Mae llau pen yn bryfed parasitig o’r enw Pediculus humanus capitis. Dim ond ar bennau pobl y maent yn byw a chânt eu dal trwy gyswllt uniongyrchol, hirfaith, pen wrth ben â rhywun sydd wedi’i heintio. Ni all llau pen neidio, hopian na nofio.Mae tri math o lau pen:
- Nedd (nits) yw wyau hirgrwn, melynwyn y llau pen. Mae’r rhain yn ymlynu wrth waelod y gwallt unigol ac yn cymryd tuag wythnos i ddeor.
- Nymffau yw’r llau newydd-ddeor sy’n edrych fel oedolion, ond sy’n llai o faint. Mae’r rhain yn byw ar waed ac yn cymryd tua 7 niwrnod i aeddfedu.
- Bydd oedolion tua maint hedyn sesame ac mae ganddynt grafangau tebyg i fachau a lliw melynddu i lwydwyn. Gall oedolion fyw am hyd at 30 diwrnod a bwydo ar waed.
Prif symptom llau pen yw crafu croen y pen.
Pwy sy’n eu cael a pha mor ddifrifol yw llau pen?
Gall unrhyw un ddal llau pen, ond maent fwyaf cyffredin ymysg plant cyn-ysgol, plant ysgol gynradd a’u teuluoedd. Nid yw llau pen yn broblem iechyd ddifrifol ac nid oes angen cadw plant o’r ysgol. Yn anaml iawn y byddant yn achosi unrhyw beth mwy na chroen pen coslyd.Triniaeth
Mae nifer o driniaethau cemegol ar gael i’w prynu dros y cownter o fferyllfeydd. Dylai cyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr gael eu dilyn yn ofalus wrth ddefnyddio’r cynhyrchion hyn. Fel arall, mae cribo gwlyb yn dechneg sy’n gallu cael ei defnyddio i drin ac atal llau pen. Mae mwy o wybodaeth am drin ac atal llau pen i’w chael o’r ddolen:
Pa mor gyffredin yw llau pen?
Mae llau pen yn gyffredin yn enwedig ymysg plant 4-11 oed, er, mae’n ymddangos bod merched yn fwy tueddol na bechgyn o gael llau pen.
Atal
Y ffordd orau o atal heigiadau rheolaidd neu hirfaith yw archwilio’r gwallt am arwyddion o lau pen yn rheolaidd, a’u trin ar unwaith os caiff llau byw eu darganfod.




