Sefydlwyd Canolfan Iechyd Cymru fel Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad (CNLC) ar 1af Ebrill 2005 ac mae ganddi’r swyddogaethau statudol canlynol:
- Datblygu a chynnal trefniadau ar gyfer darparu gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â diogelu a gwella iechyd i’r cyhoedd yng Nghymru
- Cynnal a chomisiynu ymchwil i faterion o’r fath
- Cyfrannu tuag at y broses o ddatblygu a darparu hyfforddiant.
Nod WCfH yw cyflawni ei swyddogaethau drwy:
- fod yn eiriolwr dros faterion iechyd y cyhoedd
- cyfathrebu â’r cyhoedd a’u cymunedau, a rhoi cyngor ar faterion iechyd sy’n peri pryder iddynt
- siarad yn annibynnol ar faterion yn ymwneud ag iechyd, yn rhydd o fuddiannau corfforaethol neu economaidd
- gweithredu yn onest ac yn agored
Gweledigaeth WCfH yw dod yn gorff sy’n
“....ychwanegu gwerth at waith pob sefydliad sydd â rhan i’w chwarae ym maes iechyd, er mwyn sicrhau bod eu cyfraniad cyfansawdd tuag at iechyd a lles yng Nghymru yn fwy na’u priod ymdrechion unigol.” Er mwyn helpu i gyflawni hyn mae WCfH wedi parhau i weithio tuag at hyrwyddo gweithio traws-ffiniol ac mae wedi datblygu a chefnogi nifer o rwydweithiau cenedlaethol yng Nghymru i gynorthwyo yn y broses hon. Y blaenoriaethau yw hyfforddiant ac addysg, ynghyd â datblygu cyfathrebu effeithiol dwy ffordd gyda’r cyhoedd. Rydym yn parhau i gredu y bydd cynyddu ymwybyddiaeth yn arwain at fwy o bobl yn cyfranogi ac yn cyfrannu at iechyd a lles, a fydd yn y pen draw yn gwella safon iechyd pobl Cymru.




