Beth yw’r effeithiau?
Mae llawer o ffactorau’n cyfuno i effeithio ar iechyd a lles unigolion a chymunedau. Mae iechyd pobl yn cael ei bennu gan lawer o ffactorau gwahanol, gan gynnwys eu hamgylchiadau, eu hymddygiad a’u hamgylchedd. I raddau helaeth, mae ffactorau megis lle rydyn ni’n byw, cyflwr ein hamgylchedd, lle rydyn ni’n gweithio, geneteg, ein lefel incwm ac addysg a pherthnasoedd â ffrindiau a theulu oll yn cael effeithiau sylweddol ar iechyd a lles.
Amgylchedd Corfforol
Mae cysylltiadau agos rhwng yr amgylchedd ac iechyd pobl. Mae amgylchedd o ansawdd uchel yn galluogi pobl i fyw’n hwy mewn iechyd da. Mae problemau amgylcheddol megis llygredd a llifogydd yn gallu peri risgiau sylweddol i’n hiechyd os na chânt eu hasesu a’u rheoli’n iawn. I gael mwy o wybodaeth am yr amgylchedd ac iechyd, ewch i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Tai
Mae lloches ddigonol yn rhagofyniad sylfaenol ar gyfer iechyd; felly mae digartrefedd yn fygythiad sylfaenol i iechyd. Mae tai gwael wedi bod yn gysylltiedig â lefelau uwch o afiechyd tymor hir, clefydau anadlol a heintus, anafiadau, problemau seicolegol ac iechyd cyffredinol gwael canfyddedig a chyfradd marwolaeth uwch hyd yn oed.
Mae’r risgiau uchaf i iechyd mewn tai’n gysylltiedig â chyflyrau oer a llaith a llwydni; mae’n ymddangos mai’r cysylltiadau cryfaf rhwng afiechyd adroddedig mewn plant a lleithder a llwydni. Mae rhai agweddau ar ansawdd aer mewnol cartrefi, yn enwedig yn gysylltiedig â mwg tybaco a charbon monocsid yn arbennig o niweidiol i iechyd.

Gweithle
Mae etifeddiaeth o afiechyd a achosir gan alwedigaeth mewn llawer o ardaloedd. Yn ôl pob tebyg, mae’r rhan fwyaf o amlygiad i gyfryngau niweidiol i iechyd yn digwydd yn y gweithle, er gwaethaf rheoleiddio llym. Mae straen seicogymdeithasol yn y gweithle, yn enwedig yn gysylltiedig ag ymreolaeth yn y gwaith a gwaith ‘ymdrech fawr – gwobr fach’ wedi’i goblygu fel penderfynydd o afiechyd.
I gael mwy o wybodaeth am iechyd yn y gweithle, ewch i gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
I gael mwy o wybodaeth am iechyd yn y gweithle, ewch i gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Beth sy’n cael ei wneud i reoli ei effaith?
Mae GICCC yn cynnig cefnogaeth iechyd cyhoeddus ar faterion amgylcheddol a’i nod yw:
1. cynnig cyngor cyson i BILlau ar faterion iechyd cyhoeddus amgylcheddol, gan gynnwys cyfrifoldebau statudol
2. cynnig cyngor cyson i BILlau a phartneriaid eraill ar bryderon amgylcheddol eraill, gan gynnwys ymchwilio i bryderon cymuned mewn perthynas ag amlygiad aciwt/cronig
3. cynnig cyngor i BILlau a phartneriaid eraill ar barodrwydd mewn argyfwng mewn perthynas â materion amgylcheddol
4. cynnig cyngor cyson i BILlau ac ALlau ar eu cyfrifoldeb yn ymwneud â phenderfynyddion ehangach iechyd am eu bod yn perthyn i’r amgylchedd corfforol

Peryglon Amgylcheddol
Mae’r GICCC yn gweithio mewn partneriaeth agos â’r Asiantaeth Diogelu Iechyd i gynnig cyngor mewn perthynas â phryderon sy’n ymwneud â chemegion a phelydriad yn yr amgylchedd.
Strategaeth Amgylcheddol ar gyfer Cymru
Mae strategaeth amgylcheddol i Gymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r cynllun gweithredu sy’n dod gyda hi, a gyhoeddwyd yn 2006, yn rhychwantu graddfa amser o 20 mlynedd ar gyfer cyflawni. Mae’r strategaeth a’r cynllun gweithredu’n eang eu bwriadau. Mae pum thema amgylcheddol yn y strategaeth
(1) mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd
(2) defnydd adnoddau cynaliadwy
(3) bioamrywiaeth, tirweddau a morweddau gwahanredol
(4) ein hamgylchedd lleol
(5) peryglon amgylcheddol; tra bod y cynllun gweithredu’n cynnwys 62 o bwyntiau gweithredu allweddol a 39 o ganlyniadau.
Mae’r GICC wedi cyhoeddi papur briffio ar y strategaeth newydd a’r cynllun gweithredu a sut mae’n cysylltu â’r agenda iechyd cyhoeddus a themâu trawsbynciol eraill.