Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth – sut y mae’r ddau’n rhyngweithio?
Daeth Deddf Diogelu Data 1998 i rym ar 1 Mawrth 2000. Mae’n rhoi hawl i unigolion byw gael mynediad at wybodaeth bersonol a gedwir amdanynt. Mae’r hawl yn gymwys i’r holl wybodaeth a gedwir ar ffurf gyfrifiadurol a hefyd i wybodaeth anghyfrifiadurol a gedwir mewn systemau ffeilio, fel y gellir adalw gwybodaeth benodol am unigolion arbennig yn rhwydd.
Mae eisoes gan unigolion yr hawl i gael mynediad at wybodaeth amdanynt eu hunain (data personol), a gedwir ar gyfrifiadur ac mewn rhai ffeiliau papur o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.
Mae’r hawl hefyd yn gymwys i’r gweithgareddau hynny sy’n bodloni’r meini prawf hyn. Fodd bynnag, mae’r hawl yn amodol ar eithriadau, a fydd yn effeithio ar p’un ai fydd y wybodaeth yn cael ei darparu. Ymdrinnir â cheisiadau ar sail achosion unigol.
Cyfrifoldeb Adran yr Arglwydd Ganghellor yw’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Ddeddf Diogelu Data. Rhai o’i amcanion strategol yw:
- Gwella gwybodaeth a dealltwriaeth pobl o’u hawliau a’u cyfrifoldebau
- Ceisio annog cynnydd mewn didwylledd yn y sector cyhoeddus
- Monitro’r Cod Ymarfer ar Fynediad at Wybodaeth y Llywodraeth
- Datblygu polisi diogelu data sy’n cydbwyso preifatrwydd gwybodaeth bersonol a’r angen i sefydliadau cyhoeddus a phreifat brosesu gwybodaeth bersonol yn briodol
Nid yw’r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi hawl mynediad at wybodaeth bersonol i drydydd parti at ddibenion ymchwil.
Nid yw’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi mynediad i unigolion at wybodaeth bersonol, er, os gwneir cais amdani, mae’r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi’r hawl hon i unigolyn. Os yw’r unigolyn yn dewis gwneud y wybodaeth yn gyhoeddus, gallai gael ei ddefnyddio ochr yn ochr â gwybodaeth amhersonol a gafwyd gan y cyhoedd o dan delerau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.




