dras De Asiaidd a Charibïaidd; mae poblogaethau o dras Bangladeshaidd yn fwy tebygol o osgoi alcohol, ond yn fwy tebygol o ysmygu. [2]
Dengys ffigurau o Gyfrifiad 2001 fod y boblogaeth BME yng Nghymru yn 2.1 y cant, o gymharu â 7.9 y cant yn y DU gyfan. Mae gan boblogaethau BME, yn gyffredinol, strwythur oed ieuengach o gymharu â phoblogaethau gwyn, ac mae hynny’n adlewyrchu patrymau mewnfudo a ffrwythlondeb y gorffennol. Rhagwelir y bydd poblogaethau BME yn heneiddio’n gynyddol yn y dyfodol, ond bydd yn dibynnu ar lefelau ffrwythlondeb, cyfraddau marwolaethau a niferoedd net yn mudo yn y dyfodol. [3]
Yn ardal BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae’r boblogaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME) yn 6.7 y cant. Ar lefel ardal awdurdod lleol, mae’r ffigurau’n amrywio o 2.2 y cant ym Mro Morgannwg i 8.4 y cant yng Nghaerdydd. Gan Gaerdydd yr oedd y gyfran uchaf o’r boblogaeth o gefndir BME, a chan Fro Morgannwg yr oedd y drydedd gyfran uchaf o holl awdurdodau lleol Cymru yng Nghyfrifiad 2001.
Mae effaith mewnfudo er Cyfrifiad 2001 yn anoddach ei mesur. Nid oes un set ddata unigol sy’n cadw gwybodaeth am yr holl fewnfudwyr, ac mae llawer o ddiffiniadau a chategorïau gwahanol o ‘fudwyr’. Mae’r GICC wrthi’n gweithio ar ddadansoddiadau o bobl sy’n cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru, nad ydynt wedi cofrestru felly’n flaenorol yn y DU, ac y mae eu man geni y tu allan i’r DU. Mae’r dadansoddiadau hyn yn fwy perthynol i niferoedd na mynychder, er gyda rhai cyfyngiadau, ac maent yn dangos tueddiadau demograffig a thymhorol cyfrifiadau cyn 2001, llawer ohonynt o bosibl yn rhagddyddio’r niferoedd mwy diweddar sy’n mewnfudo.
Gellir gweld data ar lefel Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Ganolig (MSOA) ar gyfer Casnewydd, Caerdydd, Abertawe a Bro Morgannwg yn eu dogfennau penodol i awdurdodau lleol yn
[http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgId=719&pid=22797]. Nid yw data ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol eraill wedi’i gynnwys oherwydd y nifer fach o bobl o gefndir BME sy’n byw yn yr ardaloedd hyn.
Poblogaeth Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig% y bobl nad ydynt yn bobl wyn, 2001 | BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro Bro Morgannwg Caerdydd Cymru DU | 6.7% 2.2% 8.4% 2.1% 7.9% |
Cyfeiriadau
1. Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru[ar-lein], 2008. Black and Ethnic Minority Population. Ar gael yn: http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=719&pid=23574 [mynediad 20 Mai 2009]
2. Canolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol [ar-lein], 2005. Health survey for England 2004: the health of minority ethnic groups – headline tables. Ar gael yn: http://www.ic.nhs.uk/statistics-and-data-collections/health-and-lifestyles-related-surveys/health-survey-for-england/health-survey-for-england-2004-health-of-ethnic-minorities-headline-tables [mynediad 20 Mai 2009].
3. Ystadegau Gwladol [ar-lein], 2004., Focus on Ethnicity and Identity Age/Sex Distribution Non-White groups are younger. Ar gael yn: http://www.statistics.gov.uk/cci/nugget.asp?id=456 [mynediad 19 Mai 2009].
Y gyfradd ffrwythlondeb gyffredinol
Mae’r gyfradd ffrwythlondeb gyffredinol (GFR) yn fesur o lefelau ffrwythlondeb cyfredol ac mae’n dynodi nifer y genedigaethau byw fesul 1,000 o fenywod 15-44 oed. Er bod y GFR yn ystyried dosbarthiad y boblogaeth yn ôl oed a rhyw, nid yw’n caniatáu ar gyfer carfannau o feintiau gwahanol o fenywod o oed magu plant.
Mae GFR BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn is na chyfradd Cymru, ond mae’n adlewyrchu patrwm Cymru yn fanwl. Yn 2007, gan BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro oedd y GFR ail isaf o’r saith o Fyrddau Iechyd Lleol.
| Y Gyfradd Ffrwythlondeb Gyffredinol Genedigaethau byw fesul 1,000 o fenywod (15-44 oed), 2007 | Bro Morgannwg Caerdydd Cymru DU | 58.0 60.9 57.1 59.4 61.6 |
Disgwyliad oes
Disgwyliad oes adeg geniPobl a anwyd rhwng 2005-07 |
Bro Morgannwg Caerdydd Cymru DU | Gwrywod (blynyddoedd) 76.9 77.7 76.5 76.8 77.2 | Benywod (blynyddoedd) 81.6 81.7 81.5 81.2 81.5 |
Cyfeiriadau
1. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2009). Life Expectancy at birth. Ar gael yn http://www.statistics.gov.uk/CCI/nugget.asp?ID=168 [mynediad 2 Mehefin 2009]
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)
Gellir defnyddio mesurau amddifadedd ar sail ddaearyddol er mwyn dangos anghydraddoldebau mewn iechyd, ac i awgrymu ardaloedd sydd yn fwyaf tebygol o fod angen mesurau i wella iechyd ac i reoli afiechyd. Cynhyrchir Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 ar lefel ardal fach a elwir yn Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA), a deillir hwn o ystod eang o ffactorau.
Mae ardaloedd o amddifadedd yn y BILl, yn enwedig yn rhan ddeheuol Dinas Caerdydd a’r Barri. Mae 58 o’r 281 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn y BILl (21 y cant) ymhlith y pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae 114 (40 y cant) yn y pumed lleiaf difreintiedig. Fodd bynnag, mae pocedi o amddifadedd cudd o fewn ardaloedd llai difreintiedig yn aml.
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)% yr ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (LSOAau) yn y 5ed mwyaf difreintiedig yng Nghymru, 2008 | BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro Bro Morgannwg Caerdydd Cymru | 21% 8% 26% 20% |
Anabledd a gofalwyr
Pobl ag Anabledd Corfforol/Synhwyraidd
Mae gan gyrff y GIG ddyletswyddau o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005 i roi ystyriaeth ddyledus i hyrwyddo cyfle cyfartal, hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at bobl ag anabledd, ac annog cyfranogiad pobl anabl mewn bywyd cyhoeddus. [1] Diffiniad gwreiddiol Deddf 1995 o anabledd yw ‘nam corfforol neu feddyliolsy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu [unigolyn] i gyflawni gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd’. [2]
Mae llawer o bobl sydd â namau corfforol neu synhwyraidd yn byw’n gwbl annibynnol, ond gall anabledd olygu bod mwy o angen am gymorth a gofal iechyd anffurfiol, ac anghenion gofal a chostau hirdymor. [2] Er nad yw’n ganlyniad anochel heneiddio, mae oed cynyddol yn cael ei gysylltu’n gyffredin ag anabledd cynyddol a cholli annibyniaeth, a namau gweithredol fel colli symudedd, y golwg a’r clyw. [3]
Mae’r term anabledd corfforol/synhwyraidd yn cynnwys namau gweledol, namau ar y clyw a namau corfforol; caiff y Gofrestr o Anabledd Corfforol/Synhwyraidd ei llunio o gofrestrau awdurdodau lleol o bobl ag anabledd corfforol neu synhwyraidd yng Nghymru sydd yn 18 oed neu’n hŷn. Mae’r rhain yn cynnwys pobl sydd wedi cofrestru o dan Adran 29 Deddf Cymorth Gwladol 1948 sydd yn byw yn yr awdurdod lleol fel arfer. Mae cofrestru’n wirfoddol, ac ni fydd pawb ag anableddau yn dewis cofrestru. Nid yw’r cofrestru felly yn ganllaw dibynadwy i fynychder anabledd corfforol a synhwyraidd ymhlith y boblogaeth. [4] Gallai’r cyfrannau uwch o bobl sydd wedi cofrestru adlewyrchu demograffeg yr ardal leol, er enghraifft, poblogaeth breswyl hŷn. Gallai gwahaniaethau mewn gweithdrefnau awdurdodau lleol ddylanwadu ar hyn hefyd, ynghyd â gallu’r awdurdodau lleol hynny i gofrestru pobl fel pobl ag anabledd corfforol/synhwyraidd.
Mae 6,416 o bobl ar y Gofrestr Anabledd Corfforol/Synhwyraidd yn ardal BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae 75 y cant o’r bobl sydd wedi cofrestru yn byw yng Nghaerdydd.
Pobl ag Anabledd Corfforol/SynhwyraiddNifer y bobl ar gofrestr ALl o bobl ag anabledd corfforol/synhwyraidd, 2007-08 | Bro Morgannwg Caerdydd Cymru | 6,416 1,612 4,804 81,823 |
Cyfeiriadau
1. Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus. Disability Discrimination Act 2005.Ar gael yn: http://www.opsi.gov.uk/Acts/acts2005/ukpga_20050013_en_1 [mynediad 26 Mai 2009]
2. Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995. Pennod 50. Llundain : Llyfrfa Ei Mawrhydi; 1995. Ar gael yn: http://www.opsi.gov.uk/acts/acts1995/ukpga_19950050_en_1 [mynediad 3 Mehefin 2009]
3. Llywodraeth Cynulliad Cymru 2006. Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru. Ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/sites3/documents/439/NSFforOlderPeopleInWalesEnglish.pdf [mynediad 4 Mehefin 2009]
4. Uned Ddata Llywodraeth Leol http://dissemination.dataunitwales.gov.uk/webview/index.jsp?language=en [mynediad 28 Mai 2009]
Gofalwyr
Mae ymchwil yn dangos bod gofalwyr di-dâl, hynny yw, ffrindiau a chymdogion, yn darparu rhyw 70 y cant o ofal yn y gymuned. [1] Mae newidiadau mewn patrymau priodi, cynnydd yn nifer y cartrefi pobl sengl, teuluoedd unig riant a symudedd ymhlith aelodau teulu yn debygol o leihau’r gofal anffurfiol sydd ar gael. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd pobl hŷn yn mynd yn sâl, yn anabl, yn fregus neu’n agored i niwed. Mae gostyngiad yn nifer y gofalwyr anffurfiol yn debygol o gynyddu’r galw am wasanaethau iechyd a chymdeithasol statudol. Wrth i ddisgwyliad oes gynyddu, mae risg y gall gofalwyr barhau â’u rolau gofalu am gyfnodau hwy o lawer. Gallant hefyd fod yn gofalu am bobl ag anghenion lluosog ac anghenion cynyddol gymhleth. [1]
Mae awdurdodau lleol yn cofnodi’r nifer o ofalwyr (16 oed a hŷn) sy’n darparu neu sy’n bwriadu darparu gofal sylweddol yn rheolaidd ar gyfer unigolyn arall 18 oed neu hŷn. Cymerir y diffiniad hwn o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000. [3] Ar ôl eu nodi, efallai y cynigir asesiad i ofalwyr er mwyn pennu eu hangen am wasanaethau a thaliadau am ddarparu gwasanaethau iddynt. [2]
Mae’r ffigurau hyn yn ymwneud â nifer y gofalwyr a nodwyd yn ystod cyfnod o 12 mis. Efallai nad yw’r ffigur yn adlewyrchu graddau gwirioneddol y rôl ofalu yn y gymuned, gan nad yw rhai pobl o bosibl yn nodi’u hunain fel gofalwr i wasanaethau’r awdurdod lleol. Gallai’r cyfrannau uwch o bobl y nodwyd hwy fel gofalwyr adlewyrchu demograffeg yr ardal leol, er enghraifft, poblogaeth breswyl hŷn. Gallai gweithdrefnau awdurdodau lleol ddylanwadu ar hyn hefyd, ynghyd â gallu’r awdurdodau lleol hynny i nodi unigolion fel gofalwyr.
Roedd 463 o ofalwyr wedi’u nodi yn ardal BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro rhwng 1 Ebrill 2007 a 31 Mawrth 2008. Mae 74 y cant o’r rheiny a nodwyd yn byw yng Nghaerdydd.
GofalwyrNifer y gofalwyr (16 oed a hŷn) a nodwyd yn ystod cyfnod o 12 mis, 2007-08 | BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro Bro Morgannwg Caerdydd Cymru | 463 122 341 9,262 |
Cyfeiriadau
1. Llywodraeth Cynulliad Cymru 2007. Cynllun Gweithredu Strategaeth Gofalwyr Cymru 2007. Ar gael yn http://wales.gov.uk/dhss/publications/socialcare/carers/carers_strategy-e.pdf?lang=en [mynediad 26 Mai 2009]
2. Uned Ddata Llywodraeth Leol 2009. Ar gael yn http://dissemination.dataunitwales.gov.uk/webview/index.jsp?language=en [mynediad 2 Mehefin 2009]
3. Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2009. Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000. Ar gael yn http://www.opsi.gov.uk/acts/acts2000/ukpga_20000016_en_1 [mynediad 2 Mehefin 2009]
Pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain
Mae trefniadau byw yn bwysig gan y gall pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain roi mwy o alwadau ar wasanaethau cymdeithasol personol o gymharu â phobl hŷn â threfniadau byw eraill. [1] Mae mwy o annibyniaeth ariannol, gwelliannau mewn iechyd ac agweddau tuag at fyw mewn sefydliadau cymunedol yn cyfrannu at y gyfran gynyddol o bobl hŷn sy’n byw’n annibynnol. [2] Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun tueddiadau diweddar yn y boblogaeth, fel y cynnydd yn y gyfran o bobl hŷn sy’n ysgaru. Mae cyswllt agos rhwng tueddiadau felly ag angen cynyddol am gyfleusterau gofal y tu allan i’r teulu. [2]
Mae ffigurau o Gyfrifiad 2001 yn adrodd bod 41.3 y cant o bobl hŷn yn byw ar eu pennau’u hunain yn ardal BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro, o gymharu â 43.0 y cant yng Nghymru gyfan. Fodd bynnag, ar lefel ardal awdurdod lleol, mae’r ffigurau’n amrywio o 39.2 y cant ym Mro Morgannwg i 42.2 y cant yng Nghaerdydd.
Pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain% o bobl 75 oed a hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain, 2001 | BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro Bro Morgannwg Caerdydd Cymru DU | 41.3% 39.2% 42.2% 43.0% 43.7% |
Cyfeiriadau
1. Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru (2006) Asesiad o Anghenion Iechyd 2006: Pobl Hŷn. Caerdydd; GICC.
Ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgId=719&pid=22801 [mynediad 14 Mai 2009]
2. Tomassini, C. (2005) Pennod 2: Family and living arrangements. Yn: National Statistics, ed. Focus on older people. Llundain: Ystadegau Gwladol tud.11-20.
Ar gael yn http://www.statistics.gov.uk/downloads/theme_compendia/foop05/Olderpeople2005.pdf [mynediad 14 Mai 2009]
Marwolaethau
Er bod marwolaeth yn rhan anochel o fywyd, gall archwilio marwolaethau sy’n digwydd cyn y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt ddigwydd ddangos anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd. Bydd y marwolaethau hyn yn digwydd yn aml am resymau y gellir eu hatal i raddau helaeth, [1] er enghraifft, o ganlyniad i ysmygu tybaco. Mae cyfraddau marwolaethau uwch yn cael eu cysylltu ag amddifadedd yn aml. [2]
Mae ffigurau ar gyfer 2007 yn dangos bod y gyfradd marwolaethau ymhlith pobl dan 75 oed yn ardal BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn debyg iawn i gyfradd Cymru gyfan, ac felly mae yng nghanol ystod graddau’r saith o Fyrddau Iechyd Lleol newydd. Mae tipyn o wahaniaeth rhwng y ddau awdurdod lleol yn y BILl hwn, gyda’r gyfradd ym Mro Morgannwg yn sylweddol is na chyfradd Cymru (chweched isaf) tra bod y gyfradd yng Nghaerdydd yn sylweddol uwch na chyfradd Cymru (seithfed uchaf). Dangosodd y ddau awdurdod lleol gynnydd o 2006 i 2007. Gall cyfraddau blynyddoedd unigol ar gyfer awdurdodau lleol ddangos amrywiadau sylweddol a allai fod yn sgil dim mwy nag amrywio ar hap a’r poblogaethau cymharol fach dan sylw.
Nodiadau: Cynhwysir yr holl achosion marwolaeth yma, a gall hynny gynnwys marwolaethau na ellid fod wedi’u hatal. Mae’r dadansoddiad yn defnyddio’r dull safoni uniongyrchol yn ôl oed, yn seiliedig ar y boblogaeth safonol Ewropeaidd a ddefnyddir yn gyffredin. Nid yn unig y caiff y cyfraddau a gynhyrchir gan y dull hwn eu haddasu i ystyried strwythurau poblogaethau lleol amrywiol, ond gellir eu cymharu’n uniongyrchol â’i gilydd, boed hynny rhwng blynyddoedd neu rhwng ardaloedd. Mae goroesi tan 75 oed wedi’i ddefnyddio ar gyfer cyfrifo marwolaeth cyn pryd, [3] a defnyddir cyfraddau marwolaethau Ewropeaidd yn ôl oed safonedig y rhai dan 75 oed ar gyfer rhai cyflyrau i gael Targedau Cynnydd mewn Iechyd ar gyfer Cymru.
| | | Cyfradd | Cyfwng hyder 95% |
| Marwolaethau’r rhai o dan 75 oed Cyfradd marwolaethau yn ôl oed safonedig fesul 100,000 o’r boblogaeth breswyl a chyfyngau hyder 95%, 2007 | BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro Bro Morgannwg Caerdydd Cymru DU | 336.7 299.2 355.2 332.1 307.1
| (319.3 – 354.7) (270.5 – 330.1) (333.5 – 377.9) (325.9 – 338.5) (305.8 – 308.5) |
Cyfeiriadau
1. Wheller L, Baker A, Griffiths C & Rooney C (2007) Trends in avoidable mortality in
2. Uren Z & Fitzpatrick J (2001) Analysis of mortality by deprivation and cause of death. Geographical Variations in Health – Decennial Supplement DS16. SYG: Llundain. Ar gael yn:http://www.statistics.gov.uk/downloads/theme_health/DS16/DS16_cap11.pdf
3. Wheller L, Baker A & Griffiths C (2006) Trends in premature mortality in
© 2009 Canolfan Iechyd Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru.





