Cofnodion 101 i 125 o 1496
-
Atgoffa pobl o’r MMR yn sgil achosion o’r Frech Goch yng Ngorllewin Cymru
Dydd Iau, 29 Tachwedd 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael y brechlyn MMR wrth iddo ymchwilio i achosion o’r frech goch yng Ngorllewin Cymru. -
Adroddiad Gwerthuso Planet Health Cymru
Dydd Iau, 29 Tachwedd 2012, Planet Health CymruCafodd Planet Health Cymru ei lansio ym mis Tachwedd 2010 ac mae wedi ei anelu at ymarferwyr sy’n gweithio ym maes cynllunio, trafnidiaeth, dylunio trefol, datblygu, pensaernïaeth ac iechyd y cyhoedd. -
E-Borth Newydd i Drawsnewid Gwybodaeth yn ymwneud ag Iechyd Meddwl Plant
Dydd Iau, 29 Tachwedd 2012, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanBydd adnabod a thrin pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yn cael ei drawsnewid trwy gyhoeddi e-borth arloesol â’r nod o gynorthwyo gweithwyr proffesiynol i atal dirywiad iechyd meddwl plant. -
Y gwasanaeth ambiwlans yn gweld gostyngiad mewn canwlâu
Dydd Mercher, 28 Tachwedd 2012, 1000 o Fywydau a MwyErs i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ymuno â’r Ymgyrch S.T.O.P, mae nifer y bobl sy’n cael canwlâu gan staff ambiwlans wedi lleihau’n sylweddol. -
Miloedd yn elwa ar ymgyrch strôc a diabetes Un o Bob Deg
Dydd Mercher, 28 Tachwedd 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruCymerodd dros 14,000 o bobl ran mewn ymgyrch iechyd y cyhoedd yn ddiweddar yn targedu dau bla pennaf y wlad – strôc a diabetes. -
Lansio offer newydd i rieni a gweithwyr proffesiynol fynd i’r afael ag addysg rhyw
Dydd Mercher, 28 Tachwedd 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae’r FPA, elusen iechyd rhywiol flaenllaw’r DU, ar ran Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan, wedi creu dau ganllaw newydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol a rhieni sydd yn helpu pobl ifanc i ddeall testun pwysig rhyw a chydberthynas. -
Pobl Ifanc yn eu Harddegau yn y DU heb ‘Unman i Droi’ wrth i Hunan-niwed Gynyddu
Dydd Mercher, 28 Tachwedd 2012, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanGan fod derbyniadau cleifion allanol wedi cynyddu 68% dros y deng mlynedd diwethaf, mae ymchwil newydd yn datgelu nad yw bron tri chwarter y bobl ifanc yn gwybod ble i droi i siarad am hunan-niweidio. -
Gall Cynghorau Lleol Gefnogi Adferiad a Gwella Iechyd a Lles Meddwl ar gyfer Pawb, meddai’r Ganolfan Iechyd Meddwl a Rhwydwaith Iechyd Meddwl Cydffederasiwn y GIG
Dydd Mercher, 28 Tachwedd 2012, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanGall cynghorau lleol a’r Byrddau Iechyd a Lles newydd gefnogi’r gwaith o gomisiynu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar adferiad –yn ogystal â hybu iechyd a lles meddwl mewn cymunedau, yn ôl papur briffio a gyhoeddwyd<Lansio rhaglen newydd ar gyfer Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yng Ngwynedd
Dydd Llun, 26 Tachwedd 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruBydd adnoddau newydd ar gyfer cyflwyno addysg rhyw a pherthnasedd i blant blwyddyn 5/6 (9/10 oed) yn cael eu lansio yng Ngwynedd wythnos yma.Gwella Gwasanaethau ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu
Dydd Gwener, 23 Tachwedd 2012, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanOut of Sight yw adroddiad ymgyrch newydd gan Mencap a’r Sefydliad Ymddygiad Heriol ac mae’n dweud hanes James, Chrissy, Joe, Emmanuel a Victoria. Yn yr adroddiad, mae eu teuluoedd yn siarad am yr esgeulustod a’r cam-drinAdroddiad yn Annog Mwy o Ymwybyddiaeth ynghylch
Dydd Gwener, 23 Tachwedd 2012, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanMae angen mwy o ymwybyddiaeth am hunan-niwed ymysg pobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol, yn ôl ymchwil gan YoungMinds a menter Cello’s Talking Taboos.Hyfforddiant Ymyrraeth Fer ar gyfer Dim Smygu Cymru
Dydd Mercher, 21 Tachwedd 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae’n bleser gan Dim Smygu Cymru gynnig cwrs hyfforddiant ymyrraeth byr un diwrnod, am ddim.Lansio Pecyn Cymorth a Fideo ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol
Dydd Mawrth, 20 Tachwedd 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio fideo newydd am effeithiolrwydd ymyriadau byr ar alcohol ac wedi datblygu pecyn cymorth mewn partneriaeth ag Alcohol Concern Cymru i gefnogi sefydliadau a gweithleoedd i gymryd rhan a hyrwyddo negeseuon allweddol.Cyhoeddi Dogfennau Canllaw Bwyd a Diod ar gyfer Canolfannau Hamdden a Lleoliadau Ieuenctid
Dydd Llun, 19 Tachwedd 2012, Planet Health CymruMae’n bleser gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi dwy ddogfen ganllaw i’w defnyddio mewn Canolfannau Hamdden a Lleoliadau Ieuenctid.Ffederasiwn Ffermydd Dinas a Gerddi Cymunedol
Dydd Llun, 19 Tachwedd 2012, Planet Health CymruMae rhifyn mis Tachwedd o’r cylchlythyr ar gael ac mae’n cynnwys taflen ffeithiau ar randiroedd, tyfu cymunedol a’r system gynllunio, digwyddiadau i ddod, a gwybodaeth am wefan a llinell gymorth sy’n rhoi cyngor proffesiynol i dyfwyr cymunedol.Gwefan Amgylchedd yr Alban
Dydd Llun, 19 Tachwedd 2012, Planet Health CymruMae’r wefan hon yn dod â gwybodaeth am amgylchedd yr Alban ynghyd mewn ffordd hygyrch ac addas i bob defnyddiwr.Rhaglen Mesur Plant Cymru yn dechrau ei ail flwyddyn yn dilyn cyfres o sioeau teithiol llwyddiannus
Dydd Llun, 19 Tachwedd 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae Rhaglen Mesur Plant Cymru wedi dechrau ei ail flwyddyn yn dilyn cyfres o sioeau teithiol â’r nod o hyfforddi staff sy’n gysylltiedig â mesur taldra a phwysau plant yn y dosbarth derbyn yng Nghymru.Y Gweinidog Iechyd yn cefnogi ymgyrch y Diwrnod ATAL Briwiau Gwasgu
Dydd Gwener, 16 Tachwedd 2012, 1000 o Fywydau a MwyMae’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi canmol ymdrechion yn GIG Cymru i leihau briwiau gwasgu, gan gynnig ei chefnogaeth ar y Diwrnod Ewropeaidd ar gyfer ATAL Briwiau Gwasgu ddydd Gwener Tachwedd 16.Mae Gobaith yn tyfu ym Mhrosiect Oasis
Dydd Mercher, 14 Tachwedd 2012, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanMae darn o dir oedd wedi gordyfu wedi’i drawsnewid i randir cynhyrchiol fel rhan o brosiect i helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl.10,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu hyfforddi fel Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Dydd Mercher, 14 Tachwedd 2012, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru GyfanMae 10,000 o bobl ar draws Cymru wedi cael eu hyfforddi i adnabod symptomau problemau iechyd meddwl, ac wedi cael eu haddysgu ar sut i ymdrin â phobl sydd â phroblem a chynnig cymorth iddyn nhw.Dros 1,100 o farwolaethau yng Nghymru wedi eu hachosi gan anafiadau
Dydd Mercher, 14 Tachwedd 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (14 Tachwedd) yn dangos bod dros 1,100 o farwolaethau a bron 42,000 o dderbyniadau i’r ysbyty mewn blwyddyn yng Nghymru wedi eu hachosi gan anafiadau.A ddaw eich tîm chi i'r brig yng Ngwobrau GIG Cymru?
Dydd Mawrth, 13 Tachwedd 2012, 1000 o Fywydau a MwyYdych eich bwrdd iechyd wedi bod yn gwneud gwaith arloesol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion a'r ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu?Gwerthusiad blaenllaw o dechnoleg sgrinio serfigol
Dydd Mawrth, 13 Tachwedd 2012, Iechyd Cyhoeddus CymruMae aelod o Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ennill y wobr gyntaf yng Nghyfarfod Gwyddonol Blynyddol Cymdeithas Cytopatholeg Prydain (BAC) am gyflwyno gwerthusiad o dechnoleg sgrinio gyda chymorth cyfrifiadur.Papur gwyn newydd yn ymchwilio i sicrhau gofal iechyd hynod ddibynadwy
Dydd Llun, 12 Tachwedd 2012, 1000 o Fywydau a Mwy'Achieving High Reliability in NHS Wales' yw teitl y papur gwyn diweddaraf gan 1000 o Fywydau a Mwy. Mae'n defnyddio theori dechnegol a gwaith ymarferol o'r GIG a diwydiannau eraill i ymchwilio i sut y gallai 'gofal iechyd hynod ddibynadwy' wneud GIG Cymru yn lle gwell a mwy diogel i weithio ac i fod yn glaf ynddo.EuroHealthNet yn galw am weithredu ymagwedd Polisïau Iechyd I Bawb
Dydd Gwener, 9 Tachwedd 2012, Planet Health CymruTrwy “Groesi Pontydd” prosiect a ariennir yn fframwaith Rhaglen Iechyd yr UE, ymchwiliodd EuroHealthNet i’r ffordd y gall y sector iechyd weithio’n agosach gyda sectorau eraill i sicrhau bod eu polisïau a’u gweithredoedd yn cyfrannu at iechyd a lles gwell.Cofnodion 101 i 125 o 1496




