Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon, a gallai fod rhai wedi cael eu gosod eisoes.
Os fyddwch yn parhau i ddefnyddio’r safle heb newid eich gosodiadau, byddwn yn tybio eich bod yn cytuno â hyn.
Darganfyddwch fwy am ba gwcis rydym yn eu defnyddio a pham

Cuddio'r neges hon

Cofrestrwch i Newyddion Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dilynwch ni ar:

Ein Tweets diweddaraf:

Astudiaeth Nyrsio

Amcanion y Prosiect

  • Mapio’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Iechyd y Cyhoedd o ran rôl pob grwp nyrsio a bydwragedd.
  • Adolygu’r cwricwla ar gyfer hyfforddiant cyn cofrestru ac ôl-gofrestredig  mewn perthynas â’r safonau hyn.
  • Nodi bylchau o ran gwybodaeth a sgiliau ym maes iechyd y cyhoedd ar gyfer y grwpiau nyrsio a’r bydwragedd hyn.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i nodi gofynion addysg a hyfforddiant yn y dyfodol a gwneud argymhellion.

Casglwyd gwybodaeth am swyddogaethau a hyfforddiant presennol ar gyfer bydwragedd, ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol, nyrsys cymunedol a nyrsys practis. Cafodd y wybodaeth hon ei chyfateb â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Iechyd y Cyhoedd.

Casglwyd gwybodaeth am hyfforddiant cyffredinol cyfredol (cyn cofrestru ac ôl-gofrestredig), drwy brosbectws cyrsiau a chysylltiadau gyda swyddogion arweiniol yn y sector addysg uwch.

Nododd y prosiect fylchau mewn gwybodaeth a sgiliau, y bylchau o ran yr hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd ac mae’n gwneud argymhellion ar gyfer addysg a hyfforddiant yn y dyfodol.

 


 

Mapio’r wybodaeth a’r sgiliau ym maes iechyd y cyhoedd ar gyfer nyrsys gofal sylfaenol, nyrsys cymunedol a bydwragedd yng Nghymru (pdf, 139KB).


 

I gael copi o'r adroddiad llawn, neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Kelly Mason

Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com   
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 10 Mawrth 2010