Cofrestrwch i Newyddion Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dilynwch ni ar:

Ein Tweets diweddaraf:

Canser

Mae ein cyrff wedi’u creu o filiynau o gelloedd bach iawn. Mae’r rhan fwyaf o’n celloedd yn rhannu ac yn lluosi o dro i dro – pan fydd hen gell wedi treulio neu wedi’i niweidio, caiff cell newydd ei ffurfio i gymryd ei lle. Mae pob cell yn cynnwys genynnau (wedi’u gwneud o’n DNA). Os yw’r genyn yn cael ei niweidio neu ei addasu, bydd y gell yn troi’n 'annormal'. Gall y gell annormal hon yna rannu a lluosi, heb wybod pryd i stopio. Pan fydd grŵp o gelloedd annormal yn clystyru at ei gilydd ac yn tyfu bydd 'tiwmor' yn ffurfio.
 
Mae dau fath o diwmor: anfalaen a malaen. Nid yw tiwmorau anfalaen yn ganseraidd, ac ni fyddant yn ymwthio nac yn lledaenu i rannau eraill o’r corff. Fodd bynnag, mae tiwmorau malaen yn fwy difrifol. Gallant dyfu’n gyflym iawn, ymwthio i feinweoedd ac organau cyfagos, ac achosi niwed. Gallant hyd yn oed ledaenu i rannau eraill o’r corff ac achosi tiwmorau eilaidd (metastasisau).  Serch hynny nid yw pob canser yn ffurfio tiwmorau solet – mae canserau’r gwaed, fel lewcemia, yn datblygu o gelloedd annormal y gwaed, sydd yna’n ymosod ar rannau eraill o’r corff drwy gylchredeg yn llif y gwaed. 
 
Mae dau gategori bras o ganserau. Mae canserau sy’n datblygu yn leinin arwyneb organau yn cael eu galw’n 'garsinomâu'. Mae canserau sy’n ymddangos yng nghelloedd meinweoedd solet, fel cyhyrau, esgyrn a gwaedlestri, yn cael eu galw’n 'sarcomâu'. Carsinomâu yw’r mwyaf cyffredin.

Pwy sy’n ei gael a pha mor ddifrifol ydyw?

Mae llawer o achosion i ganser, ac nid yw pob un ohonynt yn hysbys. Weithiau, nid oes unrhyw reswm clir pam mae canser yn datblygu. Gall rhai canserau, fel canserau’r fron, fod yn etifeddol, sef eu bod yn gallu rhedeg mewn teuluoedd. 
 
Tra bod union achosion sawl math o ganser yn parhau’n ansicr, nid yw’r ffactorau sy’n cyfrannu at rai canserau bellach dan amheuaeth. Er enghraifft, mae’r cysylltiad achosol rhwng ysmygu tybaco a chanser yr ysgyfaint yn hysbys iawn. O ystyried yr amser hir y mae llawer o ganserau yn ei gymryd i ddatblygu, nid yw unrhyw fesurau rheoli (fel rhoi’r gorau i ysmygu) yn debygol o gael unrhyw effaith ar gyfraddau achosion o’r clefyd yn y tymor byr, ac felly, ni ellir eu hystyried mewn gwirionedd ond dros gyfnod llawer hwy nag y gellir adrodd amdano fan hyn.
 
Mae’r posibilrwydd o ddatblygu unrhyw fath penodol o ganser yn amrywio, er bod y posibilrwydd o ddatblygu bron pob math o ganser yn cynyddu wrth fynd yn hŷn. Ar wahân i ganserau sy’n perthyn yn benodol i’r rhywiau, mae’r risgiau o ddatblygu pob math o ganser yn aml yn wahanol i ddynion a menywod.
 
Mae rhai mathau o ganser yn fwy difrifol nag eraill, caiff rhai eu trin yn haws, ac mae gan eraill gyfraddau goroesi gwell. Tra bod sawl math o ganser yn gallu cael ei drin yn llwyddiannus, yn enwedig o’i ddarganfod yn ddigon cynnar, mae tuag un o bob pedwar o bob marwolaeth yn flynyddol wedi cael eu priodoli i ganser yng Nghymru a Lloegr.
 
Yng Nghymru yn ystod 2006, 8,515 fu nifer y marwolaethau yn gysylltiedig â chanser allan o gyfanswm o 31,086 o farwolaethau o bob achos.

Triniaeth

Bydd triniaeth yn amrywio yn dibynnu ar y math o ganser ac i ba raddau y mae’r canser wedi lledaenu. Yn gyffredinol, mae tri phrif fath o driniaeth sef llawdriniaeth, cemotherapi a radiotherapi.

Pa mor gyffredin yw canser?

Bob blwyddyn, bydd bron 20,000 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis newydd o ganser. Yn ôl Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU), mae gan ddyn sy’n byw yng Nghymru o rhyw 1 siawns mewn 3 o gael diagnosis o ganser cyn ei ben-blwydd yn 75 oed o gymharu â rhyw 2 siawns mewn 7 yn achos menyw sy’n byw yng Nghymru.
 
Canser benywaidd y fron yw’r canser sydd â’r gyfradd uchaf ymysg menywod; roedd 29% o’r holl ganserau benywaidd yng Nghymru rhwng 1992-2006 yn ganserau’r fron. I ddynion, roedd canser y prostad wedi codi’n uwch na chanser yr ysgyfaint fel y canser â’r gyfradd uchaf ohono yng Nghymru ym 1998 a hwn fu uchaf dros y cyfnod 15 mlynedd cyfan, gan gyfrif am ychydig dros 20% o’r holl ganserau gwrywaidd.
 
Mae ystadegau canser ar gyfer Cymru, sy’n dangos niferoedd, mynychder a chyfraddau marwolaethau, yn cael eu casglu a’u coladu gan WCISU ac mae pob adroddiad cyhoeddedig ar gael o’u gwefan yn: http://www.wcisu.wales.nhs.uk/

Atal

Weithiau, nid oes unrhyw reswm clir pam mae canser yn datblygu, ac weithiau gall y risg o gael canser penodol gael ei etifeddu. Fodd bynnag mae rhai canllawiau syml, argymelledig, y dylai pob un ohonom geisio’u dilyn i leihau’r risg o gael canser.
  • Rhowch y gorau i ysmygu. Hyd yn oed os ydych chi wedi bod yn ysmygu am sawl blwyddyn, bydd eich risg o gael canser yr ysgyfaint yn gostwng cyn gynted ag y byddwch yn rhoi’r gorau i wneud.
  • Bwytewch ddiet iachus, gyda digon o ffrwythau a llysiau ffres, carbohydradau startsh (bara, tatws, pasta a grawnfwydydd grawn cyflawn) a bwydydd sydd â llawer o brotein ynddynt, fel cyw iâr, pysgod ac wyau.
  • Dylech ostwng faint o alcohol rydych chi’n ei yfed. Y cyfyngiad diogel argymelledig o ran unedau o alcohol y dydd yw 2 i fenywod a 3 i ddynion (er enghraifft, 1 uned = hanner peint o gwrw, neu wydraid bach o win), ond gall yfed llai na hyn ddim ond cael manteision cadarnhaol i’ch iechyd a’ch lles cyffredinol.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn amddiffyn eich hun rhag effeithiau niweidiol yr haul.  Gorchuddiwch eich croen a defnyddio eli haul gyda ffactor uchel SPF 15 neu uwch, ac osgowch yr haul rhwng 11am a 3pm.
  • Os ydych yn gweithio yng nghyffiniau cemegau peryglus, fel nwy ac ymbelydredd, mae’n hanfodol eich bod yn dilyn y rheoliadau iechyd a diogelwch.

Lleihau’r effaith yng Nghymru

Mae Tîm Dadansoddi Gwybodaeth Iechyd GICCC yn coladu data ar lefelau canser ymysg poblogaeth Cymru: Asesiad Anghenion Iechyd 2006: Statws Iechyd a Phenderfynyddion Allweddol. Mae data o’r fath yn caniatáu am nodi tueddiadau arwyddocaol ac unrhyw grwpiau penodol o’r boblogaeth sydd wedi cael eu heffeithio, a bydd yn galluogi gwasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol o ansawdd uchel, hygyrch a phriodol gael eu cyflwyno’n effeithiol, mewn partneriaeth â chyrff cenedlaethol a lleol eraill ac wrth gefnogi’r cyrff hyn.
 
Mae Tîm Penderfynyddion ac Anghydraddoldeb Iechyd Ehangach GICCC wedi cynhyrchu Fframweithiau ar gyfer Gweithredu ar Gweithgarwch Corfforol, Maeth a Rheoli Tybaco. Mae’r rhain yn gwneud argymhellion ar gyfer gweithgareddau y dylid eu cyflwyno gan bartneriaid lleol ac argymhellion ynghylch buddsoddi mewn gweithgarwch corfforol.
 
Drwy ei raglenni gwella iechyd, nod GICCC yw defnyddio ymyriadau ar sail technoleg i leihau ysmygu tybaco ac yfed alcohol, gwella deiet a chynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ar gyfer poblogaeth Cymru. I’r perwyl hwn, mae’r GICCC wedi cynhyrchu cyfres o gyhoeddiadau briffio ar dystiolaeth, sy’n pennu pa ymyriadau sy’n gweithio ar gyfer Bwyta’n Iach, Gordewdra a Gorbwysedd, Gweithgarwch Corfforol, Tybaco ac Alcohol.
 
Mae GICC hefyd yn canolbwyntio ar unioni anghydraddoldeb o ran iechyd. Mae Tîm Dadansoddi Gwybodaeth Iechyd GICCC wedi cynhyrchu cyfres o ddogfennau ar Difreintedd ac Iechyd ar gyfer pob ardal yng Nghymru, sy’n cynnwys ‘cymarebau cyfradd’ sy’n cymharu iechyd y pumedau mwyaf difreintiedig â’r pumedau lleiaf difreintiedig; er enghraifft, ystyr cymhareb gyfradd o 2 yw bod y gyfradd ar gyfer y grŵp mwyaf difreintiedig ddwywaith mor uchel â chymhareb gyfradd y grŵp lleiaf difreintiedig. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos a yw dangosyddion iechyd a dangosyddion cysylltiedig wedi bod yn waeth o lawer yn ystadegol yn y pumed mwyaf difreintiedig o’i gymharu â’r pumed lleiaf difreintiedig. Mae canser 1.13 (95%CI 1.11, 1.16) gwaith yn uwch yn y pumed mwyaf difreintiedig o’i gymharu â’r lleiaf difreintiedig.

Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com   
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 06 Mai 2011