Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn darparu adnoddau, gwybodaeth a chyngor i alluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru, Comisiwn Iechyd Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG i gyflawni eu swyddogaethau iechyd cyhoeddus statudol.
I wneud hyn, mae ICC yn darparu ystod lawn o wasanaethau iechyd cyhoeddus, gan geisio:
- Gwella iechyd a lles pobl Cymru a lleihau anghydraddoldebau mewn iechyd;
- Diogelu yn erbyn afiechydon a bygythiadau iechyd presennol, newydd ac sy’n datblygu; a
- Chyfrannu i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

