Pam rydym yn imiwneiddio?
Mae imiwneiddio’n achub bywydau. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif y caiff 3 miliwn o fywydau eu hachub bob blwyddyn ar draws y byd drwy imiwneiddio.
Mae’n bwysig bod pob plentyn a baban yn cael eu himiwneiddio’n llawn er mwyn eu diogelu rhag clefydau difrifol. Mae clefydau a oedd unwaith yn glefydau cyffredin, fel difftheria a thetanws, bellach yn brin yn y DU oherwydd imiwneiddio. Ond er bod polio wedi cael ei ddileu yn Ewrop, mae bygythiad yn sgil clefydau eraill fel y frech goch a llid yr ymennydd yn parhau yn y DU hyd heddiw.
Dylai rhieni a chanddynt bryderon neu ymholiadau ynghylch unrhyw agwedd ar imiwneiddio eu plant eu trafod gyda’u meddyg, Ymwelydd Iechyd neu Nyrs Practis.
Mae oedolion hefyd yn elwa ar gael eu himiwneiddio. Bydd angen i rai pobl gael eu himiwneiddio er mwyn diogelu eu hiechyd yn y gwaith neu os byddant yn teithio. I’r rhai sy’n wynebu risg uwch o gymhlethdodau yn sgil y ffliw, argymhellir eu bod yn cael y brechiad blynyddol rhag y ffliw. Argymhellir brechlyn niwmococol hefyd er mwyn helpu i ddiogelu pobl sy’n wynebu mwy o risg o gael clefyd niwmococol.
Rhagor o wybodaeth
Os ydych yn edrych am wybodaeth am imiwneiddio i chi a’ch teulu, trafodwch hyn yn gyntaf gyda’ch meddyg teulu, nyrs practis neu ymwelydd iechyd a fydd yn gallu trafod y rhestr o frechiadau rheolaidd a argymhellir yn y DU gyda chi ac ateb rhai o’ch cwestiynau.
Efallai yr hoffech wneud rhywfaint o ymchwil eich hun ac mae’r rhyngrwyd yn ffynhonnell wybodaeth dda. Dylech sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei darparu gan arbenigwyr. Dyma rai gwefannau defnyddiol (nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol):
- Mae NHS Choices yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf am y brechlynnau a argymhellir ar eich cyfer chi a’ch teulu, beth bynnag eu hoedran, yn www.nhs.uk/vaccinations (Saesneg)
- Mae gwybodaeth a dolenni i daflenni ar yr holl frechiadau cyfredol yng Nghymru ar gael mewn gwahanol ieithoedd yn http://wales.gov.uk/topics/health/protection/immunisation/?skip=1&lang=cy
- Mae Galw Iechyd Cymru yn wasanaeth cynghori dros y ffôn 24 awr sy’n cael ei redeg gan GIG Cymru, sy’n darparu gwybodaeth am imiwneiddio yn ogystal â diagnosis a thriniaeth ar gyfer cyflyrau cyffredin. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/i/article/immunisation,childhood?locale=cy
- Mae gwybodaeth i helpu rhieni i wneud penderfyniadau ynglŷn ag imiwneiddio eu plant ar gael ar wefan Imiwneiddio Sefydliad Iechyd Plant/Ysbyty Great Ormond Street yn:http://www.childrenfirst.nhs.uk/ (Saesneg)
- I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen brechlyn HPV yng Nghymru, gweler http://wales.gov.uk/beatingcervicalcancer/home/?skip=1&lang=cy
- I gael arweiniad ar imiwneiddio ar gyfer teithio dramor edrychwch ar www.nathnac.org neu www.fitfortravel.nhs.uk neu Travel vaccinations (NHS choices) neu ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn www.fco.gov.uk (Saesneg) neu www.nhs.uk (Saesneg)
Rhestrau Gwirio o Frechlynnau
Defnyddiwch y dolenni isod ar gyfer rhestrau gwirio o’r brechlynnau a gynigir yn rheolaidd yn y DU am ddim gan y GIG, a’r oedran y dylech gael y brechiadau hyn yn ddelfrydol.
- Brechlynnau i blant
- Brechlynnau i Oedolion
- Brechlynnau i grwpiau rsig o unrhyw oed
- Brechlynnau teithio
Cefnogi brechu yng Nghymru
Sefydlwyd Rhaglen Clefydau y Gellir eu Hatal Drwy Frechlyn Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Gorffennaf 2003. Mae’n tynnu ar gymorth gan amrywiaeth o dimau Iechyd Cyhoeddus Cymru a thimau yn GIG Cymru i gefnogi dull gweithredu cenedlaethol. Ymysg y gweithgareddau a ddechreuwyd cyn i’r rhaglen gael ei sefydlu mae datblygu adnodd mewnrwyd ar gyfer GIG Cymru i gefnogi pob gweithiwr proffesiynol sy’n darparu neu’n rheoli gwasanaethau imiwneiddio a Chynadleddau Imiwneiddio.
I gysylltu â Thîm y Rhaglen anfonwch e-bost atom yn general.enquiries@wales.nhs.uk
Mae’r manylion cyswllt y Cydgysylltydd Imiwneiddio ym mhob Bwrdd Iechyd ar gael o: Manylion Cyswllt Imiwneiddio Byrddau Iechyd
Rhagor o wybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol
Awgrymir y dylai cydweithwyr gofal iechyd yng Nghymru edrych ar Fewnrwyd Imiwneiddio a Brechu (Saesneg) Iechyd Cyhoeddus Cymru (mae angen cysylltiad â rhwydwaith GIG Cymru). Yn ogystal, gallai’r gwefannau canlynol fod yn ddefnyddiol:
- Ystadegau imiwneiddio Cymru (Saesneg). Mae adroddiadau ar nifer y plant sy’n cael eu brechu (adroddiadau COVER) a hefyd ar y brechiad rhag y ffliw yng Nghymru ar gael o wefan yr Is-adran Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru (Saesneg)
- Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF) (Saesneg)
- Tudalen yr Adran Iechyd ar Imiwneiddio (Saesneg)
- Compendiwm electronig o feddyginiaethau (Saesneg)
- Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI) (Saesneg)
- Tudalennau Imiwneiddio HPA (yr Asiantaeth Diogelu Iechyd) (Saesneg)
- Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) (Saesneg)
- Canolfannau Rheoli Clefydau'r Unol Daleithiau - tudalennau Imiwneiddio (Saesneg)
- Cynllun Taliadau Niwed drwy Frechiad
- Tudalennau Diogelwch Imiwneiddio Sefydliad Iechyd y Byd (Saesneg)
- Gwybodaeth am Frechlynna gan Sefydliad Iechyd y Byd (Saesneg)





