Yr Athro Mansel Aylward CB MD FFOM FFPM FRCP (Cadeirydd)
Mae’r Athro Mansel Aylward CB yn Gadeirydd Canolfan Iechyd Cymru ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Unum ar gyfer Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd ym Mhrifysgol Caerdydd. Rhwng 1996 a 2005 bu’n Brif Gynghorydd Meddygol, Cyfarwyddwr Meddygol a Phrif Wyddonydd yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac yn Brif Gynghorydd Meddygol a Phennaeth Proffesiwn yn Asiantaeth y Cyn-filwyr, y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Phil Chick, Pennaeth Hybu Iechyd Meddwl, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Ar hyn o bryd, mae ar secondiad fel Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl o Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru ac mae hefyd yn arwain y gwaith o gynhyrchu Cynllun Gweithredu terfynol Hybu Iechyd Meddwl yn ogystal â goruchwylio’r broses o sefydlu Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan a chyflwyno Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yng Nghymru.
Mike Clark, Pennaeth Is-adran Adsefydlu, Remploy
Mae Mike wedi gweithio ym maes anabledd a chyflogaeth ers dros ugain mlynedd ac ar hyn o bryd mae’n Bennaeth Is-adran Adsefydlu Remploy. Mae’n awyddus iawn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y maes cyflogaeth i bobl a chanddynt gyflyrau iechyd meddwl ac mae’n Gyfarwyddwr Prosiect Meddwl Iach yn y Gwaith, sy’n un o brosiectau ‘Equal’ ESF a arweinir gan Remploy.
Ruth Coombs, Rheolwr Dylanwad a Newid, Mind Cymru
Ymunodd Ruth â Mind Cymru ym mis Gorffennaf 2004. Mae ganddi gyfrifoldeb rheoli dros y Tîm Dylanwad a Newid, yn cynnwys y Swyddog Polisi Gwledig a’r Swyddog Cyfranogi a Chynhwysiant. Mae briff Ruth yn canolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’n gweithio ar bob agwedd ar iechyd a lles meddwl oedolion yng Nghymru.
Graham Davies, Pennaeth Tîm Ennyn Diddordeb Disgyblion, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Ers 2002 bu Graham yn bennaeth y Tîm Ennyn Diddordeb Disgyblion a chanddo gyfrifoldeb dros ddatblygu polisïau ar gynhwysiant a chymorth i ddisgyblion a’u rhoi ar waith. Ar hyn o bryd mae’n gyfrifol am ddatblygu ymagweddau tuag at hybu lles emosiynol mewn lleoliadau dysgu, sy’n cynnwys datblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer gwasanaethau cynghori mewn ysgolion.
Linda Davies, Arbenigwr Plant Cyn Oedran Ysgol a Phobl Hyn, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Yn 2003 cafodd secondiad o Dîm Iechyd y Cyhoedd Lleol Caerdydd i Is-adran Gwella Iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru i weithio ar hybu iechyd plant cyn-ysgol a phobl hyn.
Beverlea Frowen, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwella Iechyd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Ymunodd Beverlea â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dair blynedd yn ôl i arwain ar Ofal Cymdeithasol, Gwella Iechyd a Lles. Mae’n aelod o’r Uwch Dîm Rheoli ac yn arwain ar Reoli Perfformiad a Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.
Andrew McCulloch, Prif Weithredwr, Sefydliad Iechyd Meddwl
Mae Dr McCulloch wedi bod yn Brif Weithredwr y Sefydliad Iechyd Meddwl ers 5 mlynedd. Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr Polisi gyda Chanolfan Iechyd Meddwl Sainsbury am 6 mlynedd ac yn uwch was sifil yn yr Adran Iechyd am 16 mlynedd, lle'r oedd yn gyfrifol am bolisi iechyd meddwl ac anableddau dysgu o 1992 hyd 1996.
Jackie James, Prif Arbenigwr Datblygu Iechyd, Y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (NPHS)
Mae Jackie yn gweithio i’r NPHS ar hyn o bryd yn Sir y Fflint fel cynghorydd cenedlaethol ar faterion hybu iechyd meddwl gan roi cyngor nid yn unig i’w sefydliad ei hun ond i Lywodraeth Cynulliad Cymru hefyd.
Dr Leslie Rudd, Cyfarwyddwr, Canolfan Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymru (CMHSD)
Mae Cyfarwyddwr Canolfan Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymru yn gweithio yn swyddfeydd NLIAH. Mae wedi gweithio fel Prif Weithredwr ac yn y maes Ymchwil a Datblygu yn y GIG ac mewn asiantaethau iechyd meddwl cenedlaethol gan gynnwys Turning Point, elusen fwyaf yn y DU ar gyfer iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau.




