Mae diabetes yn gyflwr cronig sy’n digwydd pan nad yw’r pancreas yn cynhyrchu digon o inswlin neu pan nad yw’r corff yn gallu defnyddio’r inswlin y mae’n ei gynhyrchu yn effeithiol. Mae dau fath sylfaenol o ddiabetes:- Math 1: nid yw pobl sydd â’r math hwn o ddiabetes yn cynhyrchu unrhyw inswlin, neu fawr ddim inswlin.
- Math 2: nid yw pobl sydd â’r math hwn o ddiabetes yn gallu defnyddio inswlin yn effeithiol. Mae gan y rhan fwyaf o bobl sydd â diabetes fath 2 ohono.
Mae trydydd math o ddiabetes, diabetes mellitus cyfnod cario, sy’n datblygu yn ystod rhai achosion o feichiogrwydd.
Pwy sy’n ei gael a pha mor ddifrifol yw diabetes?
Mae diabetes math 2 ar fwy na thri chwarter y bobl sydd â diabetes. Mae’n fwy cyffredin ymysg pobl sydd dros eu pwysau’n sylweddol ac, am y rheswm hwn, mae nifer y plant sydd â diabetes math 2 yn codi.
Mae symptomau diabetes yn cynnwys teimlo angen i droethi’n aml, teimlo’n sychedig iawn, teimlo’n newynog neu’n flinedig iawn, a cholli pwysau heb geisio gwneud.
Mae diabetes math 2 yn golygu bod y symptomau’n gallu ymddangos dros nifer o flynyddoedd, ond nid yw llawer o bobl yn cael symptomau o gwbl.
Mae pobl sydd â diabetes math 1 yn dioddef y symptomau’n eithaf sydyn, dros ychydig ddyddiau neu wythnosau.
Os na chaiff diabetes ei drin, gall arwain at lawer o broblemau iechyd gwahanol. Y rheswm dros hyn yw bod llawer iawn o glwcos yn gallu niweidio gwaedlestri, nerfau ac organau.
Gall hyd yn oed gynnydd bach mewn lefel glwcos, nad yw’n achosi unrhyw symptomau yn y tymor byr, effeithio ar y gwaedlestri, y nerfau a’r organau yn yr hirdymor. Gall hyn arwain at gymhlethdodau, yn aml flynyddoedd ar ôl i’r diagnosis cyntaf o ddiabetes gael ei wneud.
Mae cymhlethdodau’n cynnwys clefyd y galon a strôc, retinopathi (niwed i’r retina yng nghefn y llygad), clefyd yr arennau, problemau’r traed ac analluedd ymysg dynion.
Yn gyffredinol, mae’r risg o ddatblygu cymhlethdodau’n cael ei ostwng yn sylweddol os yw lefel glwcos y gwaed yn cael ei rheoli’n dda ac os yw ffactorau risg eraill, yn enwedig pwysedd gwaed uchel a cholesterol uchel yn cael eu rheoli.
Mae mwy o risg i fenywod beichiog sydd â diabetes o ddioddef camesgoriad a marw-enedigaeth.
Triniaeth
Nid oes modd iacháu diabetes, ond gall gael ei reoli. Caiff diabetes math 1 ei reoli trwy gymryd inswlin yn rheolaidd, ymarfer corff yn rheolaidd, cadw llygad ar yr hyn y byddwch chi’n ei fwyta, a gwirio lefel glwcos eich gwaed drwy gydol y dydd.
Y ffordd orau o reoli diabetes math 2 yw cadw’ch lefel glwcos gwaed mor agos â phosibl at y lefel normal drwy gadw llygad ar yr hyn y byddwch chi’n ei fwyta a thrwy ymarfer corff yn rheolaidd. Dylai’r meddyg fesur lefel gyfartalog eich glwcos gwaed bob ychydig fisoedd.
Mae tabledi diabetes, fel metformin, sulphonylureas a meglitinides, hefyd yn cael eu cymryd i reoli diabetes. Mae inswlin yn ddewis arall yn lle’r tabledi, ond gall gynyddu’r posibilrwydd o gael hypoglycemia yn amlach ac achosi i unigolyn fagu pwysau.
Pa mor gyffredin yw diabetes?
Mae gan dros 2 filiwn o bobl yn y DU ddiabetes ac mae’n debygol bod gan 1 miliwn arall o bobl ddiabetes ond nid ydynt yn gwybod hynny. Gofynnodd Arolwg Iechyd Cymru 2003/5 i oedolion a oedd yn ymateb, a oeddent yn cael eu trin yn bresennol am ddiabetes (trwy bigiad, tabledi neu ddiet).
Mae dadansoddiad o’r data yn ôl ardal BILl yn dangos bod nifer yr achosion a adroddwyd (pobl 16+ oed) yn is yn rhanbarth y gogledd ac yn uwch yn y de, gyda’r amcangyfrif o nifer yr achosion yn amrywio o 2.9 y cant i 6.6 y cant gyda chyfartaledd Cymru-gyfan o 5.3 y cant.
Atal
Mae’n bosibl y bydd risg i chi o ddatblygu diabetes math 2 os yw’n rhedeg yn eich teulu neu os ydych dros eich pwysau ac nid ydych yn cael llawer o ymarfer corff. Y peth gorau y gallwch chi ei wneud i geisio atal diabetes yw bwyta diet iachus ac ymarfer yn rheolaidd.
Mae diet iach yn un sydd â lefel isel o fraster dirlawn, halen a byrbrydau a diodydd siwgraidd ynddo. Ceisiwch fwyta prydau rheolaidd drwy gydol y dydd i gadw’ch lefel siwgr gwaed yn gyson a bwytewch o leiaf bum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Rhowch y gorau i ysmygu ac yfwch lai o alcohol. Os oes diabetes arnoch, gallwch barhau i fwyta bwydydd fel siocled a losin cyn belled ag eich bod chi’n cadw’ch diet cyffredinol yn iach.
Yn ddelfrydol, dylech wneud trideg munud o ymarfer corff o leiaf dair gwaith yr wythnos. Fodd bynnag, nid oes rhaid i ymarfer rheolaidd fod yn orchwyl; gallwch wneud yn siŵr eich bod yn cadw’n weithgar drwy gerdded yn hytrach na mynd ar y bws a defnyddio’r grisiau yn hytrach na’r lifft.
Lleihau’r effaith yng Nghymru
Mae Tîm Dadansoddi Gwybodaeth Iechyd GICCC yn coladu data ar y lefelau diabetes ym mhoblogaeth Cymru: Asesiad Anghenion Iechyd 2006: Statws Iechyd a Phenderfynynnau Allweddol. Mae data o’r fath yn caniatáu am nodi tueddiadau arwyddocaol ac unrhyw grwpiau penodol o’r boblogaeth sydd wedi cael eu heffeithio, ac mae’n galluogi i wasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol o ansawdd uchel, cyraeddadwy a phriodol gael eu cyflwyno’n effeithiol, mewn partneriaeth â chyrff cenedlaethol a lleol eraill, ac i’w cefnogi.
Mae Tîm Penderfynyddion Ehangach ac Anghydraddoldeb Iechyd GICCC wedi cynhyrchu Fframweithiau Gweithredu ar Gweithgarwch Corfforol, Maeth a Rheoli Tybaco. Mae’r rhain yn gwneud argymhellion ynghylch gweithgareddau i’w cyflwyno gan bartneriaid lleol ac argymhellion ynghylch buddsoddi mewn gweithgarwch corfforol.
Drwy ei raglenni gwella iechyd, mae’r GICCC yn anelu at ddefnyddio ymyriadau ar sail tystiolaeth i leihau ysmygu tybaco a faint o alcohol sy’n cael ei yfed, gwella diet a chodi lefelau gweithgarwch corfforol ar gyfer poblogaeth Cymru. I’r perwyl hwn, mae GICCC wedi cynhyrchu cyfres o gyhoeddiadau briffio ar dystiolaeth, sy’n pennu pa ymyriadau sy’n gweithio ar gyfer Bwyta’n Iach, Gordewdra a Gorbwysedd, Gweithgarwch Corfforol, Tybaco ac Alcohol
Mae GICC hefyd yn canolbwyntio ar unioni anghydraddoldeb o ran iechyd. Mae Tîm Dadansoddi Gwybodaeth Iechyd GICCC wedi cynhyrchu cyfres o ddogfennau ar Difreintedd ac Iechyd ar gyfer pob ardal yng Nghymru, sy’n cynnwys ‘cymarebau cyfradd’ sy’n cymharu iechyd y pumedau mwyaf difreintiedig â’r pumedau lleiaf difreintiedig; er enghraifft, ystyr cymhareb gyfradd o 2 yw bod y gyfradd ar gyfer y grŵp mwyaf difreintiedig ddwywaith mor uchel â chymhareb gyfradd y grŵp lleiaf difreintiedig. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos a yw dangosyddion iechyd a dangosyddion cysylltiedig yn sylweddol waeth yn ystadegol yn y pumed mwyaf difreintiedig o’i gymharu â’r pumed lleiaf difreintiedig. Mae diabetes 1.78 gwaith (95%CI 1.45, 2.19) yn uwch yn y pumed mwyaf difreintiedig o’i gymharu â’r lleiaf difreintiedig.
Mae Gwasanaeth Ansawdd a Gwybodaeth Gofal Sylfaenol GICCC wedi cynhyrchu Pecyn Offer Gwella Ansawdd a Monitro Gwasanaeth i ategu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru.




